Llangelynnin, Conwy: Pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Cyn-blwyf ym Mwrdeisdref Sirol Conwy yw Llangelynnin, hefyd weithiau Llangelynnin (53°14′45″N 3°52′23″W / 53.2458°N 3.8730°W / 53.2458; -3.8730 (Llangelynnin Church)) sydd wedi'i leoli tua tair milltir i'r de o Gonwy, ger pentref bychan Henryd.

Ceir ychydig o ffermydd a thai gwasgaredig yn y cyffiniau, ond yr adeilad mwyaf nodedig yw hen eglwys Celynnin (neu 'Sant Celynin' ar yr arwyddion) a saif yng nghysgod bryn o'r enw Tal y Fan (610m), ac sydd wedi'i chofrestru fel adeilad hynod o bwysig ers 13 Hydref 1966: Gadd I ar gofrest Cadw (Rhif ID Cadw: ID: 3193).

Llangelynnin, Conwy
Llangelynnin, Conwy: Yr ardal oi chwmpas, St. Celynin, Yr eglwys ei hun
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2458°N 3.873°W Edit this on Wikidata
    Mae'r erthygl hon am blwyf ac eglwys ger tref Conwy. Am y pentref o'r un enw ger Tywyn, Meirionnydd, gweler Llangelynnin, Gwynedd.

Saif yr eglwys mewn safle anghysbell, 947 troedfedd uwch lefel y môr, uwchben Dyffryn Conwy, ychydig i'r de-orllewin o bentref Henryd. Cysegrir hi i Sant Celynnin, oedd yn byw yn y 6g. Credir y gall corff yr eglwys ddyddio o'r 12g, ac mae rhannau healaeth ohoni o'r 14g. Adeiladwyd rhan ychwanegol, "Capel y Meibion", yn y 15g.

Llangelynnin, Conwy: Yr ardal oi chwmpas, St. Celynin, Yr eglwys ei hun
Penglog ac esgyrn ar y mur ger y pulpud.

Mae'n adeilad hynod o syml, ac yn debyg iawn i eglwys arall ym Mwrdeisdref Sirol Conwy: Eglwys Llanrhychwyn - er nad yw cyn hyned - gyda rhannau ohoni'n dyddio'n ôl i'r 12g.

Yr ardal o'i chwmpas

Defnyddid yr hen eglwys yn gyson hyd 1840, pan adeiladwyd eglwys newydd yn is i lawr, gerllaw y Groes Inn ar y ffordd B5106. Mae'r eglwys newydd wedi cau bellach, ond mae ambell i wasanaeth yn cael ei gynnal yn yr hen egllwys yn yr haf. Yn y fynwent mae ffynnon, a elwir yn Ffynnon Gelynnin a cheir gweddillion stabl gerllaw. Mae yma nifer o olion o gyfnod cynharach, Celtaidd yn yr ardal hefyd, a hen draciau yn arwain i gyfeiriad Bwlch y Ddeufaen. Ceir olion cylch o gytiau'n perthyn i'r Oes Haearn gerllaw. Ceir olion bryngaer ar gopa Cerrig-y-ddinas, sydd hefyd gerllaw. Mae'r fynwent yn un gron, sy'n golygu ei bod yma - ar ryw ffurf - cyn Crist.

St. Celynin

Llangelynnin, Conwy: Yr ardal oi chwmpas, St. Celynin, Yr eglwys ei hun 
Hen eglwys Sant Celynnin, Conwy
Llangelynnin, Conwy: Yr ardal oi chwmpas, St. Celynin, Yr eglwys ei hun 
Llangelynnin, Conwy: Yr ardal oi chwmpas, St. Celynin, Yr eglwys ei hun 

Sant o'r 6g oedd Celynnin, ac yn ôl y traddodiad roedd yn un o feibion y Tywysog Helig ap Glanawg, a breswyliai yn Llys Helig (olion a ffurfiwyd o graig!) ger Penmaenmawr. Mae'n bosib fod Celynnin yn perthyn i Rhun, mab Maelgwn Gwynedd, Tywysog Gwynedd, a drigai yn y 6g, ac roedd ganddo frawd o'r enw Rhychwyn.

Yr eglwys ei hun

Ychydig iawn o newidiadau a fu yn yr hen eglwys yn y ddau gan mlynedd diwethaf, sy'n golygu fod llawer o nodweddion pwysig wedi'u cadw.

Y rhan hynaf o'r eglwys yw ei chanol, sy'n dyddio'n ôl i'r 12g. Mae'n debyg i'r gangell gael ei hychwanegu yn y 14g. Mae trawstiau pren y to (15g) yn dderw tywyll a thros y blynyddoedd fe drwsiwyd rhannau o'r to gyda phren yw, sydd o bosib wedi'u tyfu yn y fynwent, gan fod olion coed yw i'w cael yno. Lluniwyd y trothwy a chromfachau'r drws yn y 14g er bod y drws ei hun ychydig yn iau.

Yn y 15g y codwyd y cyntedd, ac mae ynddo ffenestr fechan anghyffredin iawn, yn y wal dwyreiniol.

Gyferbyn a Chapel y Meibion, ceid capel arall, sef "Capel Eirianws", a enwyd ar ôl fferm gyfagos; mae'n ddigon posib mai perchennog y fferm a dalodd am ei adeiladu. Dymchwelwyd Capel Eirianws yn y 19g, ond gwelir olion ohono o'r tu allan.

Y tu allan

Y tu fewn

Y ffynnon

Mewn cornel fechan o wal y fynwent swatia ffynnon wedi'i gwarchod gan wal betrual, amddiffynnol; ffynnon a elwir yn "Ffynnon Gelynnin". Oddi fewn ceir pwll o ddŵr, sydd hefyd yn siâp petrual. Credir ei bod yn medru gwella plant sâl. Byddai'r rhieni'n gosod eitemau megis dillad y plentyn yn y dŵr ac os byddai'r dilledyn yn arnofio, yna byddai'r plentyn yn gwella, ac yn byw.

Ar un cyfnod roedd to'n gorchuddio'r ffynnon, ac fel arfer gosodid meinciau hefyd. Mae'n ddigon posib mai'r ffynnon oedd yma gynaf - cyn yr eglwys - ac mai dyma pam y sefydlwyd yr eglwys yn y lleoliad hwn.

Llyfryddiaeth

  • H. Harold Hughes & Herbert L. North The old churches of Snowdonia (Bangor, Jarvis & Foster, 1924)

Tags:

Llangelynnin, Conwy Yr ardal oi chwmpasLlangelynnin, Conwy St. CelyninLlangelynnin, Conwy Yr eglwys ei hunLlangelynnin, Conwy Y ffynnonLlangelynnin, Conwy LlyfryddiaethLlangelynnin, ConwyCadwConwyConwy (sir)HenrydTal y Fan

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Jacob Astley, Barwn Astley o Reading 1afNatalie WoodElton JohnMary BarbourBuffalo County, NebraskaPDGFRBMount Healthy, OhioDave AttellTheodore RooseveltAdda o FrynbugaPenfras yr Ynys LasAmericanwyr SeisnigWilliams County, OhioAmericanwyr IddewigRasel OckhamPickaway County, OhioParisLlwybr i'r LleuadYr Ail Ryfel BydAmldduwiaethMae Nosweithiau Niwlog Rio De Janeiro yn DdwfnPeiriant WaybackLynn BowlesTawelwchJoyce KozloffKaren Uhlenbeck1927Coron yr Eisteddfod GenedlaetholAmffibiaidPreble County, OhioFrancis AtterburyMontgomery County, OhioSeneca County, OhioCaltrainCysawd yr HaulRiley ReidToo Colourful For The LeagueMassachusettsSex TapeRoxbury Township, New JerseyZeusBaltimore County, MarylandDiwrnod Rhyngwladol y GweithwyrNevadaSosialaethJohn DonneJohn BetjemanSiôn CornAndrew MotionJames CaanPhoenix, ArizonaTeaneck, New JerseyElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigY Forwyn FairWinslow Township, New JerseyStreic Newyn Wyddelig 1981CyffesafGweinlyfuKellyton, AlabamaPen-y-bont ar Ogwr (sir)Urdd y BaddonAnna Brownell JamesonRhyw llaw16 MehefinY rhyngrwydCellbilen🡆 More