Newyddiadurwr a chyfreithiwr o Loegr oedd Syr John Stoddart (6 Chwefror 1773 – 16 Chwefror 1856), a wasanaethodd fel golygydd The Times.
John Stoddart | |
---|---|
Ganwyd | 6 Chwefror 1773 Caersallog |
Bu farw | 16 Chwefror 1856 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, newyddiadurwr |
Tad | John Stoddart |
Priod | Isabella Wellwood-Moncreiff |
Plant | Mary Ann Stoddart, Isabella Maxwell Stoddart, Henry Moncrieff Stoddart, John Frederick Stoddart, William Wellwood Stoddart |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Fe annwyd Stoddart yng Nghaersallog, ac ef oedd mab hynaf John Stoddart, a oedd yn raglaw yn y Llynges Frenhinol. Priododd Sarah (ei unig chwaer) â William Hazlitt ar 1 Mai 1808. Addysgwyd Stoddart yn Ysgol Ramadeg Salisbury, ac wedi hynny yn Christ Church, Rhydychen, lle yr ymaelododd ar 25 Hydref 1790, a graddiodd yn B.A yn 1794, B.C.L yn 1798, a D.C.L yn 1801. Derbyniwyd ef yn aelod o Goleg yr Eiriolwyr yn 1801, ac o 1803 hyd 1807 bu yn Eiriolwr y Goron a'r Morlys yn Malta. Yn ystod ei amser ym Malta ymwelodd Samuel Taylor Coleridge â Stoddart.
Wedi hynny dychwelodd Stoddart i Loegr i ymarfer yn y Doctors Commons. Cychwynnodd gysylltiad â'r Times, yn 1810 a gwasanaethodd fel arweinydd-awdur o 1812 ymlaen. Daeth Stoddart i gytundeb â John Walter yn Ebrill 1890 efo perchennog y Times, i ddod yn olygydd y papur newydd. Ysgogodd ei gydymdeimlad pybyr gyda'r Torïaid gerydd, ond gwrthododd Stoddart gais Walter iddo gymedroli ei dôn, ac o ganlyniad awdurdododd Walter Thomas Barnes, gohebydd ar y pryd, i olygu erthyglau blaenllaw Stoddart. Fodd bynnag, cynyddodd anwadalwch gwleidyddol Stoddart nes iddo gael ei ddiswyddo gan Walter yn ystod gaeaf 1816. Daeth Barnes yn olynydd iddo.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Stoddart, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.