Barnau a chredoau cyfrinachol yw esoteriaeth sydd gan amlaf o ddiddordeb i grŵp gyfyngedig.
Mae'n cynnwys ystod eang o athroniaethau ac athrawiaethau, sydd yn aml yn cynnwys agweddau crefyddol, goruwchnaturiol, neu ysbrydol.
Tardda'r gair o'r Roeg, esōterō, sef "mewnol". Roedd yr athronydd a'r mathemategwr Pythagoras yn darlithio o tu ôl i len. Roedd y rhai oedd yn mynychu ei ddarlithoedd ond oedd heb ganiatâd i weld ei wyneb yn ddisgyblion ecsoterig (allanwyr), a'r rhai oedd yn cael gweld ei wyneb yn ddisgyblion esoterig. Mabwysiadodd Aristoteles yr un dermau am ei ddisgyblion.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Esoteriaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.