Dydd Mawrth Ynyd yw'r diwrnod o flaen Dydd Mercher y Lludw, sef y diwrnod olaf cyn dechrau gŵyl y Grawys yn y calendr Cristnogol.
Cyfeirir ato ar lafar yn gyffredinol fel Dydd Mawrth Crempog am ei fod yn arfer bwyta crempogau; ceir dywediad Cymraeg traddodiadol am hyn, sef "Dydd Mawrth Ynyd, crempog bob munud". Daw'r gair Cymraeg 'ynyd' o'r gair Lladin initium ('cychwyn'), cyfeiriad at agosáu'r Grawys. Fe'i gelwir yn Mardi Gras mewn llawer o wledydd Catholig, sef "Dydd Mawrth Tew", gan mai'r arfer oedd bwyta pob math o fwydydd a danteithion cyn dechrau ar ymprydio, a oedd yn rhan o'r Grawys, y deugain diwrnod sy'n rhagflaenu'r Pasg.
Yng Nghymru mae'n hen ŵyl: roedd yn boblogaidd yn yr Oesoedd Canol pan oedd Cymru'n wlad babyddol. Arferid bwyta'r olaf o stôr menyn a saim yn y tŷ trwy wneud crempogau. Roedd y tlodion yn arfer 'blawta' a 'blonega', sef hel blawd a bloneg i wneud crempogau. Mewn rhannau o'r wlad hyd at ddechrau'r 20g byddai plant yn mynd o dŷ i dŷ i fofyn crempogau. Cenid pennill wrth y drws. Dyma fersiwn o ardal Arfon, Gwynedd:
Roedd arferion eraill ar Ddydd Mawrth Ynyd yn cynnwys ymladd ceiliogod a chwarae math o bêl-droed gyntefig. Roedd yr olaf yn boblogaidd yn Ne Cymru, er enghraifft yn ardal Arberth, Sir Benfro. Byddai merched yn dod â basgedi llawn o grempogau i roi i'r chwaraewyr niferus. Gêm wyllt heb fawr o reolau ydoedd ac yn fwy o reiat na chystadleuaeth oedd hon, a byddai pobl barchus yn cau eu ffenestri rhag ofn iddynt gael eu torri.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dydd Mawrth Ynyd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.