O gofio cwrwgarwch cynhenid y Cymry, does fawr o syndod bod y Cymry'n bencampwyr yn y chwaraeon hynny – snwcer a dartiau – sydd â'u cartref yn y dafarn.
Dau o'r chwaraeon mwyaf poblogaidd yng Nghymru yw pêl-droed a rygbi. Chwaraeir hefyd dartiau, snwcer, criced, syrffio, dringo, golff, paffio, athletau, ralïo, hoci iâ, a phêl-fas.
Tri o hen chwaraeon gwerin Cymru oedd cnapan, bando, a'r hen bêl-droed. Chwaraeid y rhain gan niferoedd mawr o ddynion, yn aml holl plwyf yn erbyn plwyf neu ardal arall. Ar ddydd Sul neu ar ddyddiau gŵyl yr eglwys, hynny yw y Nadolig, y Pasg, Dydd Mawrth Ynyd a gwyliau'r seintiau, roedd y gemau yma'n cael eu chwarae. Achos i'r boblogaeth wledig dod at ei gilydd oedd rhain: roedden nhw'n treulio'r noson cyn yr ŵyl yn yr eglwys yn gweddïo, ac yn mwynhau eu hunain yn y prynhawn ar y dydd. Roedd y gwragedd a'r plant lleol yn tyrru i weld y gemau, rhai ohonynt gyda bwyd a diod i gadw'r chwaraewyr i fynd. Roedd rhai chwaraeon eraill yn digwydd yn y fynwent ac o gwmpas yr eglwys ar yr un pryd: tenis, dawnsio o gwmpas y Fedwen Fai, a chwarae pêl-law yn erbyn muriau'r eglwys. Bu eraill yn chwarae dîs a chardiau ym mhorth yr eglwys, ac yn betio ar y gemau ac yn meddwi. Cafodd y traddodiadau hyn eu taro'n gryf gan agweddau'r Diwygiad Methodistaidd a deddfau yn erbyn chwarae ar y Sul. Fe aeth llawer o hen chwaraeon y Cymry ar goll, ac yn sgil y Chwyldro Diwydiannol daeth y Saeson â'u mabolgampau nhw i drefi a phentrefi'r pyllau glo.
Ffurf ar bêl droed gwerinol yr Oesoedd Canol ond ychydig yn debycach i rygbi oedd cnapan. Roedd y fath gêm yn boblogaidd ledled Cymru ond chwaraeid o dan yr enw hwn yng ngogledd Sir Benfro a de Ceredigion. Y cnapan oedd yr enw ar y bêl, hynny yw pêl bren fechan wedi ei berwi mewn saim er mwyn ei gwneud hi'n llithrig ac yn anodd ei dal. Nod y gêm oedd i daflu'r cnapan yn ôl ac ymlaen gan geisio'i gadw'n agos at gôl eich hunan, sef man penodol ar eich tiriogaeth eich hun, gan amlaf porth neu gyntedd yr eglwys. Gollyngid y bêl hanner ffordd rhwng y ddwy gôl a'i llain chwarae oedd yr holl dir agored rhyngddynt. Yn ogystal â'r nifer fawr o ddynion ar draed, roedd hefyd chwaraewyr ar gefn ceffylau ac yn cario pastwn, a chanddynt yr hawl i bastynu dyn o'r tîm arall gyda'r cnapan yn ei feddiant nes ei fod e'n taflu'r cnapan. Roedd y gêm yn gorffen pan oedd y cnapan yn mynd yn rhy bell i'r tîm arall ei gael yn ôl cyn diwedd y dydd. Erbyn y 19eg ganrif fe'i gwaharddwyd yn aml gan yr awdurdodau oherwydd y betio a'r trais a oedd yn gysylltiedig â'r gêm.
Gêm yn debyg i hoci neu hyrli oedd bando. Ceisiai tîm â chynifer â 30 o chwaraewyr fwrw pêl rhwng pyst eu gwrthwynebwyr. Defnyddid ffyn crwca i daro'r pêl fach gron yn ôl ac ymlaen. Chwaraeid bando ar y traethau gwastad ar lannau'r môr.
Chwaraeid yr hen ffurf o bêl-droed mewn strydoedd y dref neu'r pentref. Y brif wahaniaeth o ran rheolau rhwng cnapan a'r ffurf hon o bêl-droed oedd y gellid ddefnyddio'r dwylo i gyffwrdd y cnapan: dim ond cicio'r bêl â'r traed a ganiateid mewn gornest pêl-droed. Swigen neu bledren eidion mewn câs o ledr oedd y bêl. Roedd y bêl yn ysgafn ond yn hawdd ei byrstio ac felly roedd eisiau wyth neu naw o beli mewn gornest go fawr. Porth yr eglwys oedd y gôl yn aml. Parhaodd yr ornest draddodiadol ar Ddydd Mawrth Ynyd hyd y 1890au yn Arberth, Sir Benfro.
Wrth chwarae pêl, neu bêl-law, bu dau neu bedwar chwaraewr yn eu tro yn taro pêl gyda chledr y llaw yn erbyn wal o fewn cwrt tair ochr (megis cwrt sboncen). Mae'n debyg i'r gêm Seisnig pummau a phêl-law Gwyddelig. Roedd yn boblogaidd o'r Oesoedd Canol ymlaen a datblygodd yn gêm gystadleuol ym maes glo'r de yn y 19eg ganrif. Adeiladwyd cyrtiau ger y tafarnau a roddai nawdd i'r gornestau; "plaen" oedd yr enw lleol ar y cwrt. Chwaraewyd gornestau rhyngwladol ar y plaen pêl yn Nelson, Caerffili, ar ddiwedd yr 20g.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Chwaraeon yng Nghymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.