Chwarel yng ngogledd Sir Benfro, rhwng Llanfyrnach a Chrymych oedd Chwarel y Glog.
Roedd yn cynhyrchu llechi, lloriau cerrig, cerrig beddau ac mae sôn ei bod hyd yn oed yn cynhyrchu coffinau cerrig.
Un o'r perchnogion cyntaf oedd John Owen, fferm y Glog. Mab iddo, y John Owen oedd yn gyfrifol am ddod â'r rheilffordd i'r ardal, rheilffordd a adwaenwyd fel y Cardi Bach. Mae cofgolofn iddo ym mynwent Capel Llwyn-yr-hwrdd, sydd i'r dwyrain o'r chwarel.
Yn ugeiniau'r 20g daeth E Lloyd Humphreys yn reolwr ar y chwarel. Roedd wedi bod yn reolwr ar Chwarel yr Oakeley yn y gogledd. Bu yn ddylanwadol iawn ar fywyd diwylliannol yr ardal. Ef fu yn gyfrfol am ddechrau Cymdeithas Ddiwylliannol Llwyn-yr-hwrdd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Chwarel y Glog, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.