Mae'r Dylluan Glustiog (Asio flammeus) yn aelod o deulu'r Strigidae, fel y rhan fwyaf o dylluanod.
Tylluan Glustiog | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Strigiformes |
Teulu: | Strigidae |
Genws: | Asio |
Rhywogaeth: | A. flammeus |
Enw deuenwol | |
Asio flammeus (Pontoppidan, 1763) |
Mae'n aderyn cyffredin neu gweddol gyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, Asia, Gogledd America a De America.
Mae'r Dylluan Glustiog yn aderyn mudol i raddau, yn symud tua'r de yn y gaeaf o'r rhannau lle mae'r gaeafau'n oer. Mae hefyd yn bsarod i grwydro os yw bewyd yn brin.
Adeiledir y nyth ar lawr ar dir agored, rhostir fel rheol. Ma'n dodwy 3 neu 4 o wyau fel rheol, ond os oes digon o fwyd ar gael gall ddodwy hyd at ddwsin. Mae'n hela mamaliaid bychain, yn enwedig gwahanol fathau o lygod, dros dir agored, ond gall fwyta adar hefyd. Gellir gweld y dylluan yma yn hela yn ystod y dydd, yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r tylluanod.
Mae'r Dylluan Glustiog rhwng 34 a 42 cm o hyd a 90–105 cm ar draws yr adenydd; mae'r adenydd yn edrych yn hir o'u cymharu a maint yr aderyn. Mae'r plu yn frown gan mwyaf, ac yn oleuach ar y bol. Un ffordd o wahaniaethu rhwng y dylluan yma a't Dylluan Gorniog, sy'n medru edrych yn debyg iawn, yw fod gan y Dylluan Glustiog lygaid melyn, tra mae llygaid y Dylluan Gorniog yn oren. Fel rheol nid yw'r "clustiau", sy'n blu hirach o gwmpas y clustiau mewn gwirionedd, yn amlwg iawn, ond maent yn cael eu codi os oes ar y dylluan eisiau gwrando ar rywbeth.
Yng Nghymru mae nifer cymharol fychan o'r dylluan yma yn nythu, yn yr ucheldiroedd fel rheol. Yn y gaeaf mae'r rhain yn dod i lawr i dir isel, yn aml gerllaw'r môr, ac mae rhai adar o wledydd eraill yn ymuno â hwy.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tylluan glustiog, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.