Defnyddir alcoholau mewn gwahanol ffyrdd yn y maes meddygol, fel antiseptig, diheintydd, a gwrthgyffur.
Gosodir ar y croen er mwyn ei ddiheintio cyn ei frechu a nodwydd neu cyn llawdriniaeth. Defnyddir i ddiheintio croen y claf ynghyd â dwylo'r darparwyr gofal iechyd. Mae modd glanhau ardaloedd eraill gydag alcohol. Fe'i defnyddir mewn cegolchion. Wrth ei gymryd drwy'r geg neu ei chwistrellu i mewn i wythïen gall drin gwenwyndra methanol neu ethylen glycol pan na fydd fomepizole ar gael. Ac eithrio'r enghreifftiau uchod, ni cheir defnydd meddygol canmoladwy arall i alcohol, o ystyried mai 10:1 yn unig yw mynegai therapiwtig ethanol.
Enghraifft o'r canlynol | cyffur hanfodol |
---|---|
Math | antiseptic, disinfectant, antidote |
Deunydd | ethanol |
Gall alcohol arwain at ymdeimlad o gosi ar y croen. Dylid cymryd gofal gyda electrocautery gan fod ethanol yn llosgadwy. Defnyddir gwahanol fathau o alcohol gan gynnwys ethanol, ethanol annaturiol, 1-propanol, ac alcohol isopropyl. Gweithia'n effeithiol yn erbyn ystod o ficro-organeddau, serch hynny nid yw'n llonyddu sborau. Rhaid defnyddio crynoadau o 60 i 90% er mwyn cael y canlyniadau gorau.
Defnyddiwyd alcohol fel antiseptig mor gynnar â'r flwyddyn 1363 a cheir tystiolaeth i gefnogi y gwnaed defnydd agored ohono o ddiwedd y 1800au ymlaen. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Yn y byd datblygol ei gost gyfanwerthol yw oddeutu 1.80 i 9.50 o ddoleri i bob litr o ethanol annaturiol 70%. I'r GIG yn y Deyrnas Unedig mae'n costio oddeutu 3.90 o bunnoedd Prydeinig i bob litr o alcohol annaturiol 99%. Mae fformwleiddiadau masnachol yn cynnwys alcohol a chynhwysion eraill megis chlorhexidine ar gyfer defnydd golchi dwylo hefyd ar gael.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Alcohol (meddyginiaeth), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.