Ysgolfeistr a phrifathro ysgolion Felinwnda ac wedyn Rhostryfan ym mhlwyf Llanwnda, Sir Gaernarfon, oedd William Gilbert Williams (20 Ionawr 1874 – 10 Hydref 1966).
Ysgrifennodd yn helaeth ar bynciau hanesyddol lleol, gan gyfrannu at Cymru coch a phapurau lleol.
William Gilbert Williams | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ionawr 1874 Rhostryfan |
Bu farw | 10 Hydref 1966 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, hanesydd |
Cyhoeddodd nifer o bamffledi (sydd bellach yn hynod gasgladwy) ar ei wasg ei hun, ynghyd â nifer o lyfrau mwy sylweddol. Roedd o hefyd yn fardd lleol o sylwedd ac ysgrifennodd o leiaf ddwy ddrama a gweithiau ar gyfer plant. Ei brif lwyddiant fodd bynnag oedd ym maes hanes ei filltir sgwâr; mae'n ddigon posib mai ef oedd y cyntaf i edrych yn fanwl ar bapurau Llys Chwarter y Sir trwy lygaid hanesydd modern. Roedd ymysg y cyntaf i gyflwyno hanes ardal benodol yn seiliedig ar ymchwil manwl trwy ddefnyddio ffynonellau primaidd.
Bu'n weithgar yn gyhoeddus, gan wasanaethu am 10 mlynedd fel cynghorydd sir a llenwodd sawl swydd o bwys o fewn ei enwad, y Methodistiaid Calfinaidd.
Ceir peth o hanes ei deulu yn llyfr ei frawd John ["J.W."], sef Hynt Gwerinwr. Mae nodiadau a dyddiaduron o'i eiddo ar gadw yn Archifdy Gwynedd, Caernarfon ac Archifdy Prifysgol Bangor.
Mae plac wedi'i godi i'w goffáu ar ei gartref, Talybont, ym mhentref Rhostryfan.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article William Gilbert Williams (hanesydd), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.