Sefydlwyd prosiect newydd yng nghyfarfod cynta'r Grwp Defnyddwyr yn Aberystwyth, sef Wiciprosiect Wici365.
Daeth y syniad yn wreiddiol gan Defnyddiwr:Stefanik ac aeth rhai defnyddwyr ati'n syth i geisio creu un erthygl (swmpus!) y dydd; ymunodd eraill ymhen ychydig wythnosau. Mae croeso i unrhyw un ymuno - unrhyw dro!
Y nod yw ceisio cyfartaledd o un erthygl swmpus y dydd, dros gyfnod o flwyddyn!
Bydd pawb sy'n cyflawni'r gamp yn derbyn gwobr, a baner arbennig ar ei ddalen defnyddiwr (ee Uwch-Olygydd Anrhydeddus Wici365!)
Ychwanegwch eich henw isod, crewch ddolen a rhestrwch teitlau'r erthyglau newydd rydych yn eu creu, wrth fynd yn eich blaen.
Os ydych yn dechrau ar 5 Hydref 2018, byddwn yn cyfri eich herthyglau o 5 Hydref 2018 hyd at 5 Hydref 2019.
Ychwanegwch eich erthygl at eich rhestr, yn ddyddiol os fedrwch, gan ddilyn y fformat a osodwyd. Does dim rhaid ychwanegu sawl beit yw'r erthygl, ond mae croeso i chi wneud. Unrhyw awgrymiadau eraill - dalen Sgwrs os gwelwch yn dda!
...
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wicipedia:Wicibrosiect Wici365, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.