Pwdin traddodiadol sy'n tarddu o Swydd Efrog yn Lloegr yw pwdin Efrog.
Fe'i wneir o gytew a bwyteir yn aml â chig eidion rhost a grefi. Nid hon yw'r ffordd gywir o weini pwdin Efrog yn Swydd Efrog, fodd bynnag. Yn draddodiadol fe'i weinid yn gyntaf, gyda grefi a wnaed o suddion y cig a rostiwyd, a gofelid fod digonedd i bawb. Byddai hyn, meddid, yn llenwi boliau gyda bwyd rhad, ac wedyn caed y prif gwrs, o gig a llysiau. Gan fod pawb wedi torri min eu hawch am fwyd, byddai modd rhoi llai o gig drud ar y platiau (gan gadw digon ar gyfer prydiau yn ystod yr wythnos). Mae'r gair "pwdin" yn hollol addas gan mai'r arfer oedd peidio â gweini pwdin melys i ddilyn y cig!
Math | pwdin |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Yn cynnwys | llaeth, wy, blawd |
Enw brodorol | Yorkshire pudding |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pwdin Efrog, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.