Tref yn Iwerddon yw Cill Chainnigh (Saesneg: Kilkenny), sy'n dref sirol Swydd Cill Chainnigh yn nhalaith Leinster, Gweriniaeth Iwerddon.
Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain yr ynys tua 38 milltir i'r gogledd o Waterford a thua 65 milltir i'r de-orllewin o'r brifddinas, Dulyn. Saif ar lan Afon Nore. Roedd poblogaeth Cill Chainnigh yn y cyfrifiad diwethaf yn 22,179 (2011).
Math | dinasoedd seremoniol yng Ngweriniaeth Iwerddon, dinas, cyngor tref yng Ngweriniaeth Iwerddon, tref |
---|---|
Poblogaeth | 22,179 |
Gefeilldref/i | Yangzhou, Moret-sur-Loing, Formigine |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Kilkenny |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Arwynebedd | 26.76 km² |
Uwch y môr | 60 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Ballyragget |
Cyfesurynnau | 52.6477°N 7.2561°W |
Cod post | R95 |
Dyma un o drefi hanesyddol mawr Iwerddon, gyda dwy gadeirlan, castell a nifer o adeiladau eraill. Ceir amgueddfa sy'n esbonio hanes Kilkenny yn Nhŷ Rothe. Yma hefyd mae bragdy E. Smithwick & Sons, hoff gwrw Iwerddon ar ôl Guinness.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cill Chainnigh, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.