Enw ar y costau ariannol sydd angen er mwyn cynnal rhyw safon byw benodol yw costau byw.
Fel arfer, cyfrifir costau byw yn nhermau costau cyfartalog o swp o nwyddau a gwasanaethau a ystyrir yn angenrheidiol i grŵp neilltuol o bobl, er enghraifft yr hyn sydd angen i fyw'n iach neu i gynnal teulu mewn ardal benodol, neu'r safon byw isaf ar gyfer yr incwm cyfartalog.
Mae mesur costau byw yn bwysig er mwyn i'r llywodraeth bennu cymorth ariannol i bobl dlawd, budd-daliadau yswiriant cymdeithasol, lwfans teulu, gollyngiadau treth, ac isafsymiau cyflog.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Costau byw, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.