Saif Bwlch Sant Bernard Mawr (Ffrangeg: Col du Grand Saint-Bernard, Eidaleg: Colle del Gran San Bernardo) yn yr Alpau, ar y ffin rhwng y Swistir a'r Eidal.
Mae pen y bwlch 2469 metr uwchben lefel y môr, gyda ffordd yn cysylltu Martigny yn y Swistir ag Aosta yn yr Eidal. Adeiladwyd y ffordd yn 1905, a gall fod ar gau rhwng Hydref a Mai.
Math | bwlch, border crossing |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Italy–Switzerland border, State road 27, Main road 21 |
Sir | Valais, Valle d'Aosta |
Gwlad | Y Swistir Yr Eidal |
Uwch y môr | 2,469 metr |
Cyfesurynnau | 45.8689°N 7.1706°E |
Cadwyn fynydd | Alpes Grand Combin |
Statws treftadaeth | Swiss townscape worthy of protection |
Manylion | |
Yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig, roedd teml yma i Iau, a gelwid y bwlch yn Col de Mont Iuppiter. Yn 1035, adeiladwyd hospicio yma gan Sant Bernard o Menthon, gyda chanoniaid oedd a'r dyletswydd o gynorthwyo teithwyr tros y bwlch. O leiaf o'r 16g, roedd y canoniaid yn magu cŵn mawr i helpu yn y gwaith o achub teithwyr, a datblygodd brîd a ddaeth yn enwog fel Ci Sant Bernard.
Yn 773, croesodd Siarlymaen y bwlch gyda byddin yn ystod ei ymgyrch yn erbyn y Langobardi, ac yn 1800 arweiniodd Napoleon fyddin o 30,000 tros y bwlch i yrru'r Awstriaid o Lombardi.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bwlch Sant Bernard Mawr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.