Gwleidydd Ceidwadol o Gymru oedd Edward Vaughan (bu farw 5 Rhagfyr 1718), o Lan-y-Llyn, sir Feirionnydd a Llwydiarth, sir Drefaldwyn, oedd yn aelod o Dŷ'r Cyffredin am 43 mlynedd o 1675 hyd 1718.
Am gyfnod byr, ef oedd "tad y tŷ" sef yr un oedd wedi bod yn aelod am yr amser hiraf.
Edward Vaughan | |
---|---|
Ganwyd | 17 g |
Bu farw | 5 Rhagfyr 1718 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1af Prydain Fawr, Aelod o Ail Senedd Prydain Fawr, Aelod o 3ydd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 4edd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 5ed Senedd Prydain Fawr, Member of the 1679 Parliament, Member of the 1680-81 Parliament, Member of the 1685-87 Parliament, Member of the 1681 Parliament, Member of the 1689-90 Parliament, Member of the 1690-95 Parliament, Member of the 1695-98 Parliament, Member of the 1698-1700 Parliament, Aelod o Senedd 1701, Aelod o Senedd 1701-02, Aelod o Senedd 1702-05, Aelod o Senedd 1705-07 |
Roedd yn fab hynaf i Hywel Vaughan o Lan-y-Llyn, Meirionnydd a'i wraig Elizabeth Jones, merch Humphrey Jones o Ddol, Sir y Fflint. Etifeddodd stadau Llwydiarth a Llangedwyn, Sir Ddinbych gan ewythr ei wraig Edward Vaughan AS yn 1661, ac olynodd ei dad yn 1669. Priododd Mary Purcell, merch John Purcell, sef AS Nantcribba, yn 1672.
Penodwyd Vaughan yn ddirprwy-raglaw sir Drefaldwyn a sir Feirionnydd o 1674 hyd 1688; dros sir Feirionnydd o 1689 hyd 1696; a thros sir Drefaldwyn o 1701 hyd at ei farwolaeth. Bu'n Uchel Siryf sir Drefaldwyn rhwng Ionawr-Tachwedd 1688 ac yn Custos Rotulorum sir Feirionnydd o 1711 hyd 1714.
Etholwyd Vaughan yn Aelod Seneddol (AS) dros sir Drefaldwyn mewn etholiadau cyffredinol ym mis Mawrth 1679, mis Hydref 1679, 1681, 1685, 1689, 1690, 1695, 1698, Chwefror 1701, mis Rhagfyr 1701, 1702, 1705, 1705, 1713 a 1715.
Bu farw Vaughan ym mis Rhagfyr, 1718. Roedd ganddo ddwy ferch ac un mab, a fu farw o'i flaen. Aeth ei eiddo i'w fab-yng-nghyfraith, Watkin Williams Wynn a briododd ei ferch Ann.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Edward Vaughan (gwleidydd), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.