Gwleidydd Edward Vaughan

Gwleidydd Ceidwadol o Gymru oedd Edward Vaughan (bu farw 5 Rhagfyr 1718), o Lan-y-Llyn, sir Feirionnydd a Llwydiarth, sir Drefaldwyn, oedd yn aelod o Dŷ'r Cyffredin am 43 mlynedd o 1675 hyd 1718.

Am gyfnod byr, ef oedd "tad y tŷ" sef yr un oedd wedi bod yn aelod am yr amser hiraf.

Edward Vaughan
Ganwyd17 g Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 1718 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1af Prydain Fawr, Aelod o Ail Senedd Prydain Fawr, Aelod o 3ydd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 4edd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 5ed Senedd Prydain Fawr, Member of the 1679 Parliament, Member of the 1680-81 Parliament, Member of the 1685-87 Parliament, Member of the 1681 Parliament, Member of the 1689-90 Parliament, Member of the 1690-95 Parliament, Member of the 1695-98 Parliament, Member of the 1698-1700 Parliament, Aelod o Senedd 1701, Aelod o Senedd 1701-02, Aelod o Senedd 1702-05, Aelod o Senedd 1705-07 Edit this on Wikidata

Roedd yn fab hynaf i Hywel Vaughan o Lan-y-Llyn, Meirionnydd a'i wraig Elizabeth Jones, merch Humphrey Jones o Ddol, Sir y Fflint. Etifeddodd stadau Llwydiarth a Llangedwyn, Sir Ddinbych gan ewythr ei wraig Edward Vaughan AS yn 1661, ac olynodd ei dad yn 1669. Priododd Mary Purcell, merch John Purcell, sef AS Nantcribba, yn 1672.

Penodwyd Vaughan yn ddirprwy-raglaw sir Drefaldwyn a sir Feirionnydd o 1674 hyd 1688; dros sir Feirionnydd o 1689 hyd 1696; a thros sir Drefaldwyn o 1701 hyd at ei farwolaeth. Bu'n Uchel Siryf sir Drefaldwyn rhwng Ionawr-Tachwedd 1688 ac yn Custos Rotulorum sir Feirionnydd o 1711 hyd 1714.

Etholwyd Vaughan yn Aelod Seneddol (AS) dros sir Drefaldwyn mewn etholiadau cyffredinol ym mis Mawrth 1679, mis Hydref 1679, 1681, 1685, 1689, 1690, 1695, 1698, Chwefror 1701, mis Rhagfyr 1701, 1702, 1705, 1705, 1713 a 1715.

Bu farw Vaughan ym mis Rhagfyr, 1718. Roedd ganddo ddwy ferch ac un mab, a fu farw o'i flaen. Aeth ei eiddo i'w fab-yng-nghyfraith, Watkin Williams Wynn a briododd ei ferch Ann.

Cyfeiriadau

Tags:

17185 RhagfyrLlwydiarthSir FeirionnyddTŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)Y Blaid Geidwadol (DU)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1866S4CGigafactory TecsasBukkakeBrixworthMorlo YsgithrogHarold LloydCordogCyhoeddfaTony ac AlomaSŵnamiMaleisiaCasachstanTamilegFfuglen llawn cyffroCoridor yr M4William Jones (mathemategydd)The BirdcageAni GlassAwdurdodISO 3166-1RhufainMark HughesRichard ElfynSilwairRhyddfrydiaeth economaiddAfon TeifiPont BizkaiaHTTPRhifSeidrEmojiTyrcegEconomi CymruGwenan EdwardsHuw ChiswellHunan leddfuEBayConwy (etholaeth seneddol)AmgylcheddParamount PicturesYsgol Rhyd y LlanYr AlmaenRule BritanniaPwyll ap Siôn22 MehefinRhestr ysgolion uwchradd yng NghymruClewerfietnamSophie DeeKatwoman XxxAngel HeartNovialOjujuOblast Moscfa🡆 More