Cymraeg

Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
(1) haul ein cysawd heulol
(2) Mae'r haul yn torri trwy'r coed mewn gardd ac yn tywynnu'r ddôl

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /haɨ̯l/
  • yn y De: /hai̯l/
    • ar lafar: /hɔi̯l/
  •  haul    (cymorth, ffeil)

Geirdarddiad

Cymraeg Canol heul o'r Gelteg *sāwol o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *sóh₂u̯l̥ a welir hefyd yn y Lladin sōl, yr Otheg sáuil, yr Hen Roeg hḗlios, y Lithwaneg sáulė, yr Afesteg huuarə̄ a'r Sansgrit svàr, sū́rya. Cymharer â'r Gernyweg howl a'r Llydaweg heol; ymhellach â'r Wyddeleg súil ‘llygad’.

Enw

haul g (lluosog: heuliau)

  1. (seryddiaeth) Seren, yn enwedig un sydd yng nghanol cysawd yr haul unigol.
  2. Y golau a gwres a dderbynir wrth yr haul.

Cyfystyron

  • huan

Termau cysylltiedig

  • tarddeiriau: araul, di-heul, gwrth-haul, heulaidd, heulo, heulog, heulol
  • cyfansoddeiriau: haul-addoliaeth, haul-addolwr, heuladdurn, heulbysgodyn, heuldan, heuldes, heuldir, heuldlws, heuldrawiad, heuldro, heulddawns, heulddisg, heuldduw, heulfa, heulfaen, heulfan, heulfelyn, heulfilyn, heulflodyn, heulfynag, heulgi, heulgras, heulguredig, heul-len, heul-lys, heulsaf, heulseren, heulsych, heulwen
  • eli haul
  • gwely haul
  • gwisg haul
  • sbectol haul
  • teras haul

Cyfieithiadau

  • Almaeneg: Sonne b
  • Cernyweg: howl g
  • Eidaleg: sole g
  • Ffrangeg: soleil g
  • Gaeleg yr Alban: grian b
  • Groeg: ήλιος (ílios) g
  • Gwyddeleg: grian b
  • Iseldireg: zon b
  • Llydaweg: heol g, huon g
  • Pwyleg: słońce d
  • Saesneg: sun
  • Sbaeneg: sol g

Homoffon


Sillafiadau eraill

  • (enw priod, y seren y mae'r Ddaear yn cylchu): (prif lythyren) Haul

Enw Priod

yr haul

  1. Y seren y mae'r Ddaear yn cylchu ac yn derbyn golau a gwres wrthi.

Cyfieithiadau

  • Llydaweg: Heol g
  • Saesneg: Sun
  • Sbaeneg: sol g