Georgia

Gwlad ar lannau dwyreiniol y Môr Du yn y Cawcasws yw Georgia neu Siorsia.

Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd cyn ennill ei hannibyniaeth ym 1991. Y gwledydd cyfagos yw Rwsia i'r gogledd, Twrci i'r de-orllewin, Armenia i'r de ac Aserbaijan i'r dwyrain. Rhwng 1990 a 1995, yr enw swyddogol ar y wlad oedd Gweriniaeth Georgia. Tbilisi yw prifddinas y wlad.

Georgia
Georgia
Sakartvelo
Georgia
Arwyddairძალა ერთობაშია Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGeorgiaid Edit this on Wikidata
PrifddinasTbilisi Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,717,100 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 25 Rhagfyr 1991 (gwladwriaeth sofran) Edit this on Wikidata
AnthemTavisupleba Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIrakli Kobakhidze Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00, Georgia Time Edit this on Wikidata
NawddsantSiôr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Georgeg, Abchaseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd69,700 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArmenia, Aserbaijan, Rwsia, Twrci Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42°N 44°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabined Georgia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Georgia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Georgia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSalome Zourabichvili Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Georgia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIrakli Kobakhidze Edit this on Wikidata
Georgia
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$24,605 million Edit this on Wikidata
ArianGeorgian lari Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.816 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.802 Edit this on Wikidata

Cenedl-wladwriaeth ddemocrataidd unedol yw Georgia ac mae treftadaeth hanesyddol a diwyllianol hynafol ganddi. Â gwareiddiad Georgaidd yn ôl mor bell â thair mil o flynyddoedd. Yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol, ystyrir Georgia yn rhan o Ewrop; fodd bynnag mae dosbarthu'r wlad fel un Ewropeaidd neu beidio yn dibynnu ar y ffynhonnell. Weithiau fe'i gelwir yn genedl draws-gyfandirol sy'n rhannol yn Ewrop ac yn rhannol yn Asia.

Daearyddiaeth

    Prif: Daearyddiaeth Georgia

Hanes Cynnar Georgia tan 1991

    Prif: Hanes Georgia
Georgia 
Cwpan Bedia o'r Brenin Bagrat III, 999 AD
Georgia 
Hen Georgia - Colchis ac Iberia

Gelwid Georgia Colchis ac Iberia gan y Groegwyr. Roedd y wlad yn frenhiniaeth sefydlog yn y canrifoedd CC. Yma oedd cartref y Cnu Aur a geisiodd Jason a'i Argonautiaid.

Georgia 
Brenn Iberia Mirian III sefydlodd Cristnogaeth yn Georgia yn AD 327.
Georgia 
Brenin David yr Adeiladwr, mynachlog Shio-Mgvime
Georgia 
Brenhines Tamar a'i thad George III o'r mynachlogdy Betani)
Georgia 
Brenhines Tamar ar furlun o fynachlogdy Vardzia
Georgia 
Brenhiniaeth Georgia ar ei orau, 1184-1225

Daeth y wlad dan y Rhufeinwyr fel "cleient" am 400 mlynedd. Wedi derbyn cristnogaeth tyfodd yn wlad annibynnol. Ildiodd y wlad i'r Arabiaid yn y 7ed ganrif am gyfnod, Yn AD 813, tywysog Ashot I dechreodd y dynasti Bagrationi a barhaodd am 1,000 mlynedd. Unodd gorllewin a dwyrain Georgia dan Bagrat V (1027–72). Erbyn y 12ed ganrif roedd Georgia yn rheoli dros Armenia, arfordir gogledd Twrci a rhan o Aserbaijan, dyma'r "Oes Aur" dan y brenin David a'i Wyres y Frenhines Tamar. Cymerwyd Tblisi yn 1226 gan y Brenin Kwarezmid (Persiaid) Mingburnu cyn syrthio i'r Mongoliaid yn 1236 ac ailfeddianwyd y wlad dan Timur yn 1386 a 1404. O'r 16g ymlaen rhannwyd Georgia rhwng Byzantium a Persia. Arhosodd dan Persia tan i'r brenin Heraclius II dod i rym fel brenin annibynnol yn 1762. Ugain mlynedd ar ôl i Heraclius dod yn frenin daeth dylanwad y Rwsiaid yn gryfach, sefyllfa a barodd ddwy ganrif tan 1991 – heblaw cyfnod byrhoedlog 1918-21. O fewn ffiniau y Georgia presennol mae tiroedd a roddodd i Georgia gan y Rwsiaid (ond bod nhw i gyd wedi dod dan Georgia yn y 12ed ganrif hefyd.)

Hanes Diweddar

Ar 9 Ebrill, 1991 yn syth ar ôl datgymalu'r USSR, cyhoeddodd Georgia ei hannibyniaeth. Ar 26 Mai, 1991 etholwyd Zviad yn Arlywydd ond cododd coup d'état rhwng 22 Rhagfyr 1991 a 6 Ionawr 1992 gyda rhyfel cartref a barodd hyd at 1995. Dychwelodd Eduard Shevardnadze yn ei ôôl i Georgia yn 1992 ac etholwyd ef yn Arlywydd yn 1995. Yn fuan wedyn dechreuodd dwy ranbarth o'r wlad: sef Abkhazia a De Ossetia gweryla â'r llywodraeth ganolog a throdd cweryl yn ymladd. Roedd Rwsia'n ochri gyda'r ddwy ranbarth a oedd yn ceisio eu hanibyniaeth eu hunain. Llwyddodd y ddwy i gael lled-annibyniaeth oddi wrth Georgia. Yn y rhyfel hyn, lladwyd dros 250,000 o Georgiaid yn y ddwy ranbarth. Yn 2003, yn dilyn twyll yn yr etholiadau, gwthiwyd Shevardnadze (a etholwyd yn 2000) o'r neilltu gan Chwyldro'r Rhosod ac etholwyd Mikheil Saakashvili yn ei le yn 2004. Gan fod y wlad wedi ochri gyda Chechniya yn yr Ail Ryfel Chechen, dirywiodd ei pherthynas gyda Rwsia. Ar yr un pryd, dechreuodd yr Unol Daleithiau ei harfogi. Ar 8 Awst, 2008, rholiodd tanciau Rwsia i mewn i Dde Ossetia ac Abkhazia mewn Rhyfel De Ossetia gan ymosod o'r awyr ar fyddin Georgia. Ar 12 Awst cytunodd Arlywydd Rwsia, sef Dmitri Medvedev, ac Arlywydd Ffrainc, sef Nicolas Sarkozy, ar gynllun heddwch chwe phwynt. Cytunodd Arlywydd Georgia gyda'r chwe phwynt:

  1. Dim troi at drais na chymorth treisgar gwledydd eraill.
  2. Rhoi'r gorau i'r ymladd o'r ddwy ochor.
  3. Caniatáu cymorth dyngarol.
  4. Milwyr Georgia i symud yn ôl i'w gwersylloedd arferol.
  5. Milwyr Rwsia i symud yn ôl i ble roeddent cyn y gwrthdaro.
  6. Agor trafodaethau rhyngwladol i sicrhau heddwch a diogelwch pobol y ddwy ranbarth.

Diwylliant

Georgia 
    Prif: Diwylliant Georgia

Economi

    Prif: Economi Georgia

Gweler hefyd

Tags:

Georgia DaearyddiaethGeorgia Hanes Cynnar tan 1991Georgia Hanes DiweddarGeorgia DiwylliantGeorgia EconomiGeorgia Gweler hefydGeorgia199019911995ArmeniaAserbaijanCawcasws (ardal)Môr DuPrifddinasRwsiaTbilisiTwrciUndeb Sofietaidd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Dirty DeedsAccraMinskGwthfwrddBlaengroen21 EbrillFlight of the Conchords1960auYr Undeb EwropeaiddKappa MikeyMiri MawrSwydd GaerloywStygianThomas JeffersonIndienLlywodraeth leol yng NghymruBig BoobsLos AngelesMarie AntoinetteArlene DahlNegarDiwydiantCocênFranz LisztOutlaw KingHaikuY DdaearLukó de Rokha8 TachweddWy (bwyd)LlundainClorinYr Ail Ryfel BydComicLlosgfynyddGlasoedDiffyg ar yr haulDeadsyHunan leddfuD. W. GriffithTwo For The MoneyPeiriant WaybackMET-ArtThe Wicked DarlingTamocsiffenLlên RwsiaHenry AllinghamCascading Style SheetsMetabolaethMicrosoft WindowsJem (cantores)LerpwlFfilmFfilm bornograffigNicaragwaGwlad IorddonenDiltiasemSeidrIsomerNever Mind the BuzzcocksThe Horse BoyNwySun Myung MoonYishuv6 IonawrEroplenMy Pet DinosaurFfibr optigManon Steffan RosPenarlâgPlanhigyn1683Ancien Régime🡆 More