Gwlad yn y Dwyrain Canol ar arfordir y Môr Canoldir yw Gwladwriaeth Israel neu Israel (Hebraeg: מְדִינַת יִשְׂרָאֵל, Medinat Yisra'el; Arabeg: دَوْلَةْ إِسْرَائِيل, Dawlat Isrā'īl).
Cafodd ei sefydlu ym 1948 yn wladwriaeth Iddewig. Mae mwyafrif y bobl sydd yn byw yno yn Iddewon, ond mae Arabiaid yn byw yno, hefyd. Lleolir Libanus i'r gogledd o'r wlad, Syria i'r gogledd-ddwyrain, Gwlad Iorddonen i'r dwyrain, a'r Aifft i'r de. Mae'r Lan Orllewinol a Llain Gaza (ar arfordir y Môr Canoldir) o dan reolaeth Israel sydd hefyd wedi meddiannu Ucheldiroedd Golan. Mae Israel ar arfordir Gwlff Aqabah, y Môr Marw, a Môr Galilea. Fe'i diffinnir yn ôl ei chyfansoddiad yn wladwriaeth Iddewig, ddemocrataidd; hi yw'r unig wladwriaeth â mwyafrif Iddewig yn y byd.
Medīnat Yisrā'el دولة إسرائيل (Arabeg) Dawlat Isrā'īl | |
Math | gwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir, gwlad, rhanbarth, gwlad OECD, gwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tiroedd Israel, Jacob |
Prifddinas | Jeriwsalem |
Poblogaeth | 872,700, 7,412,200, 8,463,400, 8,654,900, 8,796,200, 8,891,800, 9,093,000, 9,840,000 |
Sefydlwyd | drwy Annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Gyfunol 14 Mai 1948 |
Anthem | Hatikva |
Pennaeth llywodraeth | Benjamin Netanyahu |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser Israel, Amser Haf Israel, Asia/Jerusalem, UTC+2, UTC+03:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hebraeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia |
Lleoliad | De Lefant |
Gwlad | Israel |
Arwynebedd | 20,770 km² |
Gerllaw | Môr y Lefant, Môr Galilea, Môr Marw, Gwlff Aqaba, Afon Iorddonen, Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Syria, Gwlad Iorddonen, Yr Aifft, Libanus |
Cyfesurynnau | 31°N 35°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cabined Israel |
Corff deddfwriaethol | Y Knesset |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Israel |
Pennaeth y wladwriaeth | Isaac Herzog |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Israel |
Pennaeth y Llywodraeth | Benjamin Netanyahu |
Sefydlwydwyd gan | David Ben-Gurion |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | 520,700 million doler |
Arian | Sicl newydd Israel |
Canran y diwaith | 66.36 canran |
Cyfartaledd plant | 3.08 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.919 |
Bu mwy a mwy o Iddewon yn ymfudo i'r wlad (a alwyd yn Israel o'r 1920au ymlaen) a oedd ar y pryd o dan lywodraeth Gwledydd Prydain. Fe ddaeth yn wlad noddfa arbennig o bwysig i Iddewon yn sgíl twf Ffasgiaeth a Natsïaeth yn Ewrop yn y 1930au a'r 1940au.
Ceir yma dystiolaeth o ymfudiad cynharaf hominidau allan o Affrica. Gwelir olion archeolegol llwythau Canaaneaidd fu yma ers yr Oes Efydd Ganol, tra daeth Teyrnasoedd Israel a Jwda i'r amlwg yn ystod yr Oes Haearn. Dinistriodd yr Ymerodraeth Newydd Assyria Samarial tua 720 CC, a gorchfygwyd Jwda (rhan bychan o'r Israel a adnabyddir heddiw) yn ddiweddarach gan ymerodraethau Babilonaidd, Persiaidd a Helenistig. Yn Jwda yn y 160au CC, arweiniodd y Gwrthryfel Maccabean llwyddiannus at deyrnas Hasmonaidd annibynnol rhwng 140 CC a 37 CC, ac a ddaeth yn 63CC yn rhan o'r Weriniaeth Rufeinig ac yn 6 ÔC fe'i gwnaed yn dalaith Rufeinig Jwdea. Parhaodd Jwda fel talaith Rufeinig nes i'r gwrthryfeloedd Iddewig a fethodd arwain at ddinistr eang, pan ddiarddelwyd y boblogaeth Iddewig ac ailenwi'r rhanbarth o Iudaea (Jwda) i Palesteina Syria.
Yn y 7g, cymerwyd y Lefant Bysantaidd gan yr Arabiaid ac arhosodd dan reolaeth Fwslimaidd tan y Groesgad Gyntaf yn 1099, ac yna o dan Swltaniaeth yr Aifft, wedi concwest Ayyubid yn1187. Ymestynnodd Swltanad Mamluk yr Aifft ei reolaeth dros y Lefant yn y 13g nes iddo gael ei drechu gan yr Ymerodraeth Otomanaidd ym 1517. Yn ystod y 19g, arweiniodd deffroad cenedlaethol ymhlith Iddewon ledled y byd at sefydlu'r mudiad Seionaidd gan ffewnfudo i Balesteina fesul miloedd.
Gorchfygwyd yr Arabiaid gan yr Ymerodraeth Brydeinig (Lloegr) rhwng 1920 a 1948, a daeth dan Fandad Prydain a daeth y Rheolaeth Otomanaidd i ben. Unwaith y cytunodd y Lloegr i gyflenwi arfau i'r Brigâd Iddewig a ffurfiwyd ganddynt ym 1944, ymunodd Iddewon yr Yishuv gyda Lloegr a'r cynghreiriaid yn swyddogol. Ar ddiwedd y rhyfel, mabwysiadodd y Cenhedloedd Unedig (UN), a oedd yn awyddus i apelio at garfanau Arabaidd ac Iddewig, Gynllun Rhaniad ar gyfer Palestina ym 1947 yn argymell creu gwladwriaethau Arabaidd ac Iddewig annibynnol, a gweinyddu Jeriwsalem yn rhyngwladol. Derbyniwyd y cynllun gan yr Asiantaeth Iddewig ond cafodd ei wrthod gan arweinwyr Arabaidd. Y flwyddyn ganlynol, datganodd yr Iddewon annibyniaeth Israel, ac wedi Rhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948, sefydlwyd Israel fwy neu lai lle bu'r tiroedd dan Fandad, tra bod y Lan Orllewinol a Gaza yn cael eu dal gan wladwriaethau Arabaidd cyfagos. Ers hynny, mae Israel wedi ymladd sawl rhyfel â gwledydd Arabaidd, er mwyn ceisio cynnal y titoedd hyn a orchfygwyd ganddynt, ac ers y Rhyfel Chwe Diwrnod ym Mehefin 1967 nhw hefyd oedd yn rheoli'r hyn a elwir yn "diriogaethau dan feddiant" sy'n cynnwys y Lan Orllewinol, Ucheldiroedd Golan a Llain Gaza.
Ystyrir yn rhyngwladol mai meddiant Israel o diriogaethau Palestina yw'r meddiannaeth filwrol hiraf y byd yn y cyfnod modern. Nid yw'r ymdrechion i ddatrys y gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina wedi arwain at gytundeb heddwch terfynol er bod a bod Israel wedi llofnodi cytundebau heddwch gyda'r Aifft a Gwlad Iorddonen.
Yn ei Deddfau Sylfaenol, mae Israel yn diffinio'i hun fel "gwladwriaeth Iddewig a democrataidd, a chenedl wladwriaeth y bobl Iddewig". FDisgrifir ei gwleidyddiaeth fel "democratiaeth ryddfrydol " gyda system seneddol, cynrychiolaeth gyfrannol, a rhyddhad cyffredinol (Universal suffrage). Y prif weinidog yw pennaeth y llywodraeth a'r Knesset yw'r ddeddfwrfa (tebyg i'r Senedd yng Nghymru). Roedd ganddi boblogaeth o oddeutu 9 miliwn yn 2019, ac mae'n wlad ddatblygedig ac yn aelod OECD.
Ganddi hi mae'r 32fed economi fwyaf'r byd yn ôl CMC enwol, yn bennaf oherwydd y nawdd ariannol, blynyddol mae'n ei dderbyn gan UDA, ac mae ganddi'r safon byw uchaf yn y Dwyrain Canol. Mae ymhlith gwledydd sydd a'r canran uchaf o: dinasyddion sydd â hyfforddiant milwrol, dinasyddion sydd â gradd addysg drydyddol, gwariant ymchwil a datblygu yn erbyn canran CMC, diogelwch menywod, disgwyliad oes, dyfeisgarwch, a hapusrwydd.
O dan Fandad Prydain (1920-1948), enw'r tiriogaeth cyfan oedd 'Palesteina'. Ar ôl annibyniaeth yn 1948, mae'r wlad wedi mabwysiadu'n ffurfiol yr enw 'Gwladwriaeth Israel' ar ôl i enwau hanesyddol a chrefyddol arfaethedig eraill gan gynnwys 'Gwlad Israel ' (Eretz Israel), Seion, a Jwda, gael eu hystyried ond eu gwrthod, tra pasiwyd yr enw 'Israel' (a awgrymwyd gan Ben-Gurion) trwy bleidlais o 6–3 gan ei llywodraeth. Yn ystod wythnosau cynnaf annibyniaeth, dewisodd y llywodraeth y term " Israeliad " i ddynodi dinesydd o Israel.
Mae'r term yn un a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardal o fewn llawysgrifau Hebraeg. Gelwir yr ardal hefyd yn "Wlad Sanctaidd", gan ei bod yn sanctaidd i bob crefydd Abrahamig gan gynnwys Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam a Bahá'í. Trwy'r canrifoedd, roedd y diriogaeth yn hysbys gan amrywiaeth o enwau eraill, gan gynnwys Canaan, Djahy, Samaria, Jwdea, Yehud, Iudaea, Syria Palaestina a De Syria .
Mae'r rhan fwyaf o gymdogion Israel, gan gynnwys y Palesteiniaid, pobl Libanus a'r Aifft yn ddig wrth Israel am yr hyn a wnaeth yn 1948 ac am beidio â rhoi tir a hawliau llawn i'r Palesteiniaid. Ers ei chreu mae Israel wedi brwydro dros ei chornel ac mae sawl rhyfel wedi bod rhyngddi hi a gwledydd cyfagos yn yr hyn a elwir Wrthdaro Arabaidd-Israelaidd. Un o'r ymosodiadau diweddaraf gan Israel yw'r Ymosodiad a wnaeth ar Lain Gaza Rhagfyr 2008 hyd 2009 sef ('Ymgyrch Plwm Bwrw' fel y'i gelwir) a lansiodd ar y 27ain o Ragfyr 2008.
Caiff Israel lawer iawn o arian gan Unol Daleithiau America a ddefnyddir ganddi i brynu arfau, gan gynnwys arfau niwclear; oddeutu $3 biliwn y flwyddyn.
Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y byddai'r Llys Troseddau Rhyngwladol yn agor ymchwiliad i droseddau yn ymwneud ag Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014.
Ymhlith y feirniadaeth gryfaf o Israel mae'r honiad ei bod yn hybu apartheid yn y ffordd mae'n trin y Palesteiniaid; mynegwyd hyn gan nifer o bobl fydenwog, gan gynnwys yr enillydd Gwobr Nobel Desmond Tutu a Nelson Mandela.
Dywedodd Desmond Tutu:
Traethodd Nelson Mandela yn helaeth am y tebygrwydd rhwng Israel a'r hen Dde Affrica, “Our freedom is incomplete without the freedom of the Palestinians”. a nododd Winnie Mandela:
Yn ei lyfr Palestine: Peace Not Apartheid (cyhoeddwyd 2006) dywedodd cyn-Arlywydd Unol Daleithiau America Jimmy Carter, fod yn Israel:
Ar y llaw arall ceir rhai'n mynegi nad oes apartheid yma; dywedodd Benjamin Pogrund, cynrychiolydd Israel yn y Cenhedloedd Unedig “ Occupation is brutalising and corrupting both Palestinians and Israelis ... [b]ut it is not apartheid. Palestinians are not oppressed on racial grounds as Arabs, but, rather, as competitors — until now, at the losing end — in a national/religious conflict for land.”
Mae bwyd Israelaidd yn gymysgedd o fwyd lleol a bwyd a ddaeth o bedwar ban y byd, wrth i'r Israeliaid grynhoi yma yn yr 1950au. Datblygwyd math o fwyd a elwir yn Israeli fusion cuisine. Kosher yw'r bwyd mwyaf poblogaidd a chaiff ei goginio yn ôl yr Halakha Iddewig. Gan fod y boblogaeth naill ai'n Iddewon neu'n Fwslemiaid, pur anaml y gwelir cig moch ar y fwydlen.
Ceir sawl cwmni o Israel sy'n allforio eu cynnyrch, ac sy'n cael eu boicotio gan lawer o bobl:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Israel, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.