Crefydd undduwiaeth gymharol fychan yw Iddewiaeth, â thua 14 miliwn o ddilynwyr (Iddewon) byd-eang.
Daw'r gair Iddewiaeth o'r gair Groeg Ιουδαϊσμός a ddaw o'r Hebraeg יהודה, Iehŵda. Hi yw crefydd y bobl Iddewig. Sylfaen y grefydd yw'r llyfrau o'r Beibl Hebraeg, sef y Tanach, sy'n cynnwys llyfrau'r Torah, Nevi'im a Ketuvim. Mae'r Talmud yn esboniad ar y llyfrau hyn.
Yn 2007, amcangyfrifwyd poblogaeth Iddewig y byd yn 13.2 miliwn, gyda 41% ohonynt yn byw yn Israel a'r 59% arall ar wasgar. Sylwer nad ydy Iddewiaeth yr un peth â Seioniaeth, mudiad Iddewig y gwrthodir ei syniadaeth gan nifer o Iddewon, e.e. y Neturei Karta.
Yn ôl traddodiad, mae'r hanes Iddewig yn dechrau gyda'r Cyfamod rhwng Duw ac Abraham, sef patriarch a chyndad y bobl Iddewig, tua 2000 CC yn ôl y gronoleg Feiblaidd draddodiadol. Iddewiaeth yw un o'r crefyddau hynaf mewn bodolaeth heddiw. Mae athrawiaethau a hanes Iddewiaeth wedi dylanwadu'n fawr ar grefyddau eraill gan greu'r sylfaen ar gyfer y crefyddau Abrahamig mawr eraill, sef Cristnogaeth ac Islam.
Mae Iddewiaeth yn wahanol iawn i nifer o grefyddau cyfoes mor bell â ni welir awdurdod yn un person neu grŵp, ond yn hytrach mewn testunau sanctaidd, traddodiadau a rabbïau addysgedig sy'n dehongli'r testunau a chyfreithiau. Drwy'r oesoedd mae Iddewiaeth wedi glynu at nifer o egwyddorion crefyddol, y pwysicaf ohonynt yw'r cysyniad o un Duw hollalluog a hollwybodol a greodd y bydysawd ac sy'n parhau i'w reoli. Yn ôl cred Iddewig draddodiadol, gwnaeth y Duw a greodd y byd gadarnhau cyfamod gyda'r Israeliaid drwy Moses ar Fynydd Sinai yn ffurf y Torah ysgrifenedig ac ar lafar. Credant taw disgynyddion yr Israeliaid yw holl Iddewon y byd. Mae Iddewiaeth ymarferol draddodiadol yn seiliedig ar yr astudiaeth a chadwraeth rheolau a gorchmynion Duw fel y cawsant eu hysgrifennu yn y Torah a'u hesbonio yn y Talmud.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Iddewiaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.