Cyfres o saith nofel ffantasi a ysgrifennwyd gan yr awdures Saesneg J.
K. Rowling yw Harry Potter. Mae'r llyfrau yn croniclo anturiaethau dewin ifanc o'r enw Harri Potter a'i ffrindiau gorau: Ron Weasley ac Hermione Granger yn Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts. Prif thema'r llyfrau yw cwest Harri i oresgyn y dewin drwg, tywyll, Lord Voldemort, sy'n benderfynol o ddarostwng pobl di-hud, gorchfygu'r byd hudol, a dinistrio pawb a phopeth sy'n ei rwystro rhag cyflawni hyn, yn enwedig yr arwr Harri Potter.
Arfbais Hogwarts, sy'n cynrychioli'r pedwar Tŷ (yn glocwedd o'r dde, top: Slafennog, Crafangfran, Wfftipwff, a Lleureurol), gydag arwyddair yr ysgol, sy'n golygu "Paid byth â gogleisio draig sy'n cysgu". | |
Awdur | J. K. Rowling |
---|---|
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Math | Ffantasi, ffuglen oedolyn ifanc, dirgel, cyffrous, Bildungsroman, dod i oed |
Cyhoeddwr | Bloomsbury Publishing |
Dyddiad cyhoeddi | 29 Mehefin 1997 – 21 Gorffennaf 2007 |
Math o'r cyfryngau | Print (clawr caled a chlawr papur) Awdiolyfr |
Ers 29 Mehefin 1997 pan ryddhawyd y nofel yn gyntaf, Harri Potter a Maen yr Athronydd (Saesneg gwreiddiol: Harry Potter and the Philosopher's Stone), mae'r llyfrau wedi ennill poblogrwydd anferthol, cymeradwyaeth gan y beirniaid a llwyddiant masnachol ledled y byd. Mae'r gyfres hefyd wedi cael ei barnu, gan gynnwys pryder ynghylch y naws ddrwg gynyddol. Ers Mehefin 2011, mae'r gyfres lyfrau wedi gwerthu tua 450 miliwn o gopïau, yn ogystal â chael ei chyfieithu i 67 iaith, gan gynnwys y Gymraeg.
Mae'r gyfres yn cynnwys llawer o genres, gan gynnwys ffantasi a dod i oed (gydag elfennau o ddirgelwch, cyffro a rhamant), ac mae llawer o gyfeiriadau ac ystyron diwylliannol ynddi. Yn ôl Rowling, prif thema'r llyfrau ydy marwolaeth, ond ystyria'r gyfres fel gwaith llenyddiaeth i blant. Ceir themâu eraill yn y gyfres, megis cariad a rhagfarn.
Prif gyhoeddwr y llyfrau gwreiddiol Saesneg yng ngwledydd Prydain oedd Bloomsbury ond cyhoeddwyd y llyfrau gan wahanol gyhoeddwyr ledled y byd erbyn hyn. Addaswyd y gyfres i gynhyrchu wyth ffilm gan Warner Bros. Pictures, gyda rhannu'r seithfed llyfr yn ddwy ffilm; hi yw'r gyfres ffilmiau crynswth mwyaf yn hanes y byd ffilmiau. Mae llawer o nwyddau yn sgil y ffilmiau hefyd, sy'n werth mwy na $15 billion.
Mae'r nofelau yn dilyn bywyd Harri Potter: plentyn amddifad un-ar-ddeg oed sy'n darganfod mai dewin ydyw, wrth iddo fyw yn y byd real ymhlith pobl di-hud, neu'r byd Mygl. Ganwyd ef gyda dewiniaeth yn gynhenid ynddo, a gwahoddir plant hudol i ysgol sy'n addysgu'r sgiliau angenrheidiol er mwyn iddynt ymdopi yn y byd hudol. Daw Harri'n fyfyriwr yn Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts ac mae'r mwyafrif o anturiau Harri Potter yn digwydd yn yr ysgol. Wrth i Harri heneiddio, mae'n dysgu goresgyn y problemau sy'n ei wynebu: problemau hudol, cymdeithasol ac emosiynol, gan gynnwys heriau cyffredin i'r arddegau, megis cyfeillgarwch ac arholiadau, a'r her fwyaf o baratoi ei hunan ar gyfer y gwrthdaro sydd o'i flaen.
Mae pob llyfr yn croniclo un flwyddyn ym mywyd Harri gyda'r prif naratif yn digwydd rhwng 1991 a 1998. Mae gan y llyfrau lawer o ôl-fflachiau a gânt eu profi gan Harri; er enghraifft mae'n gweld atgofion cymeriadau eraill mewn dyfais o'r enw "Pensieve".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Harri Potter, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.