Consol gemau ydy'r Dreamcast (Japaneg: ドリームキャスト Hepburn: Dorīmukyasuto).
Fe'i ryddhawyd gan Sega ar 27 Tachwedd 1998 yn Japan, 9 Medi 1999 yng Ngogledd America, a 14 Hydref, 1999 yn Ewrop. Y Dremcast oedd y consol gemau cyntaf o'r chweched cenhedlaeth o gonsolau, rhyddhawyd cyn y PlayStation 2, GameCube ac Xbox. Hwn oedd y consol olaf gan Sega, ar ôl 18 mlynedd yn y farchnad consol.
Enghraifft o'r canlynol | model dyfais electronig |
---|---|
Math | consol gemau fideo cartref |
Rhan o | sixth generation of video game consoles |
Dyddiad cyhoeddi | 27 Tachwedd 1998 |
Rhagflaenwyd gan | Sega Saturn |
Gwneuthurwr | Sega |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn hytrach na defnyddio'r caledwedd drud o'r Sega Saturn a oedd yn aflwyddiannus, penderfynodd Sega i greu'r Dreamcast gyda chydrannau "eisoes ar gael" er mwyn lleihau'r costau, yn cynnwys Hitachi SH-4 CPU a NEC PowerVR2 GPU. Er gwaethaf yr ymateb llugoer o'r Dreamcast yn Siapan, roedd y lansiad yn America yn lwyddiannus iawn, gydag ymgyrch farchnata fawr. Fodd bynnag, dechreuodd diddordeb yn y system newydd dirywio oherwydd y PlayStation 2. Hyd yn oed ar ôl torri'r gost o'r consol sawl gwaith, methodd y Dreamcast i fodloni disgwyliadau, ac roedd y cwmni yn parhau i golli arian. Ar ôl newid mewn arweinyddiaeth, penderfynodd Sega i roi'r gorau i'r Dreamcast ar 31 Mawrth, 2001, yn gadael y busnes consol am byth ac ailstrwythuro ei hun. Erbyn hyn, mae Sega yn cyhoeddi gemau yn unig. Gwerthwyd 10.6 miliwn unedau Dreamcast ledled y byd.
Er gwaethaf ei amser byr ar y farchnad, a diffyg cefnogaeth trydydd parti, mae llawer o adolygwyr wedi dweud bod y Dreamcast "o flaen ei amser". Mae ganddi lawer o gemau greadigol ac yn arloesol, yn cynnwys Crazy Taxi, Jet Set Radio and Shenmue, yn ogystal â llawer o gemau arcêd. Y Dreamcast oedd y consol cyntaf i gynnwys modem i chwarae gemau arlein a mynd ar y rhyngrwyd.
Teitl | Copïau a werthir |
---|---|
Sonic Adventure | 2.5 miliwn |
Soulcalibur | 1.3 miliwn |
Crazy Taxi | 1.225 miliwn (tua 1.11 miliwn yn yr UD, 115,039 yn Siapan |
Shenmue | 1.2 miliwn |
Resident Evil Code: Veronica | 1.14 miliwn |
NFL 2K | 1.13 miliwn yn yr UD |
NFL 2K1 | 1.01 miliwn yn yr UD |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dreamcast, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.