Amser haf (neu amser arbed golau dydd) yw'r arfer o droi'r cloc ymlaen yn ystod misoedd yr haf fel ei bod yn olau yn hwyrach yn y dydd.
Yn gyffredinol, mae rhanbarthau sy'n defnyddio amser i arbed golau dydd yn troi'r clociau ymlaen awr yn agos at ddechrau'r gwanwyn ac yn eu troi yn ôl yn yr hydref. Felly mae arbed golau dydd yn golygu awr yn llai o gwsg yn y gwanwyn ac awr ychwanegol o gwsg yn yr hydref.
Math | civil time |
---|---|
Y gwrthwyneb | amser (safonol) |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
George Hudson gynigiodd y syniad o arbed golau dydd ym 1895 ac yn yr Ymerodraeth Almaenig ac Awstria-Hwngari y gweithredwyd ef ar lefel genedlaethol am y tro cyntaf, gan ddechrau ar Ebrill 30 1916. Mae llawer o wledydd wedi'i ddefnyddio ar wahanol adegau ers hynny, yn arbennig ers argyfwng ynni'r 1970au . Yn gyffredinol, nid yw arbed golau dydd yn cael ei weithredu ger y cyhydedd, lle nad yw amserau'r haul yn amrywio digon i'w gyfiawnhau. Mae rhai gwledydd yn ei weithredu mewn rhai rhanbarthau yn unig; fe'i gweithredir yn Ne Brasil, er enghraifft, er nad yw Brasil cyhydeddol yn gwneud hynny. Lleiafrif o boblogaeth y byd sy'n ei ddefnyddio, am nad yw'r rhan fwyaf o Asia ac Affrica yn ei weithredu.
Mae troi'r cloc i amser haf yn cymhlethu cadw amser ac yn gallu tarfu ar deithio, bilio, cadw cofnodion, dyfeisiau meddygol, offer trwm, a phatrymau cwsg. Mae meddalwedd gyfrifiadurol yn aml yn addasu clociau'n awtomatig, ond gall newidiadau polisi gan wahanol awdurdodaethau o ran dyddiadau ac amserau gweithredu'r arbed golau dydd achosi dryswch.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Amser haf, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.