Y Chwyldro Diwydiannol

Cyfnod o newid mewn cymdeithas a datblygiad diwydiant a ddechreuodd yn y ddeunawfed ganrif oedd y Chwyldro Diwydiannol.

Dyfeisiwyd y peiriant stêm gan James Watt ac adeiladu ffatrïoedd. Roedd eisiau tanwydd (glo) i weithio'r peiriannau ac yr oedd llawer o adnoddau megis haearn yn cael eu defnyddio i gynhyrchu llawer o nwyddau.

Y Chwyldro Diwydiannol
Cynllun 1835 o'r "mul troellog" gan Richard Roberts (1789–1864), dyfeisydd systemau otomatig a masgynhyrchu yng ngwledydd Prydain.
Y Chwyldro Diwydiannol
Portread Robert Owen gan John Cranch, 1845

Ymhlith achosion y Chwyldro Diwydiannol oedd y boblogaeth yn symud i'r trefi o'r wlad oherwydd tlodi yn yr ail ganrif ar bymtheg, cynnydd yn y boblogaeth a rhyfeloedd y 18g: Y Rhyfel Saith Mlynedd (1756 - 1763), Rhyfel Annibyniaeth America (1775 - 1783) a Rhyfeloedd Napoleon (1803 - 1815) yn dilyn y Chwyldro Ffrengig (1793 - 1802).

Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol yn Lloegr, ond ymledodd i wledydd eraill Ewrop ac i'r Unol Daleithiau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sbardynodd dyfais y 'Rocket' gan George Stephenson a lledaeniad rhwydwaith rheilfyrdd yn ogystal a'r ddyfais stêmar gan Robert Fulton newid cymdeithasol a masnachol yn y byd. O ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol, cododd poblogaeth Cymru a Lloegr o 8.8 miliwn ym 1801 i 29.9 miliwn ym 1881.

Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru

Y Chwyldro Diwydiannol 
Golygfa diwydiannol yn Nant y Glo tua 1830

Roedd Cymru yn dal i fod yn wlad wledig ym hanner gyntaf y 18g, a hi oedd yr ail wlad lle bu'r Chwyldro Diwydiannol, gan ddilyn Lloegr. Erbyn y 19g roedd diwydiant y gogledd a'r de yn datblygu, gyda diwydiannau megis haearn, crochenwaith, plwm, glo a llechi. Ar yr un pryd, roedd technoleg amaethyddiaeth yn datblygu. Fodd bynnag, daeth De Cymru yn ganolfan diwydiannol pennaf y wlad yn ystod hanner cyntaf y 19g gyda'r diwydiannau dur, glo a copr.

Er mwyn trosglwyddo'r holl nwyddau cafodd ffyrdd reilffyrdd, porthladdoedd a chamlesi eu hadeiladu ledled Cymru.

Roedd Henry Hussey Vivian, Arglwydd Cyntaf Abertawe, William Thomas Lewis Arglwydd Merthyr a David Davies (Llandinam) ymhlith diwydianwyr mwyaf llwyddiannus De Cymru.

Tags:

18fed ganrifCymdeithasDiwydiantGloHaearnJames WattNwyddPeiriant stêm

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Osama bin LadenAnna VlasovaTsieineegLa Monte YoungPatxaranLloegrTerfysg Paris 1968Caroline FlackGorsaf reilffordd Jenkintown-Wyncote, PennsylvaniaEva StrautmannGwasg Carreg GwalchChwant balŵnauYouTubeY WladfaRobert John Rowlands (Meuryn)Rhodri LlywelynDydd SulYnysAberfanPigwr trogod pigfelynMeri Biwi Ka Jawaab NahinPontrhydyfenLewis CarrollDe EwropDydd MercherJess DaviesYr Undeb SofietaiddAfon CeiriogCeidwadwyr CymreigEtholiadFfilm gyffroAnilingusIoanEmyr DanielCrëyr nosSalakoLlanpumsaintSbaenEiry ThomasHamasFirwsDic JonesY we fyd-eangParth cyhoeddusBollingtonMis Hanes Pobl DduonRhyw geneuolAnwsBaner NicaragwaArf niwclearDiwydiant llechi CymruS4CPrydain FawrThe Greatest ShowmanPeak – Über Allen GipfelnTechnolegParalelogramHMS VictorySafleoedd rhywYnys AfallonPwylegTeimRMS TitanicMynyddContactPipo En De P-P-ParelridderFaith RinggoldGorsaf reilffordd LlandudnoClychau'r eosGwladwriaeth PalesteinaAugusta o Sachsen-GothaKate CrockettGoresgyniad Llain Gaza gan Israel (2023‒24)1937🡆 More