Ailgylchu

Ailgylchu yw'r term am ail-ddefnyddio deunydd crai pethau sy'n cael eu taflu i ffwrdd fel gwastraff.

Caiff y deunydd ei ailbrosesu er mwyn creu deunydd newydd er mwyn atal gwastraff deunydd defnyddiol, lleihau'r angen am ddeunydd crai newydd, lleihau defnydd egni, lleihau llygredd yn yr awyr a geir o losgi gwastraff, a lleihau llygred dŵr sy'n dod o domenni gwastraff. Mae hefyd yn lleihau'r gost o gymharu â ffurfiau "confensiynol" o waredu â gwastraff, ac yn creu llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr i gymharu â phrosesu deunydd crai newydd. Mae ailgylchu yn rhan allweddol o'r strategaeth gyfoes o reoli gwastraff, ac yn drydedd elfen yn yr hierarchaeth gwastraff sef: Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu.

Ailgylchu
Ailgylchu
Enghraifft o'r canlynolproses, proses peirianyddol, cangen economaidd Edit this on Wikidata
Mathwaste management process, amddiffyn yr amgylchedd Edit this on Wikidata
Rhan orheoli gwastraff, economi gylchol, aquaponics, European Waste Hierarchy, diwydiant Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganservice retirement Edit this on Wikidata
Cynnyrchrecycled material Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ailgylchu
Symbol rhyngwladol ailgylchu

Mae deunydd a all ei ailgylchu yn cynnwys gwydr, papur, metel, plastig, tecstilau, a deunydd electronig. Er bod compostio ac ailddefnyddio gwastraff bioddiraddadwy megis gwastraff bwyd neu wastraff o'r ardd yn cael effaith tebyg, ni chysidrir fel rheol i fod yn ailgylchu.

Hyd ail hanner yr 20g, roedd y rhan fwyaf o'r hyn a deflid i ffwrdd fel sbwriel yn cael rhoi mewn tomennydd sbwriel. Erbyn hyn, mae cyfran ohono yn cael ei ail-ddefnyddio. Gellir ail-ddefnyddio rhai eitemau fel y maent, neu gellir ail-ddefnyddio rhannau ohonynt. Weithiau, mae'r sbwriel yn cael ei droi yn ddefnydd arall. Caiff deunyddiau ar gyfer eu hailgylchu eu gadael mewn canolfan ailgylchu megis banciau ailgylchu mewn archfarchnadoedd neu mewn gorsafoedd trosglwyddo gwastraff a gaiff eu rhedeg gan awdurdodau lleol, neu eu casglu o'r pafin a'u cludo i ganolfan sortio lle caiff y gwahanol ddeunyddiau eu gwahanu, eu glanhau a'u hanfon i gael eu prosesu ar gyfer creu deunydd newydd.

Ailgylchu
Llyfr ar wastraff ac ailgylchu; 2008

Tra bod ailgylchu yn golygu bod llai o wastraff yn cael ei gladdu mewn tomenni ailgylchu ac yn arbed defnyddio deunydd crai ychwanegol i greu cynnyrch o'r newydd, mae'r broses o ailgylchu ei hun yn gallu defnyddio llawer o ynni. Mewn rhai achosion felly, gellir dadlau bod ailgylchu sbwriel yn defnyddio mwy o ynni na chreu nwyddau o'r newydd.

Hanes

Ailgylchu cynnar

Mae ailgylchu wedi bod yn weithgaredd cyffredin am ran helaeth o hanes dynoliaeth, gyda chofnodion yn cyfeirio ato cyn belled yn ôl a Plato yn 400 CC. Yn ystod cyfnodau pan oedd deunyddiau'n brin, mae astudiaethau archeolegol o domenni gwastraff hynafol yn dangos llawer llai o wastraff na ddisgwylid (megis lludw, offer wedi torri a chrochenwaith), gan gynnig y bu llawer iawn yn cael ei ailgylchu gan nad oedd deunyddiau crai newydd yn gyffredin.

Yn y cyfnod cyn-ddiwydiannol, mae tystiolaeth yn Ewrop i efydd a metelau eraill sgrap gael eu casglu a'u toddi ar gyfer eu haildefnyddio yn ddi-ddiwedd. Ym Mhrydain, casglwyd llwch a lludo o ddarnau pren a glo gan ddynion lludw a chafodd ei "lawr-gylchu" fel deunydd a ddefnyddiwyd i greu briciau. Y prif ysgogiad ar gyfer y math hwn o ailgylchu oedd y fantais economaidd o gael gafael ar ddeunydd wedi ei ailgylchu yn hytrach na thalu am ddeunydd crai newydd, yn ogystal â'r ffaith na fu casgliadau gwastraff ledled yr ardaloedd poblog. Ym 1813, datblygodd Benjamin Law broses o droi carpiau yn "frethyn eilban" a "gwlân mungo", yn Batley, Swydd Efrog. Roedd y defnydd hwn yn cyfuno ffibrau wedi eu hailgylchu gyda gwlan newydd. Parhaodd diwydiant brethyn eilban Gorllewin Swydd Efrog mewn trefi megis Batley a Dewsbury, o'r ddechrau'r 19g tan y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ailgylchu yng Nghymru

Yn 2017 Cymru oedd y 4edd wlad drwy'r byd am ailgylchu gwastraff. Yr Almaen oedd yn gyntaf, yna Awstria a De Corea a Chymru'n bedwaredd.

Rhedir cynlluniau ailgylchu Cymru gan Lywodraeth Leol, gyda'r drefn yn wahanol ym mhob sir. Cefnogir hyn gan grantiau achlysurol gan Lywodraeth y Cynulliad. Er enghraifft, derbyniodd cyngor Merthyr Tudful grant o £100,000 yn 2009 er mwyn annog trigolion y sir i ailgylchu, a galluogi'r cyngor i gasglu deunydd o nifer fwy o gartrefi.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Ailgylchu 
Chwiliwch am Ailgylchu
yn Wiciadur.

Tags:

Ailgylchu HanesAilgylchu yng NghymruAilgylchu Gweler hefydAilgylchu CyfeiriadauAilgylchuEgniLlygreddNwyon tŷ gwydrRheoli gwastraff

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Methiant y galonJason Walford DaviesJimmy WalesSwanzey, New HampshireDewi 'Pws' MorrisGhost ShipSlaughterhouse-FiveCynnwys rhyddRSSCharles Ashton (actor)Montgomery, LouisianaRhyfel yr ieithoeddLloegrBleiddiaid a ChathodFfawna CymruEgni gwyntRhegen fochlwydMonster NightJohn F. KennedySimon BowerBritish CyclingTour de l'AvenirGwyddoniadurOtero County, Mecsico NewyddHarry ReemsAberllefenniThe Salton SeaHann. Münden460auMaria Amalia, Ymerodres Lân RufeinigTsunamiDeborah KerrYnysoedd Queen ElizabethZombie Massacre (ffilm, 2013)LlundainNewyddionHollt GwenerCarles PuigdemontLorna MorganI Once Had a ComradeHenrik IbsenEvan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)UwchfioledISO 3166-1Rea ArtelariSheila Regina ProficeDiana (ffilm 2014)Siarl II, brenin Lloegr a'r AlbanSiân WhewayMurHergest (band)Ynysoedd BismarckLouis XII, brenin FfraincTriple Crossed (ffilm, 2013)BukkakeIndiana Jones and the Last CrusadeHen Wlad fy NhadauMynediad am DdimAngylion y StrydWicidata745Rhondda Cynon TafDydd SadwrnSex TapeAngel HeartLingua Franca NovaInnsbruckInfidelity in SuburbiaAfter Earth🡆 More