Sars-Cov-2

Coronafirws RNA un-edefyn (single stranded) yw SARS-CoV-2, sy'n fathiad o'r Saesneg Severe acute respiratory syndrome coronavirus 2.

Yr enw gwreiddiol (a dros dro) arno oedd ' 2019 novel coronafirws (2019-nCoV)'. Oherwydd bod y firws yma'n heintus i bobl, mae'n achosi'r hyn a elwir yn "afiechyd COVID-19" a ymledodd, yn fydeang, yn epidemig Coronafirws 19-20. WHO a fathodd y term SARS-CoV-2 a nhw hefyd, ar 30 Ionawr 2020, a gyhoeddodd fod yr epidemig yn 'Argyfwng Iechyd Cyhoeddus Rhyngwladol o Bryder Mawr'.

SARS-CoV-2
Sars-Cov-2
Enghraifft o'r canlynolgroup or class of strains, math, Firws, rhywogaeth Edit this on Wikidata
MathCoronafeirws Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfodRhagfyr 2019 Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonSarbecovirus Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSARS-Cov-2 genome, spike glycoprotein [SARS-CoV-2], envelope protein [SARS-CoV-2], membrane protein [SARS-CoV-2], nucleocapsid protein [SARS-CoV-2], viral envelope Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Oherwydd bod Sefydliad Iechyd y Byd yn annog pobl i beidio â defnyddio enwau sy'n seiliedig ar lefydd, ac er mwyn osgoi dryswch â'r clefyd SARS, mae "SARS-CoV-2" yn aml yn cyfeirio at y firws sy'n gyfrifol am COVID-19 neu "y Firws COVID-19" o fewn iechyd cyhoeddus. Mae'r cyhoedd yn aml yn galw'r firws a'r afiechyd yn "coronafirws", ond mae gwyddonwyr a'r mwyafrif o newyddiadurwyr fel arfer yn defnyddio termau mwy manwl gywir. Mae'r cyhoedd yn gyffredinol, fodd bynnag, yn galw'r firws yma a'r haint yn "coronafirws".

Ym Mawrth 2020, nid oedd brechlyn ar gael i ymladd yn erbyn y firws, nid oedd unrhyw fath o imiwnedd ar gael i atal heintio pellach. Gan mai firws ydyw ac nid bacteria, nid yw meddyginiaethau gwrthfeiotig yn ei goncro. Mae'r dulliau mwyaf effeithiol i'w atal rhag ymledu yn cynnwys ynysu (a hunan-ynysu) a golchi dwylo.

Mae gan SARS-CoV-2 debygrwydd genetig agos i coronafirysau ystlumod, ac mae'n debygol i'r firws hwn darddu ohonynt. Mae'n debygol hefyd i'r mamal Pangolin fod yn rhan o drosglwyddo'r firws i fodau dynol, hy yn ddolen rhwng yr ystlum a'r person.

O ran tacsonomeg, dynodwyd SARS-CoV-2 yn fath o rywogaeth (neu'n 'isrywogaeth') o'r coronofirws SARSr-CoV.

Heintio

Yn ystod Pandemig coronafirws 2019–20 profwyd fod y firws SARS-CoV-2 yn ymledu, ac yn trosglwyddo o berson i berson drwy ddiferion bychan o ddŵr, drwy beswch neu dishan, a hynny dros bellter o tua dwy fetr. Gall hefyd drosgwyddo mewn modd anuniongyrchol, drwy gyffwrdd a metal, plastig a deunyddiau caled eraill, lle gall y firws fyw am gyfnod o dri diwrnod. Ar ddefnydd meddal neu gardfwrdd, gall fyw am ddiwrnod. Ar gopr nid yw'n para mwy na 4 awr. Dywedir fod unrhyw sebon sy'n creu ewyn yn effeithiol.

Darllen pellach

Cyfeiriadau

Sars-Cov-2 
Comin Wiki
Mae gan Gomin Wiki
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Tags:

COVID-19CoronafirwsEpidemig Coronafirws 2019–20 yn Wuhan, TsieinaRNA

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

LlangernywEagle EyeLlundainGwe fyd-eangMichael PortilloSenedd CymruClychau'r eosSulgwynLa Monte YoungSefydliad WikimediaGwenynenGwentNovialSimon HarrisCall Me By Your NameLlu Amddiffyn IsraelAnna MarekBang (cyfres deledu)Goresgyniad Llain Gaza gan Israel (2023‒24)The Cincinnati KidBukkakeEginynSaddam HusseinHunan leddfu69 (safle rhyw)PlanhigynDic JonesGweriniaeth Pobl TsieinaThere Goes The GroomJess DaviesSalakoRami MalekStygianDe OntsnappingUnol DaleithiauAndhra PradeshBill MaynardY CroesgadauSophie DeePeiriant WaybackIPhoneInès SafiTsietsniaJefferson, OhioEidaleg1452Cronfa ddataPlaid Ryddfrydol CanadaEiry ThomasYr EidalC.P.D. WrecsamEtel AdnanCefnfor yr IweryddTsukemonoTechnolegSafle cenhadolYnysoedd SyllanFfilm gyffroIeithoedd RomáwnsPantYmarfer corffRhestr o arfbeisiau hanesyddol CymruNewid codBangladeshLos AngelesSuper Furry AnimalsIsabel IceEros, o Deus Do AmorAfon CeiriogAfter EarthProspect Heights, Illinois🡆 More