Gwlad yng ngogledd Affrica, sy'n ffinio â'r Môr Canoldir, yw Libia.
Mae wedi ei lleoli rhwng yr Aifft i'r dwyrain, Swdan i'r de-ddwyrain, Tsiad a Niger i'r de ac Algeria a Tiwnisia i'r gorllewin. Ei phrifddinas yw Tripoli. Tair rhanbarth draddodiadol y wlad yw Tripolitania, y Fezzan a Cyrenaica. Mae'r wlad yn un o'r 10 gwlad sy'n cynhyrchu mwyaf o olew drwy'r byd.
Math | gwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir, gwlad |
---|---|
Prifddinas | Tripoli |
Poblogaeth | 6,678,567 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Libya, Libya, Libya |
Pennaeth llywodraeth | Abdulhamid Dbeibeh |
Cylchfa amser | UTC+2, EET, Africa/Tripoli |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Affrica |
Gwlad | Libia |
Arwynebedd | 1,759,541 ±1 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Yr Aifft, Swdan, Tiwnisia, Algeria, Tsiad, Niger, Y Dwyrain Canol |
Cyfesurynnau | 27°N 17°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | House of Representatives, High Council of State |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Chairman of the Presidential Council |
Pennaeth y wladwriaeth | Mohamed al-Menfi |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Libia |
Pennaeth y Llywodraeth | Abdulhamid Dbeibeh |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $39,798 million, $45,752 million |
Arian | Dinar Libia |
Canran y diwaith | 19 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.467 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.718 |
Mae rhan fawr o Libia'n gorwedd yn anialwch y Sahara, gyda 1,800,000 kilometr sgwar (700,000 milltir sgwar). Hi yw'r bedwaredd wlad fwyaf yn Affrica, a'r 17ed yn y byd. Mae 1.7 miliwn o drigolion y wlad yn byw yn Tripoli, y brif ddinas, allan o boblogaeth o 6.4 miliwn.
Dros 10 mil o flynyddoedd yn ôl roedd 90% o'r wlad yn llawn o blanhigion a choed, gyda hinsawdd debyg i wledydd y Canoldir. Dengys tystiolaeth archaeolegol mai'r Berberiaid oedd yn byw yn y rhan yma o Affrica yn Oes Newydd y Cerrig. Gallent dyfu cnydau a magu anifeiliaid.
Tua 500 CC roedd dylanwad Ffeniciaid ar yr ardal yn gryf a gwelwyd sefydlu tair dinas yn yr ardal rydym heddiw'n ei alw'n Tripolis ("tair dinas"). Erbyn 630 roedd yr Hen Roegiaid wedi sefydlu 630 BC, porthladd Cyrene ac yna pedair dinas arall yn ystod y blynyddoedd dilynol, a galwyd rhain y Pentapolis ("pum dinas").
Tyfodd Cyrene yn un o ganolfannau celfyddydol ac academig drwy gydol y byd Groegaidd, gyda'i hysgol meddygol a phensaerniol a'i chanolfannau dysg heb eu hail drwy'r byd.
Ymosododd y Rhufeiniaid ar yr ardal o gwmpas Tripoli) yn 106 CC ac erbyn 64 CC roedd llengoedd Iwl Cesar wedi cadarnhau a chryfhau'r dair ardal yn Rhanbarth Rufeinig, gan greu (o ran tiriogaeth) am y tro cyntaf y ffiniau presennol.
Llewyrchodd yr economi am rai canrifoedd o dan y Rhufeiniaid.
Ar y 1af o Fedi 1969 cafwyd coup d'état yn y wlad a daeth Muammar al-Gaddafi i rym ar ôl trechu'r Brenin Idris tra fod y brenin yn Nhwrci yn cael triniaeth meddygol.
Yn Chwefror 2011 llifodd ton ar ôl ton o brotestiadau gwleidyddol drwy'r Dwyrain Canol; ffynhonnell y protestiadau hyn oedd Tiwnisia ac yna'r Aifft yn Ionawr 2011 a gwelwyd ymgyrch gref drwy Lybia i gael gwared â Gaddafi a'i ddull unbeniaethol o reoli. Dyw hyn ddim yn syndod o gofio fod y ddwy wlad yma (Tiwnisa a'r Aifft) o fewn tafliad carreg i Lybia (ffiniau dwyreiniol a gorllewinol).
Erbyn 23ain o Chwefror roedd Gaddafi wedi colli rheolaeth o lawer iawn o drefi'r wlad ac yn ôl nifer o adroddiadau roedd dros fil o bobl wedi marw.
Ar yr 17fed o Fawrth pasiwyd "mesur 1973" gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig o 10 pleidlais i 0 gyda Rwsia, Tsieina ac India yn ymatal. Roedd y mesur yn caniatau gwaharddiad hedfan ac i warchod trigolion Lybia "drwy unrhyw ddull angenrheidiol". Deuddydd wedyn roedd Awyrlu Ffrainc wedi ymosod ar 4 o danciau Gaddafi.
Mae Libia'n wlad ffynnianus sy'n elwa o'r cyfoeth olew a geir yn Niffeithwch Libia a mannau eraill yn ne'r wlad.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Libia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.