Nod ffilm arswyd yw ceisio codi ofn ac arswyd ar y gwylwyr.
Mae eu lliynnau stori yn aml yn gwirdroi o amgylch marwolaeth, y goruwchnaturiol neu salwch meddyliol. Gan amlaf, mae gan ffilmiau arswyd un dihiryn canolog i'r ffilm. Seiliwyd nifer o'r ffilmiau arswyd cynharaf ar lenyddiaeth glasurol o'r genre gothig/arswyd megis Dracula, Frankenstein, The Wolf Man, Phantom of the Opera a Dr. Jekyll and Mr. Hyde. Mae ffilmiau mwy diweddar fodd bynnag yn dwyn eu hysbrydoliaeth o ansicrwydd bywyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gan greu tair is-genre unigryw ond cysylltiedig: arswyd-personoliaeth y ffilm Psycho, arswyd armagedon Invasion of the Bodysnatchers ac arswyd ellyllon y ffilm The Exorcist. Gellir ystyried yr is-genre olaf fel moderneiddiad o'r ffilmiau arswyd cynharaf, am eu bod yn ehangu ar y syniad o'r ofn y gall pŵerau goruwchnaturiol ddod i'r byd.
Mae'r holl brif stiwdios ffilmiau a nifer o gyfarwyddwyr uchel eu parch, gan gynnwys Alfred Hitchcock, Roman Polanski, Stanley Kubrick, William Friedkin, Richard Donner, Francis Ford Coppola, a George Romero i gyd wedi cynhyrchu ffilmiau yn y genre hwn. Mae rhai ffilmiau arswyd yn cynnwys elfennau o genres eraill megis gwyddonias, ffantasi, rhaglenni dogfen ffug, comedi tywyll a ffilmiau cyffro.
Mae nifer o ffilmiau Cymraeg yn y genre megis Gwaed Ar Y Sêr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffilm arswyd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.