Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Rembrandt Harmenszoon van Rijn (15 Gorffennaf 1606 – 4 Hydref 1669).
Mae'n cael ei gyfri fel un o arlunwyr ac ysgythrwr mwyaf Ewrop ac yn sicr y gorau yn hanes celf yr Iseldiroedd. Cyfrannodd yn helaeth mewn cyfnod o gyfoeth a bwrlwm celfyddydol a elwir yn Oes Aur yr Iseldiroedd a oedd yn ddull cwbwl groes i'r traddodiad Baróc a oedd yn parhau drwy weddill Ewrop.
Rembrandt | |
---|---|
Ganwyd | Rembrandt Harmenszoon van Rijn 15 Gorffennaf 1606 Leiden |
Bu farw | 4 Hydref 1669 Amsterdam |
Man preswyl | Rembrandthuis |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth yr Iseldiroedd |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, casglwr celf, ysgythrwr, casglwr |
Adnabyddus am | Yr Wylfa Nos, Syndics of the Drapers' Guild, Y Briodferch Iddewig, Gwledd Belsassar |
Arddull | portread (paentiad), paentiadau crefyddol, paentiad mytholegol, peintio genre, peintio hanesyddol, hunanbortread, celf tirlun, portread, tronietmi0mt0i4gtmo0rko0vk'okr'roo, bywyd llonydd, vanitas, hunting still life, mythological art, winter landscape |
Mudiad | peintio Oes Aur yr Iseldiroedd |
Tad | Harmen Gerritszoon van Rijn |
Mam | Neeltje Willemsdr. Zuytbrouck |
Priod | Saskia van Uylenburgh |
Partner | Geertje Dircx, Hendrickje Stoffels |
Plant | Titus van Rijn, Cornelia van Rijn |
llofnod | |
Fe'i ganwyd yn Leiden. Fel arlunydd ifanc cafodd gryn lwyddiant yn paentio lluniau o bobl. Cafodd hefyd fywyd llawn trasiedi a chaledi ariannol, eto roedd ffrwyth ei lafur yn hynod boblogaidd drwy gydol ei oes a chanmolwyd ef gan y beirniaid a'r bobl gyffredin. Am ugain mlynedd dysgodd eraill sut i beintio, gyda nifer o'i ddisgyblion yn arlunwyr enwog o'r Iseldiroedd. Efallai mai lluniau o'i gyfoeswyr yw'r lluniau gorau a wnaeth, a golygfeydd o'r Beibl. Mae ei hunanbortreadau'n dweud llawer amdano ac yn ddarluniau gonest, di-duedd.
Mae ei luniau (olew ac ysgythriadau) yn brawf o'i wybodaeth am eiconnau clasurol, a addasodd i'w bwrpas ei hun; er enghraifft, mae ei olygfeydd beiblaidd yn dangos ei fod wedi'i drwytho yn y testun ei hun yn drwyadl ac yn aml yn adlewyrchu ei ymchwil i bryd a gwedd Iddewon Amsterdam. Mae'r portradau hyn yn dangos ei empathi tuag at y ddynol ryw ac oherwydd hyn caiff ei alw'n aml yn "un o Broffwydi mwyaf gwareiddiad".
Priododd Rembrandt ei wraig, Saskia van Uylenburgh, ym 1634. Bu farw Saskia ym 1642.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rembrandt, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.