Testun crefyddol efengylaidd sy'n honni adrodd hanes am Iesu o Nasareth yw efengyl.
Cysylltir y gair yn bennaf â'r Pedair Efengyl a geir ar ddechrau'r Testament Newydd yn y Beibl Cristnogol, ond mae'n derm a geir yn nheitlau sawl testun arall hefyd.
Daw'r gair o'r Groeg "euangelion" a'r Lladin "evangelium") a gelwir y pedwar llyfr cyntaf yn y Testament Newydd yn "Efengylau" a'r pedwar Disgybl yn "Efengylwyr". Mae'r cyfieithiad Saesneg "Gospel", fodd bynnag, yn tarddu o'r hen Saesneg "Newyddion Da".
Y Pedair Efengyl canonaidd yw:
Yn y llenyddiaeth apocryffaidd a gysylltir â'r Testament Newydd ond nas derbynnir fel rhan o'r llyfr hwnnw bellach, ceir sawl efengyl, e.e. Efengyl Nicodemus, a fu'n destun poblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol. Mae testunau eraill yn cynnwys efengylau apocryffaidd a briodolir i Philip, Mathew, Sant Pedr, ac eraill. Math o efengyl hefyd yw'r testun apocryffaidd Cymraeg Canol Mabinogi Iesu Grist.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Efengyl, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.