Oed Crist (Lladin: Anno Domini, Ym mlwyddyn yr Arglwydd), talfyriad OC neu AD, yw'r system o rifo blynyddoedd o ddyddiad traddodiadol genedigaeth Iesu o Nasareth.
Fe'i defnyddir yng Nghalendr Gregori. Nodir blynyddoedd cyn genedigaeth Crist fel "Cyn Crist" (CC). Yn y 2020au, defnyddid y term 'y Cyfnod Cyffredin' (Common Era) sy'n enw amgen (a niwtral, yn grefyddol) ar oes galendr draddodiadol, Anno Domini.
Enghraifft o'r canlynol | cyfnod calendr |
---|---|
Y gwrthwyneb | Cyn Crist |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dyfeisiwyd y system yn Rhufain yn 525 gan fynach o'r enw Dionysius Exiguus, ond ni chyhaeddodd orllewin Ewrop tan yr 8g. Daeth yn gyffredin rhwng yr 11g a'r 14g. Y drefn cyn hynny oedd dyddio yn ôl nifer y blynyddoedd yr oedd teyrn arbennig wedi bod ar yr orsedd. System arall a defnyddid oedd Anno Mundi, o ddyddiad traddodiadol creadigaeth y byd gan Dduw yn ôl Llyfr Genesis.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Oed Crist, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.