Sbaeneg: Iaith Romáwns yn deillio o'r penrhyn iberiaidd

 Italeg   Romáwns    Italo-Gorllewimol

Sbaeneg (español)
Siaredir yn: Sbaen a'r mwyafrif o wledydd Canol a De America.
Parth: Affrica, Ewrop, America
Cyfanswm o siaradwyr: bron i 600 miliwn
Safle yn ôl nifer siaradwyr: 4
Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeaidd

     Galo-Iberaidd
      Ibero-Romáwns
       Iberaidd Gorllewinol
         Sbaeneg

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Sbaen a llawer o wledydd eraill.
Rheolir gan: Real Academia Española a'r Asociación de Academias de la Lengua Española
Codau iaith
ISO 639-1 es
ISO 639-2 spa
ISO 639-3 spa
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Iaith a darddodd yn Sbaen yw'r Sbaeneg neu weithiau Castileg, sy'n un o'r ieithoedd Romáwns yn y teulu Indo-Ewropeaidd, a esblygodd o Ladin llafar ym Mhenrhyn Iberia yn Ewrop. Heddiw, mae'n iaith fyd-eang gyda bron i 500 miliwn o siaradwyr brodorol, yn bennaf yn America a Sbaen. Sbaeneg yw iaith swyddogol 20 gwlad a hi yw'r ail famiaith a siaredir fwyaf yn y byd ar ôl Tsieineeg Mandarin; y bedwaredd iaith a siaredir fwyaf yn y byd ar ôl Saesneg, Tsieinëeg Mandarin, a Hindustani (Hindi-Wrdw); a'r iaith Romáwns fwyaf yn y byd. Mae'r boblogaeth fwyaf o siaradwyr brodorol y Sbaeneg ym Mecsico. Sbaeneg yw'r drydedd iaith a ddefnyddir fwyaf ar y we ar ôl Saesneg a Tsieineeg. Fe'i siaredir hefyd ar draws Canol America, ac yng ngwledydd gorllewinol De America (gan gynnwys yr Ariannin a Pheriw). Fe'i siaredir gan rhyw 500 miliwn fel mamiaith - mwy nag unrhyw iaith arall ar wahân i Tsieineeg Mandarin, a thua 600 miliwn ledled y byd.

Sbaeneg: Dosbarthiad daearyddol, Enwr iaith ar geirdarddiad, Hanes
Glas tywyll: iaith swyddogol. Glas golau: 20% o'r boblogaeth yn ei siarad.

Mae'r Sbaeneg yn rhan o'r grŵp Ibero-Romáwns o ieithoedd, a esblygodd o sawl tafodiaith o Ladin Llafar yn Iberia ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol yn y 5g. Daw'r testunau Lladin hynaf ag olion Sbaeneg arnynt o ganol gogledd Iberia yn y 9g, a digwyddodd y defnydd ysgrifenedig systematig cyntaf o'r iaith yn Toledo, dinas amlwg Teyrnas Castile, yn y 13g. Gwladychodd Sbaen llawer o wledydd tramor, gan adael ei hiaith yno ar wefusau'r brodorion, yn fwyaf nodedig yn yr Americas.

Fel iaith Romáwns, mae'r Sbaeneg yn ddisgynnydd i Ladin ac mae ganddi un o'r graddau llai o wahaniaeth ohoni (tua 20% o wahaiaeth) ochr yn ochr â Sardinia ac Eidaleg. Mae tua 75% o eirfa Sbaeneg fodern yn deillio o Ladin, gan gynnwys benthyciadau Lladin o'r Hen Roeg. Ochr yn ochr â Saesneg a Ffrangeg, mae hefyd yn un o'r ieithoedd tramor a addysgir fwyaf ledled y byd. Nid yw Sbaeneg yn nodwedd amlwg fel iaith wyddonol; fodd bynnag, fe'i cynrychiolir yn well mewn meysydd fel y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Mae'r Sbaeneg yn un o chwe iaith swyddogol y Cenhedloedd Unedig, ac fe'i defnyddir hefyd fel iaith swyddogol gan yr Undeb Ewropeaidd, Sefydliad Taleithiau America, Undeb Cenhedloedd De America, Cymuned Taleithiau America Ladin a'r Caribî, yr Undeb Affricanaidd a llawer o sefydliadau rhyngwladol eraill.

Dosbarthiad daearyddol

Trefn yr wyddor Nifer o siaradwyr iaith gyntaf
  1. Yr Almaen (140,000)
  2. Andorra (30,000)
  3. Yr Ariannin (33,000,000)
  4. Awstralia (97,000)
  5. Belîs (80,477)
  6. Bolifia (3,483,700)
  7. Brasil (43,901)
  8. Canada (177,425)
  9. Ciwba (10,000,000)
  10. Colombia (34,000,000)
  11. Costa Rica (3,300,000)
  12. De Corea (90,000)
  13. Y Deyrnas Unedig (900,000)
  14. Ecwador (9,500,000)
  15. Yr Eidal (455,000)
  16. El Salvador (5,900,000)
  17. Feneswela (21,480,000)
  18. Y Ffindir (17,200)
  19. Ffrainc (220,000)
  20. Gaiana (198,000)
  21. Gini Gyhydeddol (11,500)
  22. Gorllewin Sahara (16,648)
  23. Gwatemala (4,673,000)
  24. Gweriniaeth Dominica (6,886,000)
  25. Haiti (1,650,000)
  26. Hondwras (5,600,000)
  27. Israel (50,000)
  28. Japan (500,000)
  29. Libanus (2,300)
  30. Mecsico (86,211,000)
  31. Moroco (20,000)
  32. Nicaragwa (4,347,000)
  33. Panama (2,100,000)
  34. Paragwâi (2,805,880)
  35. Periw (20,000,000)
  36. Puerto Rico (3,437,120)
  37. Y Philipinau (2,658)
  38. Rwmania (7,000)
  39. Rwsia (1,200,000)
  40. Sbaen (28,173,600)
  41. Sweden (56,000)
  42. Trinidad a Tobago (4,100)
  43. Tsieina (250,000)
  44. Tsile (13,800,000)
  45. Twrci (23,175)
  46. Unol Daleithiau America (32,184,293)
  47. Wrwgwái (3,000,000)
  1. Mecsico (86,211,000)
  2. Colombia (34,000,000)
  3. Yr Ariannin (33,000,000)
  4. Unol Daleithiau America (32,184,293)
  5. Sbaen (28,173,600)
  6. Feneswela (21,480,000)
  7. Periw (20,000,000)
  8. Tsile (13,800,000)
  9. Ciwba (10,000,000)
  10. Ecwador (9,5000,000)
  11. Gweriniaeth Dominica (6,886,000)
  12. El Salvador (5,900,000)
  13. Hondwras (5,600,000)
  14. Gwatemala (4,673,000)
  15. Nicaragwa (4,347,000)
  16. Bolifia (3,483,700)
  17. Puerto Rico (3,437,120)
  18. Costa Rica (3,300,000)
  19. Wrwgwái (3,000,000)
  20. Paragwâi (2,805,800)
  21. Panama (2,100,000)
  22. Haiti (1,650,000)
  23. Rwsia (1,200,000)
  24. Y Deyrnas Unedig (900,000)
  25. Japan (500,000)
  26. Yr Eidal (455,000)
  27. Tsieina (250,000)
  28. Ffrainc (220,000)
  29. Gaiana (198,000)
  30. Canada (177,425)
  31. Yr Almaen (140,000)
  32. Awstralia (97,000)
  33. De Corea (90,000)
  34. Belîs (80,477)
  35. Sweden (56,000)
  36. Israel (50,000)
  37. Brasil (43,901)
  38. Andorra (30,000)
  39. Twrci (23,175)
  40. Moroco (20,000)
  41. Y Ffindir (17,200)
  42. Gorllewin Sahara (16,648)
  43. Gini Gyhydeddol (11,500)
  44. Rwmania (7,000)
  45. Trinidad a Tobago (4,100)
  46. Y Philipinau (2,658)
  47. Libanus (2,300)
Mae'n anodd cyfrifo'r union nifer o siaradwyr Sbaeneg, gan nad yw pawb sy'n byw yng ngwledydd lle mae'n iaith swyddogol yn ei siarad. Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Sbaeneg yr Unol Daleithiau hefyd yn siarad Saesneg.

Enw'r iaith a'r geirdarddiad

Sbaeneg: Dosbarthiad daearyddol, Enwr iaith ar geirdarddiad, Hanes 
Map yn dangos lleoedd lle gelwir yr iaith yn castellano (mewn coch) neu español (mewn glas)

Enw'r iaith

Yn Sbaen ac mewn rhai rhannau eraill o'r byd Sbaeneg ei hiaith, gelwir Sbaeneg nid yn unig yn español ond hefyd yn castellano (Castileg), sef iaith teyrnas Castile, gan ei gwahanu oddi wrth ieithoedd eraill a siaredir yn Sbaen megis y Galiseg, Basgeg, Astwrieg, Catalaneg, Aragoneg ac Ocsitaneg.

Mae Cyfansoddiad Sbaen 1978 yn defnyddio'r term castellano a chaiff ei nodi fel iaith swyddogol Sbaen cyfan. Mae Erthygl III yn darllen fel a ganlyn:

El castellano es la lengua española oficial del Estado. ... Las demás lenguas españolas serán también oficiales en las respectivas Comunidades Autónomas...

Castilian yw iaith Sbaeneg swyddogol y Wladwriaeth. ... Bydd yr ieithoedd Sbaenaidd eraill hefyd yn swyddogol yn eu Cymunedau Ymreolaethol priodol...

Ar y llaw arall, mae'r Academi Frenhinol y Sbaeneg (Real Academia Española), ar hyn o bryd yn defnyddio'r term español yn ei chyhoeddiadau. Fodd bynnag, rhwng 1713 a 1923, galwodd yr iaith yn castellano.

Yn y canllaw iaith / geiriadur Diccionario panhispánico de dudas, a gyhoeddwyd gan yr Academi Frenhinol y Sbaeneg) nodir hefyd, er bod yn well ganddi ddefnyddio'r term español yn ei chyhoeddiadau wrth gyfeirio at yr iaith, caiff y ddau air— español a castellano — eu hystyried yn gyfystyron ac yr un mor ddilys.

Geirdarddiad

Daw'r term castellano o'r gair Lladin castellanus,  sy'n golygu " o neu'n ymwneud â chaer neu gastell", sydd hefyd yn enw ardal yn yr hyn a adnabyddir heddiw'n Sbaen.

Mae geirdarddiad gwahanol wedi'i awgrymu ar gyfer y term español (Sbaeneg). Yn ôl yr Academi Frenhinol y Sbaeneg , mae'r gair español yn deillio o'r gair Profensaleg espaignol ac mae hwnnw, yn ei dro'n deillio o'r Lladin Llafar hispaniolus, sef yr enw Lladin ar dalaith Hispania a oedd yn cynnwys tiriogaeth bresennol Penrhyn Iberia.

Hanes

Fel yr ieithoedd Romáwns eraill, esblygodd y Sbaeneg o Ladin Llafar, a ddygwyd yma i Benrhyn Iberia gan y Rhufeiniaid yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig, gan ddechrau yn 210 CC. Roedd nifer o ieithoedd cyn-Rufeinig (a elwir hefyd yn ieithoedd Paleohispanic) - rhai yn perthyn o bell i Ladin fel ieithoedd Indo-Ewropeaidd, a rhai nad ydynt yn perthyn o gwbl - yn cael eu siarad ym Mhenrhyn Iberia. Roedd yr ieithoedd hyn yn cynnwys Celtibereg, Proto-Fasgeg, Ibereg, Lwsitaneg a Gallaecian.

Mae'r dogfennau cyntaf i ddangos olion o'r hyn a ystyrir heddiw yn rhagflaenydd i'r Sbaeneg yn dyddio o'r 9g. Trwy gydol yr Oesoedd Canol ac i mewn i'r oes fodern, daeth y dylanwadau pwysicaf ar y geiriadur Sbaeneg o'r ieithoedd Romáwns cyfagos — Mozarabeg (Romáwns Andalusi), Navarro-Aragoneseg, Leoneg, Catalaneg, Portiwgaleg, Galiseg, Ocsitaneg, ac yn ddiweddarach, Ffrangeg ac Eidaleg. Benthycodd Sbaeneg hefyd nifer sylweddol o eiriau o'r Arabeg, yn ogystal â mân ddylanwad o'r iaith Gotheg Germanaidd trwy ymfudiad llwythau a chyfnod o reolaeth y Fisigothiaid yn Iberia. Yn ogystal, benthycwyd llawer mwy o eiriau o'r Lladin trwy ddylanwad iaith ysgrifenedig ac iaith litwrgaidd yr Eglwys. Cymerwyd y geiriau benthyg o Ladin Clasurol a Lladin y Dadeni, sef y math o Ladin a ddefnyddid bryd hynny.

Yn ôl damcaniaethau Ramón Menéndez Pidal, esblygodd tafodieithoedd lleol o Ladin Llafari fath cynnar o Sbaeneg, a hynny yng ngogledd Iberia, yn yr ardal o gwmpas dinas Burgos, a daethpwyd â'r dafodiaith hon yn ddiweddarach i ddinas Toledo, lle cafodd ei safoni'n ysgrifenedig am y tro cyntaf, yn y 13g. Yn y cyfnod ffurfiannol hwn, datblygodd y Sbaeneg amrywiad tra gwahanol i'w chefnder agos, y Leoneg, a gwelwyd dylanwad Basgaidd trwm arni. Ymledodd y dafodiaith nodedig hon i dde Sbaen gyda dyfodiad y Reconquista. Yn y cyfamser dylanwadwyd arni gan eirfa sylweddol o Arabeg Al-Andalus (tua 4,000 o eiriau sy'n tarddu o'r Arabeg, tua 8% o Sbaeneg heddiw). Datblygwyd y safon ysgrifenedig ymhellach, gan ymledu o Toledo, yn y 13eg i'r 16g, i Fadrid yn y 1570au.

System ysgrifennu

Ysgrifennir y Sbaeneg yn yr wyddor Ladin, gan ychwanegu'r cymeriad ⟨ñ⟩ a yngenir fel eñe, sy'n cynrychioli'r ffonem /ɲ/, llythyren sy'n wahanol i ⟨n⟩, er ei fod wedi'i gyfansoddi'n deipograffegol o ⟨n⟩ gyda tilde. Yn flaenorol mae'r deugraffau ⟨ch⟩ (che, sy'n cynrychioli'r ffonem /t͡ʃ/ ) a ⟨ll⟩ (elle, sy'n cynrychioli'r ffonem /ʎ / neu /ʝ/ ), hefyd yn cael eu hystyried yn llythrennau sengl. Fodd bynnag, mae'r deugraff ⟨rr⟩ (erre fuerte, 'r cryf', erre doble , 'r ddwbl', neu'n syml erre), sydd hefyd yn cynrychioli ffonem /r/, ar wahân, yn cael ei hystyried yn un llythyren. Ers 1994 mae ⟨ch⟩ a ⟨ll⟩ wedi cael eu trin fel par o llythrennau at ddibenion coladu, er eu bod wedi parhau’n rhan o’r wyddor tan 2010. Mae geiriau gyda ⟨ch⟩ bellach wedi'u didoli yn nhrefn yr wyddor rhwng y rhai sydd â ⟨cg⟩ a ⟨ci⟩, yn lle dilyn ⟨cz⟩ fel yr arferai wneud. Mae'r drefn yn debyg ar gyfer ⟨ll⟩.

Felly, mae gan yr wyddor Sbaeneg y 27 llythyren a ganlyn:

    A, B, C, D, E, F, G, H, I, J, K, L, M, N, Ñ, O, P, Q, R, S, T, U, V, W, X, Y, Z.

Ers 2010, nid yw'r deugraffau (ch, ll, rr, gu, qu ) yn cael eu hystyried yn llythrennau gan yr Academi Frenhinol y Sbaeneg.

Yn debyg i'r Gymraeg, defnyddir y llythyrennau k a w mewn geiriau ac enwau sy'n dod o ieithoedd tramor yn unig (kilo, folklore, whisky, kiwi ayb).

Ac eithrio nifer fach iawn o dermau rhanbarthol megis México, gellir pennu'r ynganiad yn gyfan gwbl o sillafu, yn eitha ffonetic. O dan y confensiynau orgraff, mae pwyslaid pob gair, yn nodweddiadol ar y sillaf cyn yr olaf (y goben), os yw'n gorffen gyda llafariad (heb gynnwys ⟨y⟩) neu gyda llafariad wedi'i ddilyn gan ⟨n⟩ neu ⟨s⟩; fel arall, rhoddir y pwyslais ar y sillaf olaf un. Mae hyn hefyd yn debyg i'r Gymraeg, lle mae'r pwyslais, fel rheol, ar y goben. Nodir eithriadau i'r rheol hon trwy osod acen acíwt ar y llafariad acennog.

Sefydliadau

Sbaeneg: Dosbarthiad daearyddol, Enwr iaith ar geirdarddiad, Hanes 
Arfbais Academi Frenhinol y Sbaeneg
Sbaeneg: Dosbarthiad daearyddol, Enwr iaith ar geirdarddiad, Hanes 
Pencadlys Academi Frenhinol y Sbaeneg ym Madrid, Sbaen.

Academi Frenhinol y Sbaeneg

Y dylanwad pennaf ar safon yr iaith yn Sbaen yw Academi Frenhinol y Sbaeneg (Sbaeneg: Real Academia Española ), a sefydlwyd ym 1713, trwy gyhoeddi geiriaduron a chanllawiau gramadeg ac arddull. Fel hyn, ceir ffurf safonol ar yr iaith (Sbaeneg Safonol) a gaiff ei chydnabod yn eang mewn llenyddiaeth, cyd-destunau academaidd a'r cyfryngau.

Cymdeithas yr Academïau Sbaeneg

Sbaeneg: Dosbarthiad daearyddol, Enwr iaith ar geirdarddiad, Hanes 
Gwledydd sy'n aelodau o Gymdeithas yr Academïau Sbaeneg (ASALE).

Y Gymdeithas o Academïau Sbaeneg (Asociación de Academias de la Lengua Española, neu ASALE) yw'r endid sy'n rheoleiddio'r iaith Sbaeneg. Fe'i crëwyd ym Mecsico yn 1951 ac mae'n cynrychioli'r holl academïau unigol yn y byd Sbaeneg ei hiaith. Mae'n cynnwys academïau o 23 o wledydd, a drefnwyd yn ôl dyddiad sefydlu'r Academi: Sbaen (1713), Colombia (1871), Ecwador (1874), Mecsico (1875), El Salfador ( 1876), Feneswela (1883), Tsile (1885), Periw (1887), Gwatemala (1887), Costa Rica (1923), y Philipinau (1924). ), Panama (1926), Ciwba (1926), Paragwâi (1927), Y Weriniaeth Ddominicaidd (1927), Bolifia (1927), Nicaragwa (1928), yr Ariannin (1931), Wrwgwái (1943), Hondwras (1949), Pwerto Rico (1955), yr Unol Daleithiau (1973) a Gini Cyhydeddol (2016).

Y Sefydliad Cervantes

Sefydliad dielw byd-eang a grëwyd gan lywodraeth Sbaen yn 1991 yw'r Instituto Cervantes (Sefydliad Cervantes). Mae gan y sefydliad hwn ganghennau mewn 45 o wledydd, gydag 88 o ganolfannau wedi'u neilltuo i ddiwylliannau Sbaenaidd ac America Sbaenaidd a'r Sbaeneg. Nodau'r Sefydliad yw hyrwyddo addysg, astudiaeth, a'r defnydd o'r Sbaeneg fel ail iaith, cefnogi dulliau a gweithgareddau sy'n helpu'r broses o addysgu Sbaeneg, a chyfrannu at hyrwyddo'r Sbaeneg a diwylliannau Sbaenaidd-Americanaidd mewn gwledydd lle nad ydynt yn siarad Sbaeneg. Amcangyfrifodd adroddiad y sefydliad yn 2015 "El español, una lengua viva" (Sbaeneg, iaith fyw) fod 559 miliwn o siaradwyr Sbaeneg ledled y byd. Mae ei adroddiad blynyddol diweddaraf "El español en el mundo 2018" (Sbaeneg yn y byd yn 2018) yn awgrymu fod 577 miliwn o siaradwyr Sbaeneg ledled y byd. Ymhlith y ffynonellau a ddyfynnir yn yr adroddiad mae Biwro Cyfrifiad yr UD, sy'n amcangyfrif y bydd gan yr Unol Daleithiau 138 miliwn o siaradwyr Sbaeneg erbyn 2050, sy'n golygu mai hi yw'r genedl Sbaeneg fwyaf yn y byd, gyda'r Sbaeneg yn famiaith i bron i draean o'i dinasyddion.

Ffynonellau

Chwiliwch am Sbaeneg
yn Wiciadur.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

    Sefydliadau
  • Real Academia Española (RAE), Academi Sbaeneg Frenhinol. Sefydliad swyddogol Sbaen, gyda chenhadaeth i sicrhau sefydlogrwydd yr iaith Sbaeneg
  • Instituto Cervantes, Sefydliad Cervantes. Asiantaeth o lywodraeth Sbaen, sy'n gyfrifol am hyrwyddo astudio a dysgu iaith a diwylliant Sbaen.
  • FundéuRAE, Sefydliad Sbaeneg Datblygol. Sefydliad di-elw gyda chydweithrediad yr RAE sy'n ceisio egluro amheuon ac amwysedd Sbaeneg.
    Gwefannau addysgol

Tags:

Sbaeneg Dosbarthiad daearyddolSbaeneg Enwr iaith ar geirdarddiadSbaeneg HanesSbaeneg System ysgrifennuSbaeneg SefydliadauSbaeneg FfynonellauSbaeneg CyfeiriadauSbaeneg Dolenni allanolSbaenegIeithoedd ItalaiddIeithoedd Romáwns

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

ScunthorpeRuckingeIPhoneLlaeth reisAvancYr HolocostLlyfr Glas NeboO FortunaCyfrifiadur personolY Dref WenLewis CarrollGorffennafBerlinEdward I, brenin LloegrHanes CymruCamelCyfarwyddwr ffilmChipstead, CaintParth cyhoeddusEdward Tegla DaviesRiley ReidEisteddfod Genedlaethol CymruRhanbarthUrsa MinorCapel y NantDynodwr Enw Rhyngwladol SafonolRiders of Destiny2il ganrif CCThe FanTancer olewDaniel BooneAderyn haul melynwyrddTrio MandiliCasnewyddApache AmbushManon LescautBarddTrimipraminPaskalProteinWe Feed The WorldMain PageDolffinYr Ymerodraeth RufeinigPaffioSisters of AnarchyDestins ViolésY Byw Sy'n CysguCefnfor yr IweryddFideo ar alwAmbush ValleyLittle ChartEwropYr EidalCook County, IllinoisAntony Armstrong-JonesYr Undeb EwropeaiddMynyddB. R. AmbedkarSmallburghBiperidenNic ParryFarninghamMethamffetaminMeirion EvansGas Pump GirlsThe Grocery ClerkPortiwgalHawlfraintY rhyngrwyd2 EbrillBrythoniaidSen SegurCorditThe Salton Sea🡆 More