Lladin

Hen iaith Rhufain yw Lladin.

Lladin oedd sylfaen yr ieithoedd Romáwns (Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, Rwmaneg ayyb.), a chafodd gryn dipyn o ddylanwad ar ieithoedd eraill Ewrop. Defynyddid Lladin fel lingua franca ysgolheictod ledled Ewrop trwy'r oesoedd canol a'r dadeni dysg, ac yn oedfaon Eglwys Rufain hyd at 1962.

Lladin
Lladin
Enghraifft o'r canlynoliaith farw, iaith yr henfyd, iaith, iaith litwrgaidd Edit this on Wikidata
MathLatino-Faliscan, Ieithoedd De Ewrop Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGair lladin, gair Lladin neu Groeg Edit this on Wikidata
Enw brodorolLingua latina Edit this on Wikidata
cod ISO 639-1la Edit this on Wikidata
cod ISO 639-2lat Edit this on Wikidata
cod ISO 639-3lat Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Fatican Edit this on Wikidata
System ysgrifennuyr wyddor Ladin, Latin alphabet Edit this on Wikidata
Corff rheoleiddioPontificia Academia Latinitatis Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Wiki Lladin
Wiki
Argraffiad Lladin Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Lladin
Geiriadur Lladin

Hanes

    Prif: Hanes Lladin

Mae Lladin yn aelod o gangen yr ieithoedd Italaidd. Yn y 9fed neu'r 8g CC, daeth llwythau â'r ieithoedd Italaidd i Benryn yr Eidal ac fe ddatblygodd y dafodiaith a siaredid yn Latium ar lân Afon Tiber yn Ladin yn ddiweddarach.

Er bod y rhan fwyaf o lenyddiaeth Rufeinig wedi'i hysgrifennu yn Lladin Clasurol, roedd y ffurf a siaredid yn Ymerodraeth Orllewinol Rhufain yn wahanol i Ladin Clasurol yn ei gramadeg, geirfa ac ynganiad, ac fe'i gelwir yn Lladin Llafar. Datblygodd y tafodieithoedd hyn i fod yr ieithoedd Romáwns.

Orgraff

Lladin 
Cyflun o'r hen lawysgrifen Rhufeinig.

Er mwyn ysgrifennu yn Lladin, defnyddiai'r Rhufeiniaid yr Wyddor Ladin, a darddodd o'r Hen Wyddor Italaidd, a darddodd o'r Wyddor Roeg yn wreiddiol. Heddiw mae'r Wyddor Ladin yn bucheddu fel systemau ysgrifennu'r ieithoedd Romáwns, Celtaidd, Germanaidd, rhai o'r ieithoedd Slafeg a rhan fwyaf o ieithoedd bychain y byd.

Ni ddefnyddiai'r Rhufeiniaid hynafol atalnodi ac felly byddai frawddeg a ysgrifennwyd yn wreiddiol fel:

    LVGETEOVENERESCVPIDINESQVE

yn cael ei hysgrifennu mewn argraffiad cyfoes fel:

    Lugete, O Veneres Cupidinesque

neu gyda macron

    Lūgēte, Ō Venerēs Cupīdinēs

sy'n cyfieithu i'r Gymraeg fel:

    Galar, O! gariadon a deheuadau!

Fel arfer ni roddwyd bylchau rhwng geiriau mewn dogfenni ffurfiol.

Etifeddiaeth

Pan ledai'r Ymerodraeth Rufeinig drwy Ewrop dechreuodd Lladin Llafar ddatblygu i mewn i dafodieithoedd gwahanol. Erbyn y 9g esblygasai Lladin Llafar i mewn i'r ieithoedd Romáwns. Am nifer o ganrifoedd yn ddiweddarach roedd yr Ieithoedd Romáwns yn ieithoedd llafar yn unig, gyda Lladin Clasurol yn cael ei defnyddio fel iaith ysgrifenedig o hyd. Er enghraifft defnyddid Lladin fel iaith swyddogol ym Mhortiwgal hyd nes 1296 pan gafodd ei disodli gan Bortiwgaleg.

Eidaleg yw'r iaith fwyaf ceidwadol yn ei geirfa Ladin, a Sardiniaidd yw'r iaith fwyaf ceidwadol yn nhermau'i ffonoleg.

Defnyddiwyd rhai o'r gwahaniaethau rhwng Lladin Clasurol a'r ieithoedd Romáwns i geisio ail-greu Lladin Llafar. Er enghraifft, mae gan yr ieithoedd Romáwns bwyslais ar sillafau penodol a oedd yn bresennol yn Lladin yn ogystal â'r hyd croyw ar lafariaid. Yn Eidaleg, mae yna hyd croyw ar gytseiniaid yn ogystal â phwyslais; yn Sbaeneg a Phortiwgaleg dim ond pwyslais croyw sydd; tra yn Ffrangeg nid yw hyd na phwyslais yn groyw rhagor. Gwahaniaeth mawr rhwng Lladin a Romáwns yw bod yr Ieithoedd Romáwns wedi colli'r holl ffurfdroadau cyflwr.

Mae yna ychydig o eiriau Lladin yn Gymraeg, yn enwedig geiriau crefyddol; llyfr, beibl, eglwys, credo; yn ogystal â geiriau gwyddonol a fenthycwyd yn ddiweddar.

Gramadeg

Dyn yn siarad Lladin yn y cofnodedig i UDA.
A y cysegredig i'r Germaniaid.

Mae Lladin yn iaith synthetig ac ymasiadol gyda lefelau uchel o ffurfdroad enwol a berfol. Mae enwau yn gogwyddo i mewn i 7 cyflwr; gwrthrychol, goddrychol, derbynniol, genidol, abladol, cyfarchol a chyfryngol (gyda ffurfiau lleol o rai enwau lleoedd yn Rhufain Hynafol); gyda phum grŵp gogwyddiad. Mae berfau Lladin yn ffurfdroi yn ôl person, amser a modd gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn cwympo i mewn i un o'r pedwar grŵp rhediad. Nid oes banodau gan Ladin ac felly ni wahaniaethir rhwng enwau pendant ac amhendant, er enghraifft fe ddefnyddir yr un gair i gynrychioli "y ferch" a "merch"; puella.

Y gystrawen gyffrednol yw Goddrych Gwrthrych Berf, ond mae'n newid yn aml ym marddoniaeth a rhyddiaith ar gyfer effaith neu bwyslais. Mae Lladin yn defnyddio rhagddodiaid ac fel arfer fe leolir ansoddeiriau ar ôl enwau. Yn aml fe ollyngir rhagenwau oherwydd fe ellir dadansoddi'r person o'r rhediad neu'r genedl; fe ddefnyddir rhagenwau ond pan nad yw'r ystyr yn hollol amlwg.

Brawddegau

  • Veni, vidi, vici: Deuthum, gwelais, trechais
  • Da mihi cerevisiam celeriter: Rho imi gwrw yn gyflym

Cyfeiriadau

Gweler Hefyd

Chwiliwch am Lladin
yn Wiciadur.

Tags:

Lladin HanesLladin GramadegLladin BrawddegauLladin CyfeiriadauLladin Gweler HefydLladin1962Eglwys RufainEidalegEwropFfrangegIaithLingua francaOesoedd canolPortiwgalegRhufainRwmanegSbaeneg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

9g817NovialRhyfel ffosyddCillian MurphyThe ReplacementsLizzie SpikesBritney RearsSir GaerfyrddinAnna Maria HilfelingManon Steffan RosThe BeatlesEwropRhestr Papurau Bro516480Y Dadeni DysgDmitry MedvedevHir-a-thoddaidCân i GymruFlorence Helen WoolwardEileen BeasleyBarnGwyddelegIsraelPlaid CymruÇınar AğacıCernyw326QueanbeyanArdal o Harddwch Naturiol EithriadolSantThe Poughkeepsie TapesSiroedd cadwedig CymruSophie MelvilleDoreen MasseyDaniel OwenAlwyn HumphreysHawlfraintRhestr gwledydd yn nhrefn eu poblogaethHilma af Klint69 (safle rhyw)408West Manchester Township, PennsylvaniaSantes Arianwen794Rhestr adar PrydainRhigyfarchAthronyddSefforaAmgueddfa Lofaol CymruJohn Lloyd WilliamsStephen SondheimOes y Seintiau yng NghymruRoald DahlRobert Hughes (Robin Ddu yr Ail)16eg ganrif426XHamsterMatchaTrychineb AberfanNapoleon I, ymerawdwr FfraincAllen RaineY Fari LwydLlysieuaethCaraoce660au🡆 More