Gwyddoniadur: Math o waith cyfeirio

Cyfrol ysgrifenedig gynhwysfawr, sy'n gasgliad o wybodaeth ar bwnc neu amrywiaeth o bynciau yw gwyddoniadur.

Gwyddoniadur: Hanes y gwyddoniadur, Geirdarddiad, Gweler hefyd
Brockhaus Konversations-Lexikon

Hanes y gwyddoniadur

Ysgrifennwyd cyfrolau gwyddoniadurol gan rai o awduron Groeg yr Henfyd, megis Aristoteles, a Plinius. Un o brif ganolfannau i weithgarwch o'r fath oedd Llyfrgell enwog Alecsandria yn Yr Aifft.

Yn ystod yr Oesoedd Canol, datblygwyd y dull gwyddonol a'r arfer o nodi ffynonellau gan ysgolheigion Mwslemaidd, a chynhyrchwyd sawl cyfrol gynhwysfawr. Ymysg y rhai mwyaf nodedig mae gwaith Abu Bakr al-Razi ar wyddoniaeth, 270 llyfr Al-Kindi, gwyddoniadur meddygol Ibn Sina, a chyfrolau hanes y Ash'ari, al-Tabri, al-Masudi, ac eraill.

Ysgrifennodd Cassiodorus (c.490 - c.580) wyddoniadur ar ddysg a'r Saith Celfyddyd, sef yr Institutiones divinarum et saecularium litterarum. Daeth y llyfr yn waith safonol yn yr Oesoedd Canol a astudid ledled Ewrop.

Datblygodd y gwyddoniadur modern o'r geiriadur yn ystod y 18g. Ymysg cyfrolau arloesol y ganrif honno mae'r Cyclopaedia, or Universal Dictionary of Arts and Sciences, Encyclopædia Britannica, a'r Brockhaus Konversations-Lexikon.

Cyhoeddwyd y gwyddoniadur aml-gyfrol Cymraeg cyntaf mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 dan yr enw Y Gwyddoniadur Cymreig, dan olygyddiaeth gyffredinol John Parry (1812-1874).

Geirdarddiad

Ffurfiwyd y gair gwyddoniadur, gydag enghreifftiau o 1852 ymlaen, o'r terfyniad -iadur a'r gair gwyddon (sef cangen neilltuol o wybodaeth), o'r gair gwybod. Daw'r gair am wyddoniadur mewn llawer o ieithoedd (Saesneg encyclopaedia a (Ffrangeg encyclopédie er enghraifft) o'r gair Lladin Canol encyclopaedia, o'r gair Roeg ενγκύκλια παιδεία "addysg gyffredinol". Mae gan y Gymraeg gair cynhenid am wyddoniadur, ac yn anarferol yn hynny o beth.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Gwyddoniadur: Hanes y gwyddoniadur, Geirdarddiad, Gweler hefyd 
Chwiliwch am gwyddoniadur
yn Wiciadur.

Tags:

Gwyddoniadur Hanes y gwyddoniadurGwyddoniadur GeirdarddiadGwyddoniadur Gweler hefydGwyddoniadur CyfeiriadauGwyddoniadur

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Y Derwyddon (band)Derbynnydd ar y topManon Rhys1949John Ceiriog HughesGIG CymruY rhyngrwyd1904Helen KellerHollywoodArwyddlun TsieineaiddArthur George OwensAlan SugarMangoRichard ElfynBois y BlacbordTrais rhywiolSefydliad WicifryngauSarn BadrigBoddi TrywerynLos AngelesYr AlbanWiciadurPandemig COVID-19Manon Steffan RosGronyn isatomigGirolamo SavonarolaGwefanDisturbiaCerrynt trydanol2024EwropTom Le CancreRosa LuxemburgMahanaY Rhyfel Byd CyntafBirminghamCalifforniaCyfandirEthiopiaReal Life CamIfan Gruffydd (digrifwr)Washington, D.C.Gwlad PwylRhyw rhefrolOrganau rhywByseddu (rhyw)Siôr (sant)Anna MarekOlewyddenY Rhyfel OerHentai KamenRyan DaviesGwilym Roberts (Caerdydd)RhyngslafeggwefanShowdown in Little TokyoUsenet18 HydrefIndiaRhyfel Sbaen ac AmericaOvsunçuAlexandria RileyGogledd CoreaSefydliad WikimediaRhyw llawAmerican Woman1 MaiJimmy Wales🡆 More