Ewrop: Cyfandir yn hemisffer gogleddol y Ddaear

Un o'r saith cyfandir yw Ewrop.

Mae o'n gyfandir o safbwynt diwylliannol a gwleidyddol yn hytrach nag o ran daearyddiaeth ffisegol. Yn ffisegol ac yn ddaearegol, mae Ewrop yn isgyfandir neu'n benrhyn mawr, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf gorllewinol o Ewrasia. Tua'r gogledd ceir Cefnfor yr Arctig, i'r gorllewin Cefnfor Iwerydd ac i'r de ceir y Môr Canoldir a'r Cawcasws. Mae ffin Ewrop i'r dwyrain yn amhendant, ond yn draddodiadol ystyrir Mynyddoedd yr Wral a Môr Caspia i'r de-ddwyrain fel y ffin dwyreiniol. Ystyrir y mynyddoedd hyn gan y rhan fwyaf o ddaearyddwyr fel y tirffurf daearyddol a thectonig sy'n gwahanu Asia oddi wrth Ewrop.

Ewrop
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop
Mathpart of the world, cyfandir Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlEwropa Edit this on Wikidata
En-us-Europe.ogg, Fr-Europe.ogg, Lb-Europa.ogg, Eo-Eŭropo.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth747,636,045 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserEurope/Athens, Europe/Brussels, Ewrop/Llundain, Kaliningrad Time, Ewrop/Moscfa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolEwrasia, Ostfeste, y Ddaear Edit this on Wikidata
Arwynebedd10,186,000 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAsia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.690959°N 9.14062°E Edit this on Wikidata
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop
Map o'r byd yn dangos Ewrop
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop
Delwedd gyfansawdd lloeren o Ewrop

Ewrop yw'r cyfandir lleiaf ond un yn nhermau arwynebedd, ac mae ganddo tua 10,790,000 km² (4,170,000 mi sg) neu 7.1% o arwynebedd y Ddaear, gydag Awstralia yn unig yn llai na hi. Yn nhermau poblogaeth, dyma'r trydydd cyfandir mwyaf (mae poblogaeth Asia ac Affrica yn fwy). Mae gan Ewrop boblogaeth o 747,636,045 (1 Gorffennaf 2020), neu tua 11% o boblogaeth y byd.

Geirdarddiad

Ym mytholeg Roeg, roedd Ewropa yn dywysoges Ffeniciaidd a gafodd ei herwgipio gan Zeus ar ffurf tarw, a aeth â hi i ynys Creta, lle rhoddodd hi enedigaeth i Minos. I'r bardd Homer, roedd Eurṓpē (Hen Roeg: Εὐρώπη) yn frenhines fytholegol o Greta, yn hytrach na dynodiad daearyddol. Daeth Europa yn enw am dir mawr Groeg, ac erbyn 500 CC roedd ei ystyr wedi ehangu i gynnwys gweddill y cyfandir.

Hanes

Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop 
Ieithoedd Ewrop
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop 
Rhanbarthau Ewrop
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop 
Ewrop ym 1000

Rhannodd ffin ogleddol yr Ymerodraeth Rhufeinig y cyfandir ar hyd afonydd Rhein a Donaw am sawl canrif. Yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Rhufeinig, syrthiodd rhan helaeth o Ewrop i'r Oesoedd Tywyll. Ond parhaodd gwareiddiad y Rhufeinwyr i flodeuo, ond ar ffurfiau newydd, mewn rhannau o dde Ewrop ac yn y de-ddwyrain dan yr Ymerodraeth Fysantaidd. Yn raddol, troes yr Oesoedd Tywyll yn gyfnod goleuach a adnabyddir fel yr Oesoedd Canol. Blodeuodd dysg eto ond ar ffurf geidwadol a dueddai i edrych yn ôl i'r Byd Clasurol a'r Beibl. Ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, goresgynnodd Ymerodraeth yr Otomaniaid ddinas Caergystennin (Istanbwl) – gan dod â diwedd yr Ymerodraeth Fysantaidd – a daeth yn bŵer pwysicaf Ewrop. Un canlyniad o hynny oedd y Dadeni, cyfnod o ddarganfyddiad, fforio a chynydd mewn gwybodaeth wyddonol. Yn ystod y bymthegfed ganrif agorodd Portiwgal yr oes o ddarganfyddiadau, efo Sbaen yn ei dilyn. Ymunodd Ffrainc, yr Iseldiroedd a Phrydain Fawr yn y ras i greu ymerodraethau trefedigaethol enfawr yn Affrica, yr Amerig, Asia ac Awstralasia.

Ar ôl yr oes o ddarganfyddiadau, dechreuodd cysyniadau democratiaeth gymryd drosodd yn Ewrop. Cafwyd nifer o frwydrau am annibyniaeth, er enghraifft yn Ffrainc yn ystod cyfnod y Chwyldro Ffrengig. Arweiniodd y cynnydd hwn mewn democratiaeth i gynydd mewn tensiynau yn Ewrop ar ben y tensiynau oedd yn bodoli'n barod oherwydd cystadleuaeth â'r Byd Newydd. Y gwrthdaro mwyaf enwog oedd hwnnw pan daeth Napoleon Bonaparte i rym a dechrau ar gyfres o oresgyniadau a ffurfiodd yr Ymerodraeth Ffrengig, ac wedyn cwympo'n fuan iawn. Ar ôl y concwestau yma, ymsadrodd Ewrop, ond roedd yr hen sefydliadau eisoes yn ddechrau cwympo.

Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain Fawr yn hwyr yn y ddeunawfed ganrif, ac arweiniodd hyn at symud i ffwrdd o amaeth, mwy o ffyniant economaidd a chynydd cyfatebol mewn poblogaeth. O ddiwedd yr Ail Ryfel Byd tan ddiwedd y Rhyfel Oer, rhannwyd Ewrop yn ddau brif bloc gwleidyddol ac economaidd: y gwledydd Comiwnyddol yn Nwyrain Ewrop (ac eithrio Twrci a Gwlad Groeg) a gwledydd cyfalafol Gorllewin a De Ewrop. O gwmpas 1990, yn ddilyn cwymp Wal Berlin, chwalodd y Bloc Dwyreiniol.

Daearyddiaeth Ewrop

Yn daearyddol mae Ewrop yn rhan o'r ehangdir fwy a elwir yn Ewrasia. Mae'r cyfandir yn dechrau ym Mynyddoedd yr Wral yn Rwsia, sy'n diffinio'r ffin rhwng dwyrain Ewrop ac Asia. Nid yw'r ffin dde-ddwyreiniol ag Asia yn cael ei diffinio'n gyffredinol; gan amlaf mae Afon Wral neu, fel arall, Afon Emba, yn cael ei disgrifio fel ffin y cyfandir yn yr ardal yma. Mae'r ffin yn parhau â Môr Caspia, ac yna Afon Araxes yn y Cawcasws, ac ymlaen i'r Môr Du; mae'r Bosphorus, Môr Marmara, a'r Dardanelles yn diweddu'r ffin ag Asia. Mae Môr y Canoldir i'r de yn gwahanu Ewrop ac Affrica. Y Cefnfor Iwerydd sy'n ffurfio'r ffin orllewinol, ond mae Gwlad yr Iâ, sydd llawer pellach i ffwrdd na'r pwyntiau agosaf i'r cyfandir yn Affrica ac Asia, fel arfer yn cael ei chynnwys yn Ewrop.

Gwledydd Ewrop

Gwladwriaethau annibynnol

Ystyrir y gwladwriaethau annibynnol canlynol i fod yn Ewrop:

       

1 Nid yw Armenia a Cyprus yn rhan o Ewrop yn ddaearyddol, ond gellir eu hystyried yn Ewropeaidd yn diwylliannol.

2 Mae gan Aserbaijan a Georgia tir yn Ewrop i'r gogledd o frig y Cawcasws a'r Afon Kura.

3 Lleolir rhai rhannau o Ffrainc tu fas i Ewrop (megis Gwadelwp, Martinique, Guiana Ffrengig a Réunion).

4 Mae gan Rwsia a Casachstan tir yn Ewrop i'r gorllewin o Mynyddoedd yr Wral ac yr Afonydd Wral ac Emba.

5 Mae enw'r wlad yma yn destun dadl ryngwladol.

6 Mae gan yr Iseldiroedd dwy endid tu fas i Ewrop (Arwba ac Antilles yr Iseldiroedd, yn y Caribi).

7 Lleolir Ynysoedd Madeira Portiwgal yng ngogledd y Cefnfor Iwerydd yn agos i tir mawr Affrica.

8 Lleolir Ynysoedd Dedwydd Sbaen yng ngogledd y Cefnfor Iwerydd; lleolir plazas de soberanía (allglofannau) ar tir mawr Affrica.

9 Mae gan Twrci tir yn Ewrop i'r gorllewin a'r gogledd o'r Bosphorus a'r Dardanelles.

Tabl o wladwriaethau, tiriogaethau a rhanbarthau Ewrop

Enw tiriogaeth,
efo baner
Arwynebedd
(km²)
Poblogaeth
(1 Gorffennaf 2002 amcan.)
Dwysedd poblogaeth
(per km²)
Prifddinas
Dwyrain Ewrop:
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Belarws 207,600 10,335,382 49.8 Minsk
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Bwlgaria 110,910 7,621,337 68.7 Sofia
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Hwngari 93,030 10,075,034 108.3 Budapest
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Moldofa 33,843 4,434,547 131.0 Chisinau
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Gwlad Pwyl 312,685 38,625,478 123.5 Warsaw
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Rwmania 238,391 21,698,181 91.0 Bwcarést
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Rwsia 3,960,000 106,037,143 26.8 Moscow
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Slofacia 48,845 5,422,366 111.0 Bratislava
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Gweriniaeth Tsiec 78,866 10,256,760 130.1 Praha
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Wcrain 603,700 48,396,470 80.2 Kiev
Gogledd Ewrop:
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Denmarc 43,094 5,368,854 124.6 Copenhagen
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Y Deyrnas Unedig 244,820 59,778,002 244.2 Llundain
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Estonia 45,226 1,415,681 31.3 Tallinn
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Ynysoedd Ffaroe (Denmarc) 1,399 46,011 32.9 Tórshavn
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Y Ffindir 337,030 5,183,545 15.4 Helsinki
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Ynys y Garn 78 64,587 828.0 St Peter Port
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Gwlad yr Iâ 103,000 279,384 2.7 Reykjavík
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Iwerddon 70,280 3,883,159 55.3 Dulyn
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Jersey 116 89,775 773.9 Saint Helier
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Latfia 64,589 2,366,515 36.6 Riga
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Lithwania 65,200 3,601,138 55.2 Vilnius
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Norwy 324,220 4,525,116 14.0 Oslo
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Ynysoedd Svalbard a
Jan Mayen
(Norwy)
62,049 2,868 0.046 Longyearbyen
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Sweden 449,964 8,876,744 19.7 Stockholm
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Ynys Manaw 572 73,873 129.1 Douglas
De Ewrop:
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Albania 28,748 3,544,841 123.3 Tirana
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Andorra 468 68,403 146.2 Andorra la Vella
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Bosnia-Hertsegofina 51,129 3,964,388 77.5 Sarajevo
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Croatia 56,542 4,390,751 77.7 Zagreb
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Yr Eidal 301,230 57,715,625 191.6 Rhufain
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Dinas y Fatican 0.44 900 2,045.5 Dinas y Fatican
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Gibraltar (DU) 5.9 27,714 4,697.3 Gibraltar
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Gwlad Groeg 131,940 10,645,343 80.7 Athen
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Gogledd Macedonia 25,333 2,054,800 81.1 Skopje
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Malta 316 397,499 1,257.9 Valletta
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Montenegro 13,812 616,258 48.7 Podgorica
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Portiwgal 91,568 10,084,245 110.1 Lisbon
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  San Marino 61 27,730 454.6 San Marino
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Sbaen 498,506 40,077,100 80.4 Madrid
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Serbia 88,361 9,598,000 96.7 Beograd
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Slofenia 20,273 1,932,917 95.3 Ljubljana
Gorllewin Ewrop:
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Yr Almaen 357,021 83,251,851 233.2 Berlin
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Awstria 83,858 8,169,929 97.4 Fienna
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Gwlad Belg 30,510 10,274,595 336.8 Brwsel
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Ffrainc 547,030 59,765,983 109.3 Paris
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Yr Iseldiroedd 41,526 16,318,199 393.0 Amsterdam, Den Haag
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Liechtenstein 160 32,842 205.3 Vaduz
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Lwcsembwrg 2,586 448,569 173.5 Lwcsembwrg
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Monaco 1.95 31,987 16,403.6 Monaco
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Y Swistir 41,290 7,301,994 176.8 Bern
Gorllewin Asia:
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Armenia 29,800 Yerevan
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Aserbaijan 39,730 4,198,491 105.7 Baku
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Cyprus 5,995 780,133 130.1 Nicosia (Lefkosa)
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Georgia 49,240 2,447,176 49.7 Tbilisi
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Twrci 724,378 71,044,932 453.1 Ankara
Canolbarth Asia:
Ewrop: Geirdarddiad, Hanes, Daearyddiaeth Ewrop  Casachstan 370,373 1,285,174 3.4 Astana
Cyfanswm 10,431,299 709,022,061 68.0

Gwelwch hefyd

Chwiliwch am Ewrop
yn Wiciadur.

Tags:

Ewrop GeirdarddiadEwrop HanesEwrop Daearyddiaeth Ewrop Gwledydd Ewrop Gwelwch hefydEwropAsiaCawcaswsCefnfor IweryddCefnfor yr ArctigCyfandirDaearegDaearyddiaeth ddynolDaearyddiaeth ffisegolEwrasiaMynyddoedd yr WralMôr CanoldirMôr CaspiaPenrhyn

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

A Little ChaosTeiffŵnWhite FlannelsTriple CrossedJin a thonigHen Wlad fy NhadauDeal, CaintLlwybr Llaethog (band)460auHunan leddfuCymdeithas Cerdd Dant Cymru11 MawrthDer Gelbe DomJohn RussellMynediad am DdimNo Pain, No GainCarolinaHentai KamenYmbelydreddYoshihiko NodaEva StrautmannMain PageBeulahAlmaenegCyngres yr Undebau LlafurArwyr Ymhlith ArwyrGalaethAriel (dinas)Demograffeg y SwistirEagle EyeMethiant y galonZazDant y llewGadames1179Chris HipkinsGramadeg Lingua Franca NovaCascading Style SheetsGlaw SiwgwrJohn F. KennedyAssociation De MalfaiteursYnysoedd Queen ElizabethCharles Ashton (actor)Rhuthrad yr Hajj (2015)ISO 3166-1Huw ChiswellMicrosoft WindowsBrasilBig BoobsMervyn KingWilson County, TennesseeRhondda Cynon TafRheolaeth awdurdodGwenan JonesY Weithred (ffilm)PrimatGhost ShipCall of The FleshTwo For The MoneyValparaiso, IndianaWicipedia CymraegDon't Look in The Attic1926LlundainLouis XVI, brenin FfraincElisabeth Jerichau-BaumannPaunLa Crème De La CrèmeR. H. QuaytmanCathPysgota yng Nghymru🡆 More