Dinas: Aneddiad mawr a pharhaol

Fel arfer, mae dinas yn anheddiad dynol mawr e.e.

Paris, Caerdydd, ond gall hefyd fod o faint tref bychan e.e. Llanelwy. Yn gyffredinol mae gan ddinasoedd systemau helaeth ar gyfer tai, cludiant, glanweithdra, cyfleustodau, defnydd tir, a chyfathrebu. Mae eu dwysedd, ar y cyfan, yn hwyluso rhyngweithio rhwng pobl, sefydliadau'r llywodraeth a busnesau, sydd weithiau o fudd i wahanol bartïon yn y broses, ond gall y dwysedd hwn hefyd achosi problemau iechyd a chymdeithasol. Fel arfer, caiff dinas ei diffinio gan gorff megis llywodraeth neu eglwys, drwy siarter.

Dinas: Aneddiad mawr a pharhaol
Dinas Efrog Newydd

Yn hanesyddol, mae trigolion y ddinas wedi bod yn gyfran fach o'r ddynoliaeth, ond ar ôl dwy ganrif o drefoli dwys, mae tua hanner poblogaeth y byd bellach yn byw mewn dinasoedd, sy'n golygu canlyniadau difrifol ar gyfer cynaliadwyedd byd-eang. Mae dinasoedd heddiw fel arfer yn ffurfio craidd ardaloedd metropolitan mwy ac ardaloedd trefol — gan greu nifer o gymudwyr sy'n teithio tuag at ganol dinasoedd ar gyfer cyflogaeth, adloniant a golygu. Fodd bynnag, mewn byd lle mae globaleiddio'n dwysáu, mae pob dinas i raddau gwahanol hefyd yn gysylltiedig, yn fyd-eang, y tu hwnt i'r rhanbarthau hyn.

Cofnodir y gair am y tro cyntaf yn Hanes Gruffudd ap Cynan, yn y 12g.

Dinasoedd Cymru

Saith dinas sydd yng Nghymru: yn ogystal â'r tri awdurdod unedol sydd â statws dinas, mae gan gymunedau Bangor, Llanelwy a Thyddewi statws dinas a gadarnheir gan freintlythyrau.

Yn hanesyddol roedd Llanelwy yn ddinas, gan iddi fod yn ganolfan esgobaeth, a chyfeirir ati fel dinas yn Encyclopædia Britannica 1911. Er hyn nid oedd statws dinas swyddogol gan Lanelwy. Pan roddwyd statws dinas i Dyddewi ym 1994 fe ymgeisiodd Cyngor Cymuned Llanelwy am yr un statws, trwy ddeiseb. Gwrthodwyd y ddeiseb gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o siarter neu freintlythyrau yn cael eu rhoi i'r dref yn y gorffennol, fel yn achos Tyddewi. Aflwyddiannus oedd ceisiadau am statws dinas mewn cystadlaethau yn 2000 a 2002. Cafodd Wrecsam ei wneud yn ddinas ar 1 Medi 2022.

Caiff pennaeth, neu'n amlach bellach, gadeirydd, y ddinas ei chynrychioli gan swydd y maer.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dinas: Aneddiad mawr a pharhaol 
Chwiliwch am dinas
yn Wiciadur.

Tags:

CaerdyddLlanelwyParis

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

MeddalweddRhufainMegan Lloyd GeorgeMichelangeloThe Unbelievable TruthDisturbiaRobert RecordeDirty DeedsCrefyddFideo ar alwFfilm bornograffigDydd GwenerAlphonse DaudetPalesteiniaidKappa MikeyEfrog NewyddY Coch a'r GwynUsenetPunch BrothersMathemategydd2003TaekwondoCREBBPSpring SilkwormsCalsugnoSbaenIâr (ddof)Gemau Olympaidd yr Haf 2020CobaltIranRoyal Shakespeare CompanyJustin TrudeauSidan (band)Hizballah69 (safle rhyw)Eugenie... The Story of Her Journey Into PerversionLlywodraeth leol yng NghymruKal-onlineThe New York TimesDydd Gwener y GroglithEvil LaughAnimeKatell KeinegCymdeithas ryngwladolComicGwledydd y bydEtholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016Jem (cantores)Aisha TylerAncien RégimeDurlifSafleoedd rhywRhyw Ddrwg yn y CawsRichard WagnerWiciadurProto-Indo-EwropegGwyddoniadurD. W. GriffithThere's No Business Like Show BusinessTerfysgaethNicaragwaPrifadran Cymru (rygbi)Samarcand2020Swydd GaerloywDuwCyfunrywioldebY Rhyfel Byd CyntafTîm pêl-droed cenedlaethol merched AwstraliaArlene Dahl8 TachweddLife Is SweetRMS Titanic🡆 More