Y noson cyn y Nadolig yw Noswyl Nadolig, sef y 24ain o Ragfyr.
Yn draddodiadol, gelwid y noson hon yn 'nos Nadolig'. Dyna'r ffurf mewn rhai tafodieithoedd hyd heddiw.
Dyma'r noson y daw Siôn Corn a'i anrhegion i blant y Gorllewin, America a rhannau o Asia. Fel arfer, mae'r dydd yn cael ei ddefnyddio i gwbwlhau trefniadau munud olaf ar gyfer y Nadolig: paratoi'r llysiau ar gyfer y cinio, lapio'r anrhegion a'u dosbarthu i ffrindiau a theulu.
Mewn rhai gwledydd megis y Weriniaeth Tsiec, Slofacia, Croatia a Hwngari, nid Siôn Corn sy'n dosbarthu'r anrhegion ond y Baban Iesu.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Noswyl Nadolig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.