Un o ddyfeisiadau ymylol y cyfrifiadur yw'r argraffydd sy'n creu argraffiad (neu brint) o ddelwedd a thestun ar bapur.
Math | dyfais electronig, peiriant argraffu, perifferolyn |
---|---|
Yn cynnwys | printer carriage |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhyrchwyd yr argraffydd cyntaf, yr 'EP-101', gan gwmni Epson, o Japan yn 1968. Roedd y teipiadur yn bodoli cyn hynny wrth gwrs, ond ystyrir yr argraffyd cyfrifiadurol yn ddyfais electronig a gysylltir i gyfrifiadur. Er i Charles Babbage gynllunio dyfais nid annhebyg i'r argarffydd yn 19g, ni chafod ei greu tan 2000. Defnyddiai'r argraffyddion cynharaf rannau o'r teipiadur a'r peiriannau 'Teletype'.
Argraffyddion 'dot matrics' oedd y cynharaf i ymddangos, ond roedd y safon yn bur isel, yna, yn y 1980au cynnar daeth y daisy wheel, a chododd y safon ond dim ond testun oedd yn cael ei argraffu; roedd hefyd yn argraffu'n llawer cynt na'r dot matrics. Yr un pryd cynhyrchwyd arfgraffydd a elwid yn plotter - ar gyfer pensaeri ayb er mwyn creu llinellau, glasbrint a diagramau mawr, hyd at maint A1.
Erbyn 1983 roedd yr argraffydd laser wedi cyrraedd: a hynny'n wreiddiol gan gwmni Hewlett-Packard (HP); argraffydd a a oedd yn cynnwys yr iaith gyfrifiadurol PostScript (a ddatblygwyd gan Adobe Systems), a chododd y safon dros nos.. Roedd yr argraffyddion laser, drwy'r defnydd o BostScript yn uno testun a delweddau ac yn gwneud hynny i safon gwell na chyn hynny ac yn llawer cyflymach. Agorwyd siopau bychan i gynnig gwasanaethau printio, copio ayb ac ar yr un pryd daeth prisiau argraffyddion laser i lawr i tua £250, a rhai lliw llawn oddeutu £400.
Math arall o argraffydd oedd y deskjet: lansiwyd y cyntaf yn 1988 gan HP unwaith eto, sef yr HP Deskjet, oedd fymryn yn rhatach na'r laser, ond a'i safon hefyd fymryn yn is, yn ddibynnol ar y papur a ddefnyddid. Erbyn 2000 roedd y rhain ar gael am oddeutu canpunt, a gwelwyd gwerthiant yr argraffydd matrics yn lleihau. Fodd bynnag, yn 2019 roedd rhai yn dal i'w cael, ac yn gweithio'n berffaith; gwelir un mewn garej yn Rhuthun roedd un yn dal i gael ei ddefnyddio i argraffu biliau a derbynebion.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Argraffydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.