Gwasanaeth cyfieithu sy'n seiliedig ar ystadegau ac a ddarperir gan Google Inc.
i gyfieithu testun, dogfen, neu wefan i iaith arall ydyw Google Translate. Mae ar gael yn rhad ac am ddim.
URL | translate.google.com |
---|---|
Math o wefan | Peiriant cyfieithu |
Cofrestru | Na |
Perchennog | |
Crëwyd gan | |
Statws cyfredol | Gweithredol |
Cyflwynwyd y gwasanaeth yn 2007. Cyn hynny, yr oedd Google yn defnyddio peiriant cyfieithu a oedd yn seiliedig ar SYSTRAN. Roedd technoleg SYSTRAN hefyd yn seiliedig ar wasanaethau cyfieithu eraill, megis 'Yahoo! Babel Fish', AOL, a Yahoo.
Gan fod peiriannau cyfieithu yn dibynnu ar gronfa o eirfa a gedwir mewn cronfa ddata, gall cyfieithiadau o un iaith i'r llall fod yn amheus iawn, yn enwedig gydag ieithoedd lle bo newidiadau i gystrawennau, geiriau, a gramadeg (megis trefn ansoddeiriau-enwau a threigladau a geir mewn ieithoedd Celtaidd). Roedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ystyried Google Translate, a'r fath adnoddau, i fod yn "... adnoddau defnyddiol i gyfieithwyr proffesiynol..." a bod y Bwrdd "...wrthi'n paratoi cyngor i gyrff cyhoeddus [i ddweud] nad ydyw'n dderbyniol i ddibynnu'n llwyr ar y fath feddalwedd i gyflawni gofynion Cynlluniau'r Iaith Gymraeg." Mae'r Wicipedia Cymraeg wedi'i ddyfynnu fel un o'r prif resymau pam mae Google Translate Cymraeg wedi gwella'n fawr, gan fod Wicipedia yn darparu corpws mawr o eiriau i Google Translate ddibynnu arno.
Gellir cymharu ansawdd Google Translate (fersiwn Tachwedd 2015), fel a ganlyn:
Saesneg gwreiddiol | Cymraeg Google Translate | Nodiadau |
---|---|---|
The common alder provides food and shelter to wildlife, with a number of insects, lichens and fungi being completely dependent on the tree. | Mae'r wernen gyffredin yn darparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt, gyda nifer o bryfed, cennau a ffyngau yn gwbl ddibynnol ar y goeden. | Cywir. |
It is a pioneer species, colonising vacant land and forming mixed forests as other trees appear in its wake. | Mae'n rhywogaeth arloeswr, cytrefu tir gwag a ffurfio coedwigoedd cymysg fel coed arall yn ymddangos yn ei sgil. | Anghywir; gwell fyddai: 'Mae'n rhywogaeth sy'n arloesi'. Anghywir hefyd yw 'fel coed arall...'; gwell fyddai: 'fel y mae coed eraill...' |
Eventually common alder dies out of woodlands because the seedlings need more light than is available on the forest floor. | Yn y pen draw gwern cyffredin yn marw allan o goetiroedd am fod y eginblanhigion angen mwy o oleuni nag sydd ar gael ar lawr y goedwig | Anghywir: 'Yn y pen draw gwern cyffredin yn marw allan o goetiroedd am fod...'; cywir fyddai: 'Yn y pen draw, mae'r wernen yn diflannu o'r coedtiroedd gan fod...'. Anghywir hefyd yw 'y eginblanhigion'; cywir fyddai 'yr egin-blanhigion'. Gweddill y frawddeg yn gywir. |
Its more usual habitat is forest edges, swamps and riverside corridors. | Ei gynefin mwy arferol yw ymylon coedwigoedd, corsydd a choridorau ar lan yr afon. | Brawddeg Saesneg wael; nid oes angen 'mwy'. Dim bai yma ar y peiriant cyfieithu. Nid yw'r gair 'coridorau' yn gweddu gant-y-cant yn y Gymraeg. |
Fel y gwelir, mae'r rhan fwyaf o'r cyfieithiad Cymraeg yn gywir, ond ceir sawl camgyfieithu annerbyniol.
Gellir defnyddio Google Translate oddi fewn i'r Cymhorthydd Cyfieithu, drwy ddewis y tesun ac yna ctrl ac Alt.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Google Translate, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.