Mae ffiseg (o'r Groeg φυσικός, naturiol, a φύσις, natur) neu anianeg (term hynafol am ddeddfau neu drefn natur) yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur er mwyn deall sut mae'r bydysawd yn gweithio.
Astudiaeth o fater ydyw ynghyd â chysyniadau perthnasol eraill e.e. ynni a grym a'i amcan yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, ynni, gofod ac amser.
Enghraifft o'r canlynol | cangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd, union wyddoniaeth |
---|---|
Math | gwyddoniaeth naturiol |
Rhan o | gwyddoniaeth ffisegol |
Yn cynnwys | astroffiseg, ffiseg arbrofol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffiseg | ||||||||||
Dewislen Ffiseg | ||||||||||
Hanes Ffiseg
| ||||||||||
Mae ffiseg yn:
Gwneir defnydd helaeth o gydberthnasau mathemategol i ddisgrifio deddfau ffiseg.
Mae ffisegwyr yn cymryd yn ganiataol bodolaeth mas, hyd, amser, cerrynt trydanol a thymheredd ac oddi wrth y rhain yn gallu diffinio pob maint ffiseg arall.
Ffiseg yw'r wyddoniaeth o mater, ymddygiad y mater a mudiant. Dyma un o'r disgyblaethau gwyddonol hynaf. Yr hen Roegwr Aristotlys a gyfansoddodd y gwaith ysgrifenedig cyntaf am ffiseg.
Yng Nghymru, sefydlwyd cadair ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1877, Caerdydd yn 1883 a Bangor yn 1884.
Mae ffiseg yn cwmpasu ffenomenau eang, o'r gronynnau is-atomig bychan, i'r galaethau anferthol. Mae'r gwrthrychau mwyaf syml yn cael eu cynnwys mewn ffiseg ac felly dywedir fod ffiseg yn "wyddoniaeth sylfaenol". Mae ffiseg yn ceisio disgrifio ffenomena amrywiol sy'n digwydd mewn natur mewn termau syml. Felly, mae ffiseg yn bwriadu cysylltu'r pethau pob dydd yr ydym yn eu gweld o’n cwmpas i darddiad yr achos yn y gobaith o ffeindio'r rheswm eithafol ar gyfer ein bodolaeth. Er enghraifft, roedd y Tsieineaid hynafol wedi arsylwi bod yna rymoedd anweledig rhwng mathau gwahanol o greigiau. Adnabyddir yr effaith yma erbyn hyn fel magneteg neu magnetedd. Yn gynharach darganfu'r Groegwyr hynafol drydan wrth rwbio gwefr efo ffwr. Roedd datblygiadau technoleg yn yr 19g wedi dangos cysylltiad rhwng y ddwy theori. Gelwir hyn yn electromagnetedd.
Yn aml, cai meysydd eu trefnu fel a ganlyn.
|
Mae gan ffiseg berthynas agos â'r gwyddorau naturiol eraill, yn enwedig cemeg. Gelwir cemeg ar sawl maes yn ffiseg, yn enwedig mecaneg cwantwm, thermodynameg ac electromagnetedd. Er hynny, mae ffenomenau cemeg yn ddigon amrywiol a chymhleth i drin cemeg fel disgyblaeth ar wahân. Sut bynnag, derbyniwyd yn gyffredinol gan gemegwyr a ffisegwyr taw deddfau ffiseg sy'n disgrifio camau sylfaenol pob rhyngweithiad cemegol.
Bywydeg · Cemeg · Ecoleg · Ffiseg · Gwyddorau daear · Seryddiaeth
Acwsteg · Astroffiseg ·Cryogeneg · Cosmoleg ·Cysyniadau ffiseg ·Ffiseg atomig, moleciwlaidd ac optig · Ffiseg Mater cyddwysedig · Dynameg Dynameg hylif · Ffiseg Atomig ·Ffiseg cyflymydd ·Ffiseg cyfrifiantol · Gronynau · Gronyn isatomig · Grymoedd sylfaenol ·Thermodynameg · Electromagnetedd · Opteg · Ffiseg gronnynau · Mater · Mecaneg · Mecaneg glasurol · Mecaneg cwantwm · Mecaneg ystadegol · Theori perthnasedd · Perthnasedd Cyffredinol · Theori maes cwantwm ·Thermodynameg · Stateg · Stateg hylif ·Unedau SI
Rhyngweithiad cryf · Electromagnetedd · Rhyngweithiad gwan · Disgyrchedd
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffiseg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.