Bod Dynol: Rhywogaeth o deulu Hominidae, rhywogaeth unigryw o'r genws Homo

Bod dynol yw gair gwyddonol am unrhyw un o'r hil ddynol (dynoliaeth neu ddynolryw) sy'n perthyn i rywogaeth Homo sapiens (neu ‘dyn deallus’); human yn Saesneg.

Bod dynol
Bod Dynol: Cynhanes Cymru, Yn grynno, Geirdarddiad a diffiniad
Pâr o fodau dynol llawn dwf (Gwlad Tai, 2007).
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Teulu: Hominidae
Genws: Homo
Rhywogaeth: H. sapiens
Isrywogaeth: H. s. sapiens
Enw trienwol
Homo sapiens sapiens
Linnaeus, 1758

Mae bod dynol yn epa mawr deudroed sy'n sefyll yn hollol unionsyth ac a osodir yn y teulu primataidd a elwir yn Hominidae. Mae tystiolaeth genynnol o ran DNA yn dangos mai cynefin neu darddle bodau dynol yw Affrica, ac iddynt ddod o'r fan honno tua 200,000 o flynydoedd yn ôl.

Mae gan fodau dynol ymennydd sydd wedi datblygu llawer pellach na gweddill yr anifeiliaid, yn fiolegol felly. Gall resymoli yn haniaethol, gall ymwneud ag iaith, mewnsyllu a datrus problemau fel maen nhw'n codi. Mae'r gallu ymenyddol hwn ynghyd â chorff fertigol, gyda breichiau rhydd i symud neu ddal a thrin erfyn yn ei alluogi i ddefnyddio arfau llawer mwy nag unrhyw anifail arall i amddiffyn ei hun, i weithio am fwyd neu i ymosod.

Mae bodau dynol wedi eu dosbarthu ar hyd a lled y ddaear ar wahân i'r Antartig. Mae poblogaeth y ddaear bellach yn fwy na 6.7 biliwn, (data Gorffennaf, 2008). Un isrywogaeth sydd ar gael: Homo sapiens sapiens. Mae'n famal ac felly'n llaetha i fwydo ei epil.

Fel epaod, mae dyn yn gymdeithasol ei natur. Mae wedi mireinio'r grefft o gyfathrebu'n effeithiol er mwyn iddo fynegi ei hun, cyfnewid syniadau a threfnu gweithgareddau. Mae wedi creu strwythurau cymdeithasol cywrain a chymhleth o grwpiau sy'n cydweithio ac yn cystadlu yn erbyn ei gilydd; grwpiau mor wahanol â'r teulu a chenhedloedd. Mae'r cydymwneud hwn rhwng dyn a dyn wedi sefydlu dros y milenias diwethaf draddodiadau, defodau, moesau, gwerthoedd a safon dderbyniol gan gymdeithas drwy gyfundrefn o ddeddfau. Gall dyn werthfawrogi harddwch ac estheteg sydd ynghyd â'r awydd i fynegi ei hun wedi arwain at gelfyddyd, llenyddiaeth a cherddoriaeth.

Cynhanes Cymru

Gellir dweud bod tri math o ddynolion yng Nghymru yn ystod y cyfnod cynhanes (a rhaghanes):

  1. Neanderthal cynnar yn Ogof Bontnewydd, ger Llanelwy – 225,000 CP;
  2. Neanderthal clasurol yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin – 50,000 CP;
  3. bod dynol anatomegol fodern yn Ogof Paviland, Gŵyr – 26,000 CP.

Gwyddom hyn gan fod eu hesgyrn wedi'u canfod yno; dim ond llond dwrn o ddannedd yn Ogof Bontnewydd ac mae'r dystiolaeth yn gymharol brin.

Yn grynno

Homo sapiens. Daeth bodau dynol anatomegol fodern i'r amlwg tua 300,000 o flynyddoedd yn ôl yn Affrica, gan esblygu o Homo heidelbergensis a mudo allan o Affrica, gan ddisodli'n raddol perthnasau lleol hynafol. Am y rhan fwyaf o hanes, roedd pob bod dynol yn heliwr-gasglwyr crwydrol. Gwelodd y Chwyldro Neolithig, a ddechreuodd yn Ne-orllewin Asia tua 13,000 o flynyddoedd yn ôl, ymddangosiad amaethyddiaeth ac anheddiadau dynol parhaol. Wrth i boblogaethau ddod yn fwy ac yn fwy dwys, datblygodd mathau o lywodraethu o fewn cymunedau, a rhwng cymunedau, ac mae sawl gwareiddiad wedi codi, gostwng a diflannu. Mae nifer y bodau dynol wedi parhau i godi, gyda phoblogaeth fyd-eang o dros 7.9 biliwn ym mis Rhagfyr 2021.

Mae genynnau a'r amgylchedd yn dylanwadu ar amrywiaeth biolegol dynol - a hynny'n weladwy: yn ffisiolegol, yn tueddu i ddal clefydau'n aml, eu galluoedd meddyliol, maint y corff ac einioes (hyd oes person). Er yr amrywiaeth hwn, ac er bod bodau dynol yn amrywio mewn llawer o nodweddion mae genynau unrhyw ddau berson dros 99% yn union yr un fath. Mae bodau dynol yn ddeumorffig yn rhywiol: yn gyffredinol, mae dynion yn gryfach ac mae gan fenywod ganran uwch o fraster corff. Yn ystod glasoed, mae bodau dynol ('pobl' a ddywedir ar lafar ac yn gyffredin) yn datblygu nodweddion rhyw eilaidd ee bronnau'n chwyddo a chluniau llydan mewn merched, blew'r wyneb ac afal breuant (llwnc) mewn gwrywod, a chedor ar y ddau. O lasoed ymlaen, mae'r ferch hefyd yn cael misglwyf a gallant feichiogi; diwedd y cyfnod hwn yw'r menopos gan fod yn anffrwythlon pan fyddant tua 50 oed.

Bod Dynol: Cynhanes Cymru, Yn grynno, Geirdarddiad a diffiniad 
Nodweddion anatomegol sylfaenol bodau dynol benywaidd a gwrywaidd.

Mae bodau dynol yn hollysol, yn gallu bwyta amrywiaeth eang o ddeunydd planhigion ac anifeiliaid; maent wedi defnyddio tân a mathau eraill o wres i baratoi a choginio bwyd ers cyfnod H. erectus. Gallant oroesi am hyd at wyth wythnos heb fwyd, a thri neu bedwar diwrnod heb ddŵr. Mae pobl, fel arfer, yn effro'n ystod y dydd ac yn cysgu rhwng 7 a 9 awr ar gyfartaledd fin nos. Mae genedigaeth yn gyfnod peryglus, gyda risg uchel o gymhlethdodau a marwolaeth. Yn aml, mae'r fam a'r tad yn darparu gofal i'w plant, sy'n gwbwl ddiymadferth pan cant eu geni.

Mae gan fodau dynol cortecs cyndalcennol (prefrontal cortex) mawr a hynod ddatblygedig, dyma'r rhan o'r ymennydd sy'n gysylltiedig â gwybyddiaeth uwch. Maent yn ddeallus, yn gallu cofio pethau, mae eu hwynebau'n mynegi eu teimladau, maent yn hunanymwybol ac cheir damcaniaeth darogan meddwl, sef y gallu i ddeall pobl eraill trwy roi cyflyrau meddyliol iddynt ee credoau, dyheadau, bwriadau, emosiynau a meddyliau. Mae'r meddwl dynol yn gallu mewnsyllu, meddwl yn breifat, dychmygu, ewyllysio a ffurfio barn ar fodolaeth. Daeth y datblygiad enfawr hwn oherwydd rheswm a thrwy drosglwyddo gwybodaeth o genedlaeth i genhedlaeth. Ymhlith y nodweddion dynol eraill y mae iaith, celf a masnach. Mae'n bosib fod llwybrau-masnach hir fod wedi arwain at sawl ffrwydrad diwylliannol.

Bod Dynol: Cynhanes Cymru, Yn grynno, Geirdarddiad a diffiniad 
Adluniad o Lucy , y sgerbwd Australopithecus afarensis cyntaf a ddarganfuwyd. Roedd yn byw tua 3.2 miliwn o flynyddoedd CP

Geirdarddiad a diffiniad

Mae pob bod dynol modern yn rhywogaeth o Homo sapiens, gair a fathwyd gan Carl Linnaeus yn ei waith Systema Naturae o'r 18g. Mae'r enw generig "Homo" yn tarddu o'r 18g o'r Lladin homō, sy'n cyfeirio at fodau dynol o'r naill ryw neu'r llall. Gall y gair dynol(yn) gyfeirio at bob aelod o'r genws Homo, er ei fod yn gyffredin yn gyffredinol yn cyfeirio at Homo sapiens, yr unig rywogaeth sy'n bodoli. Mae'r enw Homo sapiens yn golygu ‘dyn doeth, dyn gwybodus’. Ceir anghytundeb a ddylid cynnwys dynolion diflanedig, sef y Neanderthaliaid, fel isrywogaeth o H. sapiens ai peidio.

O'r gair Celteg *gdonios ‘bod dynol’ y daw'r gair Cymraeg dyn, sy'n debyg i'r Llydaweg den a'r Wyddeleg duine. Mae'r geiriau hyn yn cyfeirio at bobl o'r ddau ryw, nid dyn yn unig. Mae'r dywedaid Beiblaidd enwog, 'Pa beth yw dyn i ti i'w gofio, a mab dyn i ti ymweled ag ef? yn cyfeirio at y ddynoliaeth gyfan, nid at yr dynion yn unig.

Esblygiad

Epaod (uwchdeulu'r Hominoidea) yw bodau dynol. Y giboniaid (teulu'r Hylobatidae) a'r orangwtangiaid (genws y Pongo) oedd y grwpiau byw cyntaf i wahanu oddi wrth y llinach hon, yna gorilaod, ac yn olaf, y tsimpansî (genws y Pan). Gosodir dyddiad y gwahanu hwn rhwng llinachau dynol a tsimpansî 8–4 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ystod yr epoc Mïosen diweddar, gyda rhai genetegwyr yn cyfyngu'r cyfnod ymhellach, i rhwng 8–7 miliwn ofyo (CP). Dyma'r cyfnod pan ffurfiwyd cromosom 2 drwy uno dau gromosom arall, gan adael bodau dynol gyda dim ond 23 pâr o gromosomau, o'i gymharu â 24 ymhob epa arall.

Esblygodd y genws Homo o Australopithecus. Er bod ffosilau o'r trawsnewidiad yn brin, mae dynolion cynharaf Homo yn rhannu sawl nodwedd allweddol ag Australopithecus. Y cofnod cynharaf o Homo yw’r sbesimen LD 350-1 2.8 miliwn oed o Ethiopia, a’r rhywogaethau cynharaf a enwyd yw Homo habilis a Homo rudolfensis a esblygodd 2.3 miliwn ofyo. Esblygodd H. erectus (weithiau gelwir yr amrywiad Affricanaidd hwn yn H. ergaster) 2 filiwn ofyo a hwn oedd y dynolyn cyntaf i adael Affrica a gwasgaru ar draws Ewrasia. H. erectus hefyd oedd y cyntaf i ddatblygu cynllun corff sy'n nodweddiadol o fod dynol modern.

Hominoidea (epaod)

Hylobatidae (giboniaid)


Hominidae (epaod mawr)
Ponginae
Pongo (orangwtangiaid)

Pongo abelii




Pongo tapanuliensis



Pongo pygmaeus





Homininae (epaod Affrica)
Gorillini
Gorilla (gorilaod)

Gorilla gorilla



Gorilla beringei




Hominini (epaod dynaidd)
Panina
Pan (tsimpansîaid)

Pan troglodytes



Pan paniscus





Hominina (dynolion)

Homo sapiens (bodau dynol)







Daeth Homo sapiens i'r amlwg yn Affrica tua 300,000 ofyo o rywogaeth a ddynodwyd yn gyffredin naill ai fel H. heidelbergensis neu H. rhodesiensis, disgynyddion yr H. erectus a arhosodd yn Affrica. Ymfudodd H. sapiens allan o'r cyfandir, gan ddisodli'r poblogaethau lleol o ddynolion cynharach yn raddol.

Digwyddodd yr ymfudiad allan o Affrica mewn o leiaf dwy don, gyda'r don gyntaf tua 130,000 i 100,000 o flynyddoedd CP, a’r ail (Gwasgariad y De) tua 70,000 i 50,000 ofyo. Aeth H. sapiens ymlaen i wladychu'r holl gyfandiroedd a'r ynysoedd mwy, gan gyrraedd Ewrasia 60,000 ofyo, Awstralia tua 65,000 ofyo, America tua 15,000 ofyo, ac ynysoedd anghysbell megis Hawaii, Ynys y Pasg, Madagasgar a Seland Newydd rhwng 300 a 1280 OC.

Nid dilyniant llinellol neu ganghennog syml oedd esblygiad dynol ond roedd yn cynnwys rhyngfridio rhwng rhywogaethau agos. Mae ymchwil genomig wedi dangos bod croesrywio rhwng dynolion gwahanol yn gyffredin mewn esblygiad dynol. Mae tystiolaeth DNA yn awgrymu bod sawl genyn o darddiad Neanderthalaidd yn bresennol ymhlith yr holl boblogaethau nad ydynt yn Affrica, ac mae'n bosibl bod Neanderthaliaid a dynolion eraill, megis Denisovaniaid, wedi cyfrannu hyd at 6% o'u genom i fodau dynol heddiw.

Nodweddir esblygiad dynol gan nifer o newidiadau morffolegol, datblygiadol, ffisiolegol ac ymddygiadol sydd wedi digwydd ers y rhaniad rhwng y tsimpansî a chyd-hynafiad diwethaf y dynolion. Y mwyaf arwyddocaol o'r addasiadau hyn yw cerdded deudroed, ymennydd mwy o faint, a llai o wahaniaeth mewn dwyffurfedd rhywiol. Mae’r berthynas rhwng yr holl newidiadau hyn yn destun dadl barhaus.

Cynefin a phoblogaeth

Roedd aneddiadau dynol cynnar yn dibynnu ar agosrwydd at ddŵr ac adnoddau naturiol eraill a ddefnyddiwyd ar gyfer cynhaliaeth, megis poblogaethau o ysglyfaeth, anifeiliaid ar gyfer hela, a thir âr ar gyfer tyfu cnydau a phori anifeiliaid dof. Fodd bynnag, mae gan fodau dynol modern allu mawr i newid eu cynefinoedd trwy gyfrwng technoleg, dyfrhau, cynllunio trefol, adeiladu, datgoedwigo a diffeithdiro.

Mae aneddiadau dynol yn parhau i fod yn agored i drychinebau naturiol, yn enwedig y rhai a leolir mewn lleoliadau peryglus ac sydd ag ansawdd adeiladu isel. Mae grwpio a newid cynefinoedd yn fwriadol yn aml yn cael ei wneud gyda'r nodau o ddarparu amddiffyniad, cronni cysuron neu gyfoeth materol, ehangu'r bwyd sydd ar gael, gwella estheteg, cynyddu gwybodaeth neu wella cyfnewid adnoddau.

Mae bodau dynol yn un o'r rhywogaethau gorau am addasu i'w cynefin a'u hinsawdd. Trwy ddyfeisio a newid eu ffyrdd, mae bodau dynol wedi gallu ymestyn eu goddefgarwch i amrywiaeth eang o dymheredd, lleithder ac uchder. O ganlyniad, mae bodau dynol yn rhywogaeth gosmopolitan a geir ym mron pob rhanbarth o'r Ddaear gan gynnwys coedwig law drofannol, anialwch crasboeth, rhanbarthau arctig hynod o oer, a dinasoedd llygredig iawn. Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau eraill wedi'u cyfyngu i rai ardaloedd daearyddol gan fod eu gallu i addasu'n gyfyngedig.

Fodd bynnag, nid yw'r boblogaeth pobl dros y blaned, wedi'i dosbarthu'n unffurf ar wyneb y Ddaear, oherwydd bod dwysedd y boblogaeth yn amrywio o un rhanbarth i'r llall ac mae ardaloedd eang bron yn gyfan gwbl anghyfannedd, e.e. Antarctica a'r cefnforoedd.

Mae'r rhan fwyaf o bobl (61%) yn byw yn Asia; mae'r gweddill yn byw yn yr Americas (14%), Affrica (14%), Ewrop (11%), ac Ynysoedd y De (0.5%).

Hanes

Hanes cynnar

Bod Dynol: Cynhanes Cymru, Yn grynno, Geirdarddiad a diffiniad 
Trosolwg o boblogaeth dynol cynnar a sut yr ymfudodd yn ystod y Paleolithig Uchaf, yn dilyn patrwm 'Gwasgariad y De'.

Hyd at tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd pob person ar wyneb y Ddaear yn byw fel helwyr-gasglwyr.

Digwyddodd y Chwyldro Neolithig (cychwyn amaethyddiaeth) gyntaf yn Ne-orllewin Asia ac ymledodd trwy rannau helaeth o'r Hen Fyd dros y milenia canlynol.

Digwyddodd hefyd yn annibynnol ym Mesoamerica (tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl), Tsieina, Papua Gini Newydd, a rhanbarthau Sahel a Gorllewin Savanna yn Affrica. Arweiniodd mynediad at fwyd dros ben at ffurfio aneddiadau dynol parhaol, dofi anifeiliaid a defnyddio offer metel am y tro cyntaf mewn hanes. Arweiniodd amaethyddiaeth a ffordd o fyw eisteddog at ymddangosiad gwareiddiadau cynnar.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Bod Dynol: Cynhanes Cymru, Yn grynno, Geirdarddiad a diffiniad 
Chwiliwch am bod dynol
yn Wiciadur.

Tags:

Bod Dynol Cynhanes CymruBod Dynol Yn grynnoBod Dynol Geirdarddiad a diffiniadBod Dynol EsblygiadBod Dynol Cynefin a phoblogaethBod Dynol HanesBod Dynol Gweler hefydBod Dynol CyfeiriadauBod DynolAffricaDNAEpaGwyddoniaethHominidaeHomo sapiensPrimatTeulu (bioleg)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Gwyddoniaeth naturiolJohann Sebastian BachCenhinen BedrCharles GrodinCriciethJerry ReedFfrwydrad Ysbyty al-Ahli5 AwstFrankenstein, or The Modern PrometheusSymbolCocênRhestr o arfbeisiau hanesyddol CymruEd SheeranYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaThe New SeekersWashingtonWiciadurSoleil OBaner yr Unol DaleithiauMET-ArtOliver CromwellWicipedia CymraegSwydd CarlowSisiliThe SaturdaysIâr (ddof)Gina GersonPARK72006Google ChromeBlood FestDiwydiant6 AwstGwilym Bowen RhysRetinaCaethwasiaethAnimeiddioGlasoedCwmni India'r DwyrainAurGwainJindabyneRhys MwynDisturbiaElectrolytGwyddbwyllCymruPeter FondaWcráinMagic!John PrescottTrydanIesuFfibr optigLouise BryantLleuadSgemaStar WarsY TalibanDavid MillarBugail Geifr LorraineGwynfor EvansParalelogramAr Gyfer Heddiw'r BoreThe SpectatorAfon TafwysUnicodeCalifforniaY DdaearShïaTähdet Kertovat, Komisario PalmuY gosb eithafNwyY Blaswyr FinegrJohn Frankland RigbySands of Iwo Jima🡆 More