Tardda'r gair democratiaeth o'r Groeg δημοκρατία (democratia), δημος (demos) y werin + κρατειν (cratein) teyrnasu.
Golyga ffurf o lywodraeth a reolir gan boblogaeth y gymdeithas. Mae'r cysyniad hwn wedi cael ei ddehongli a'i ddatblygu mewn gwahanol ffurf trwy hanes ond fel arfer mae'n cynnwys elfen o bleidleisio dros berson neu blaid mewn etholiad er mwyn penodi cynrychiolwyr ar gyfer llywodraeth neu gynulliad.
Caiff ei diffinio fel system sy'n caniatáu: (a:) llywodraeth sy'n cynrychioli mwyafrif ei phobol (b:) llywodraeth ble mae pwer y wlad yn nwylo ei phobl (yn hytrach na'r heddlu neu fyddin) a lle mae'r pwer hwnnw yn eu dwylo nhw yn cael ei weithredu o ddydd i ddydd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy system o gyrychiolaeth.
Yn ôl Larry Diamond, mae'n cynnwys dwy elfen: "System wleidyddol er mwyn dewis llywodraeth drwy etholiadau rhydd a theg ac yn ail bod ei dinasyddion yn weithredol yn y system wleidyddol honno. Ynghlwm wrth y gair hwn hefyd mae parch at hawliau dynol pob un o'i dinasyddion a bod ei dinasyddion yn gweithredu mewn rhyw ffordd i sicrhau fod cyfreithiau yn eu lle sy'n rhoi hawliau cyfartal hyn i bawb".
Mae'r term Groegaidd hwn, sy'n tarddu'n ôl i'r 5g CC, yn gwbwl groes i ἀριστοκρατία (aristokratía) "rheolaeth gan yr elit". Dau air cwbwl groes mewn theori, ond yn ymarferol, mae tir cyffredin heddiw, fel ag yr oedd yn Athen y cynfyd ble rhoddwyd yr hawl i un carfan elitaidd i fod yn ddemocrataidd ac i bleidleisio ond nid y gweddill - y caethweision, merched ayb. Yng Ngwledydd Prydain, tan yr 20g, dim ond tirfeddiannwyr neu bobl ariannog oedd a'r hawl i bleidleisio. Nid oes gan garcharorion, heddiw, yr hawl hwn ychwaith, na phobl ifanc dan 18 oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Democratiaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.