Astrid Lindgren: Sgriptiwr, ysgrifennwr, awdur plant, nofelydd (1907-2002)

Awdur llyfrau plant o Sweden oedd Astrid Anna Emilia Lindgren (née Ericsson), neu fel arfer, Astrid Lindgren,  ynganiad  (14 Tachwedd 1907 - 28 Ionawr 2002).

Mae'n fwyaf adnabyddus am ei chyfres Pippi Hosan-hir (Pippi Långstrump; 1945 ymlaen) a'r canlynol: Emil i Lönneberga (1963 a 1997), Karlsson på taket (Saesneg: Karlsson-on-the-Roof; 1955 ymlaen), a Barnen i Bullerbyn ('Chwe Phlentyn Bullerby', Six Bullerby Children neu The Children of Noisy Village yn UDA); 1947. Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg Siân Edwards o Pippi Hosan-hir gan Wasg y Dref Wen yn 1978.

Astrid Lindgren
Astrid Lindgren: Magwraeth, Gweithiau, Aelodaeth
GanwydAstrid Anna Emilia Ericsson Edit this on Wikidata
14 Tachwedd 1907 Edit this on Wikidata
Vimmerby Parish, Vimmerby Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ionawr 2002 Edit this on Wikidata
Gustav Vasa, Stockholm Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sweden Sweden
Galwedigaethsgriptiwr, awdur plant, nofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPippi Longstocking, Emil i Lönneberga, Karlsson-on-the-Roof, The Six Bullerby Children, Bill Bergson, Ronia the Robber's Daughter, The Brothers Lionheart, Mio, My Son Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth plant, stori dylwyth teg Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolParti Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden Edit this on Wikidata
TadSamuel August Ericsson Edit this on Wikidata
MamHanna Ericsson Edit this on Wikidata
PriodSture Lindgren Edit this on Wikidata
PlantLars Lindgren, Karin Nyman Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Diwylliant ac Addysg, Swediad Rhyngwladol y Flwyddyn, Deutscher Jugendliteraturpreis, Plac Nils Holgersson, Gwobr Lenyddol Svenska Dagbladet, Expressens Heffaklump, Gwobr Selma Lagerlöf, Gwobr 'Right Livelihood', Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Zilveren Griffel, Gwobr Hans Christian Andersen, Officier des Arts et des Lettres‎, Gwobr Illis Quorum, Urdd y Wên, Member of the Order of Vasa, Lisebergsapplåden, Urdd ryddid Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.astridlindgren.com Edit this on Wikidata
llofnod
Astrid Lindgren: Magwraeth, Gweithiau, Aelodaeth

Gweithiai Lindgren ar Fwrdd Golygyddol Llenyddiaeth Plant yn Nhŷ Cyhoeddi Rabén a Sjögren yn Stockholm ac ysgrifennodd dros 30 o lyfrau i blant. Yn Ionawr 2017, credir mai hi yw'r awdur a gyfieithwyd fwyaf yn y byd, a'r pedwerydd awdur mwyaf awdurdodol ar ôl Enid Blyton, H. C. Andersen a'r Brodyr Grimm. Hyd yma (2019) mae Lindgren wedi gwerthu tua 165 miliwn o lyfrau ledled y byd.

Magwraeth

Fe'i ganed yn Näs, ger Vimmerby, Småland, Sweden ar 14 Tachwedd 1907 a bu farw yn Stockholm. Mae llawer o'i llyfrau wedi'u seilio ar ei hatgofion o'r ardal lle'i ganed.

Roedd Lindgren yn ferch i Samuel Awst Ericsson (1875-1969) a Hanna Jonsson (1879-1961). Roedd ganddi ddwy chwaer, Stina ac Ingegerd, a brawd, Gunnar Ericsson, a ddaeth yn aelod o senedd Sweden.

Astrid Lindgren: Magwraeth, Gweithiau, Aelodaeth 
Cyfieithiad Cymraeg Siân Edwards o Pippi Hosan-hir gan Wasg y Dref Wen; 1978.
Astrid Lindgren: Magwraeth, Gweithiau, Aelodaeth 
Amgueddfa Astrid Lindgren, Vimmerby, Sweden

Ar ôl cwbwlhau ei chyfnod yn yr ysgol, cymerodd Lindgren swydd gyda phapur newydd lleol yn Vimmerby. Cafodd berthynas â'r prif olygydd (a oedd eisoes yn briod, ac yn dad) ac yn 1926 ar ôl iddi feichiogi, gofynodd iddi ei briodi. Gwrthododd a symudodd i brifddinas Stockholm, gan ddod yn deipydd a stenograffydd (ysgrifennodd y rhan fwyaf o'r llyfrau mewn stenograffi). Ymhen amser, rhoddodd enedigaeth i'w mab, Lars, yn Copenhagen a'i adael yng ngofal teulu maeth.

Wedi cyfnod o deithio, daeth a Lars adref at ei rhieni, a fagodd ef, tra bod Lindgren yn gweithio.

Yn 1932 priododd ei chyflogwr, Sture Lindgren (1898-1952), wedi iddo adael ei wraig. Dair blynedd yn ddiweddarach, ym 1934, rhoddodd Lindgren enedigaeth i ail blentyn, Karin, a fyddai'n dod yn gyfieithydd. Dyfeisiwyd y cymeriad Pippi Longstocking i ddifyrru Karin pan oedd hi'n sâl yn y gwely. Yn ddiweddarach, nododd Lindgren fod Karin wedi gofyn yn sydyn iddi am stori am gymeriad o'r enw "Pippi Longstocking," a chrëwyd y stori fel ymateb i'r cais hwnnw.

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden ac roedd ei brawg Gunnar yn aelod o senedd Sweden.

Yn 1941 symudodd Astrid Lindgren a'i theulu i fflat yn Dalagatan, ac yno y bu hyd at ei marwolaeth yn 94 oed.

Gweithiau

Aelodaeth

Bu'n aelod o 'Gymdeithas Y Naw' am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal Diwylliant ac Addysg (1975), Swediad Rhyngwladol y Flwyddyn (1997), Deutscher Jugendliteraturpreis (1956), Plac Nils Holgersson (1950), Gwobr Lenyddol Svenska Dagbladet (1945), Expressens Heffaklump (1970), Gwobr Selma Lagerlöf (1986), Gwobr 'Right Livelihood' (1994), Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg (1978), Gwobr Zilveren Griffel (1983), Gwobr Hans Christian Andersen (1958), Officier des Arts et des Lettres‎ (1991), Gwobr Illis Quorum (1985), Urdd y Wên, Member of the Order of Vasa (1968), Lisebergsapplåden (1985), Urdd ryddid (1995) .

Cyfeiriadau

Tags:

Astrid Lindgren MagwraethAstrid Lindgren GweithiauAstrid Lindgren AelodaethAstrid Lindgren AnrhydeddauAstrid Lindgren CyfeiriadauAstrid Lindgren14 Tachwedd1907200228 IonawrAwdurDelwedd:Sv-Astrid Lindgren.oggGwasg y Dref WenSv-Astrid Lindgren.oggSwedenUDAWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

13 (ffilm, 2010)CorditPoenliniaryddWaxhaw, Gogledd CarolinaDewi SantAlbert EinsteinEtholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016Caracara gyddfgochEsperantoTwnnel Rheilffordd GotthardPlatfform cyfrifiadurolMark RobertsElizabeth TaylorDestins ViolésForbesGwladJohn Tudor Jones (John Eilian)Sen SegurWilliam Williams, PantycelynPedair Cainc y MabinogiBacteriaDe CoreaThe Louvin BrothersThe Kid BrotherShinzō AbePrairie ThunderCynnwys rhyddGweriniaethPrairie RaidersIll NiñoDiwinyddiaeth rhyddhadY LolfaPeiriant Wayback1260Glan DaviesGwlad Pwyl2023Reema BansalBlue Bloods (cyfres deledu)Benthyciad myfyrwyrAccadde Di NotteStephen WardRabiY Cae RasSimon ArmitageModur trydanCastell GwydirTrefi yng Nghymru wedi eu gefeillio â threfi yn LlydawAmericanwyr SeisnigMershamLiberty HallParaíbaOceaniaSteffan CennyddCeri DupreeEdward VII, brenin y Deyrnas UnedigPinocchio (ffilm 1940)Cefin RobertsChipstead, CaintJohn Gwilym Jones (bardd)James CoburnRhyddfrydiaethEnwau'r CymryGina GersonBancActinidWrecsamLes DégunsKhawaja Nazimuddin🡆 More