Erthygl fer iawn yw eginyn, sydd fel arfer yn cynnwys un paragraff yn unig.
Mae awdur eginyn yn ei greu er mwyn ysgogi pobl sydd â diddordeb yn y pwnc, neu sydd â llawer o wybodaeth amdano, i ychwanegu at yr erthygl:
| Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu. |
I weld pa erthyglau sydd angen eu hehangu, gwyliwch y rhestr hon.
Wrth i'r Wicipedia dyfu rydym yn creu categorïau egin mwy penodol; mae gennym ni gategori ar gyfer eginau am hanes Cymru er enghraifft. I ychwanegu erthygl at y categori eginyn hwnnw, rhowch y nodyn {{eginyn hanes Cymru}} ar ddiwedd yr erthygl. Mae'r nodiadau eginyn hyn ar gael yn barod am nifer o wledydd, e.e. {{eginyn Montenegro}} a sawl pwnc a maes, e.e. {{eginyn athroniaeth}} ac {{eginyn cerddoriaeth}}.
Cewch weld rhestr lawn o'r nodiadau egin ychwanegol hyn yma.
Ond peidiwch â phoeni'n ormodol os nad ydych yn siwr pa nodyn i'w ddefnyddio. Bydd rhywun yn siwr o sylwi ar yr erthygl newydd a'i roi yn y categori egin cywir. Y peth pwysig ydy creu'r erthygl yn y lle cyntaf!
Ewch ati felly!
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wicipedia:Eginyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.