Fel arfer, mae dinas yn anheddiad dynol mawr e.e.
Paris, Caerdydd, ond gall hefyd fod o faint tref bychan e.e. Llanelwy. Yn gyffredinol mae gan ddinasoedd systemau helaeth ar gyfer tai, cludiant, glanweithdra, cyfleustodau, defnydd tir, a chyfathrebu. Mae eu dwysedd, ar y cyfan, yn hwyluso rhyngweithio rhwng pobl, sefydliadau'r llywodraeth a busnesau, sydd weithiau o fudd i wahanol bartïon yn y broses, ond gall y dwysedd hwn hefyd achosi problemau iechyd a chymdeithasol. Fel arfer, caiff dinas ei diffinio gan gorff megis llywodraeth neu eglwys, drwy siarter.
Yn hanesyddol, mae trigolion y ddinas wedi bod yn gyfran fach o'r ddynoliaeth, ond ar ôl dwy ganrif o drefoli dwys, mae tua hanner poblogaeth y byd bellach yn byw mewn dinasoedd, sy'n golygu canlyniadau difrifol ar gyfer cynaliadwyedd byd-eang. Mae dinasoedd heddiw fel arfer yn ffurfio craidd ardaloedd metropolitan mwy ac ardaloedd trefol — gan greu nifer o gymudwyr sy'n teithio tuag at ganol dinasoedd ar gyfer cyflogaeth, adloniant a golygu. Fodd bynnag, mewn byd lle mae globaleiddio'n dwysáu, mae pob dinas i raddau gwahanol hefyd yn gysylltiedig, yn fyd-eang, y tu hwnt i'r rhanbarthau hyn.
Cofnodir y gair am y tro cyntaf yn Hanes Gruffudd ap Cynan, yn y 12g.
Saith dinas sydd yng Nghymru: yn ogystal â'r tri awdurdod unedol sydd â statws dinas, mae gan gymunedau Bangor, Llanelwy a Thyddewi statws dinas a gadarnheir gan freintlythyrau.
Yn hanesyddol roedd Llanelwy yn ddinas, gan iddi fod yn ganolfan esgobaeth, a chyfeirir ati fel dinas yn Encyclopædia Britannica 1911. Er hyn nid oedd statws dinas swyddogol gan Lanelwy. Pan roddwyd statws dinas i Dyddewi ym 1994 fe ymgeisiodd Cyngor Cymuned Llanelwy am yr un statws, trwy ddeiseb. Gwrthodwyd y ddeiseb gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o siarter neu freintlythyrau yn cael eu rhoi i'r dref yn y gorffennol, fel yn achos Tyddewi. Aflwyddiannus oedd ceisiadau am statws dinas mewn cystadlaethau yn 2000 a 2002. Cafodd Wrecsam ei wneud yn ddinas ar 1 Medi 2022.
Caiff pennaeth, neu'n amlach bellach, gadeirydd, y ddinas ei chynrychioli gan swydd y maer.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dinas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.