Lego

Mae Lego yn llinell o deganau adeiladu plastig a gweithgynhyrchwr gan The Lego Group, cwmni preifat a leolir yn Billund, Denmarc.

Lego
logo LEGO

Y Cynnyrch

Lego 
briciau Lego a Duplo

Mae cynnyrch blaenllaw'r cwmni, Lego, yn cynnwys brics plastig lliwgar sy'n cyd-gloi gyda nifer o gerau, ffigurau o'r enw minifigures, ac amryw o rannau eraill.

Gellir casglu darnau Lego a'u cysylltu mewn sawl ffordd i adeiladu gwrthrychau gan gynnwys cerbydau, adeiladau a robotiaid sy'n gweithio. Yna gellir tynnu unrhyw beth a adeiladwyd ar wahân. Dechreuodd y Grŵp Lego weithgynhyrchu'r brics teganau rhyng-gyswllt yn 1949. Mae'n cefnogi ffilmiau, gemau, cystadlaethau, ac mae yna wyth o barciau sef Legoland wedi'u datblygu o dan y brand.

Mae tua 19 biliwn o elfennau Lego yn cael ei chynhyrchu pob blwyddyn. Mae tua 2.16 miliwn o elfennau Lego yn cael ei modelu pob awr, ac mae yna mwy na 400 biliwn o briciau Lego wedi cael ei chynhyrchu ers 1949. Yn Chwefror 2015 goddiweddodd Lego y cwmni cwmni ceir Ferrari fel y "world's most powerful brand" yn ôl 'Brand Finance'.

Mae Lego yn cael ei rhannu i wahanol oedrannau

Hanes

Dechreuodd The Lego Group yng ngweithdy y saer, Ole Kirk Christiansen (1891-1958), o Billund, Denmarc, a ddechreuodd wneud teganau pren yn 1932. Yn 1934, daeth ei gwmni i gael ei alw'n "Lego" sy'n deillio o'r ymadrodd Daneg Leg Godt, sy'n golygu "chwarae’n dda". Ym 1947, ehangodd Lego i ddechrau cynhyrchu teganau plastig. Yn 1949 dechreuodd Lego gynhyrchu, ymhlith cynhyrchion newydd eraill, fersiwn gynnar o'r brics sy'n cyd-gloi sydd yn gyfarwydd bellach, gan eu galw yn "Brics Rhwymo Awtomatig".

Cyflwynodd The Lego Group linell cynhyrchu Duplo yn 1969, ac mae'n amrywiaeth o flociau syml, mae ei hyd yn mesur dwywaith lled, uchder a dyfnder y blociau Lego safonol ac maent yn anelu at blant iau.

Yn 1978, cynhyrchodd Lego y 'minifigures' cyntaf, sydd ers hynny wedi dod yn elfen bwysig yn rhan fwyaf o setiau Lego.

Themâu y Setiau Lego

Ers y 1950au, mae Grŵp Lego wedi rhyddhau miloedd o setiau gydag amrywiaeth o themâu, gan gynnwys gofod, robotiaid, môr-ladron, trenau, castell, dinosoriaid, y Gorllewin Gwyllt, Disney a ffantasi. Mae rhai o'r themâu clasurol sy'n parhau hyd heddiw yn cynnwys Lego City (llinell o setiau sy'n dangos bywyd y ddinas a gyflwynwyd yn 1973) a Lego Technic (llinell a anelir at efelychu peiriannau cymhleth, a gyflwynwyd yn 1977). Mae yna hefyd setiau newydd ar gael fel Harry Potter ac Star Wars. Mae yna hefyd llawer o setiau wedi ei anelu at blant dros 16 o’r enw Lego Creator Experts.

Dolenni

Cyfeiriadau

Tags:

Lego Y CynnyrchLego HanesLego Themâu y Setiau Lego DolenniLego CyfeiriadauLegoDenmarc

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Comin WicimediaWilliam John Gruffydd (Elerydd)20 EbrillEagle EyeEdward VII, brenin y Deyrnas UnedigSiot dwad wynebDavid T. C. DaviesGwlad PwylCanghellor y TrysorlysS4CMwynCysawd yr HaulTitan (lloeren)AsthmaWiciTudur Dylan JonesOsteoarthritisFfraincThe ApologyDerbynnydd ar y topSochiAnna SewardUnol Daleithiau AmericaAlexander VlahosGwamAmgylcheddaethAlldafliad benywDavid CameronBukkakeLlanengan365 DyddYr ArianninAnilingusRhyfel Annibyniaeth AmericaHunan leddfuTsieinaEv Dirəyi-El DirəyiAmy CharlesFfŵl EbrillRhinogydd20gParamount PicturesTîm Pêl-droed Cenedlaethol PortiwgalBeaulieu, HampshireJuan Antonio VillacañasGwladwriaeth IslamaiddProffwydoliaeth Sibli DdoethGwledydd y bydCamlas LlangollenSex and The Single GirlIncwm sylfaenol cyffredinol1942SefastopolBitməyən ömürBarbara Bush2021Pandemig COVID-19Coron yr Eisteddfod GenedlaetholMyrddinTudur OwenY we fyd-eangRhestr o Lywodraethau Cymru1833🡆 More