Derek Boote: Canwr ac actor o Gymro

Roedd Derek Jon Boote yn ganwr ac actor Cymraeg (13 Rhagfyr, 1942 – 29 Tachwedd 1974).

Derek Boote
Ganwyd13 Rhagfyr 1942 Edit this on Wikidata
Gaerwen Edit this on Wikidata
Bu farw29 Tachwedd 1974 Edit this on Wikidata
Cas-gwent Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor teledu, canwr Edit this on Wikidata

Daeth Boote o bentref y Star, ger Gaerwen ar Ynys Môn. Addysgwyd ef yn Ysgol Gyfun Llangefni ac yng Choleg Cerdd a Drama, Caerdydd.

Gyrfa

Chwaraeodd Boote y gitâr a'r bas dwbl a chanu gyda'r darlledwr Hywel Gwynfryn; yn ddiweddarach fe wnaethant ffurfio grŵp gyda Endaf Emlyn o'r enw Yr Eiddoch yn Gywir. Cystadlodd Boote yn nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971. Bu iddo ymddangos ar gyfres canu poblogaidd Hob y Deri Dando yn 1964.

Perfformiodd Boote ochr yn ochr â'r ddeuawd boblogaidd Ryan a Ronnie (Ryan Davies a Ronnie Williams), gan chwarae'r cymeriad Nigel Wyn gwreiddiol ar eu sioe sgets. Ar ôl iddo farw, daeth Bryn Williams yn ei le. Ymddangosodd hefyd yn y rhaglen deledu Gymraeg Dau a Hanner.

Bu hefyd iddo ymddangos ar gyfresi cerddoriaeth boblogaidd, The Singing Barn (1969) a The Singing Barge (1974).

Yn 1969 ymddangosodd gyda Hywel Gwynfryn, Olwen Rees a Heulwen Haf yn Gwendid ar y Lleuad, rhaglen deledu gomedi a ddisgrifwyd fel "sioe gomedi Bythonaidd gyda hiwmor coch ac ambell gip o gyrff pinc". Mae erthygl ar wefan BBC Cymru yn dweud fod deiseb wedi ei drefnu yn erbyn yn y rhaglen, yn cwyno ei fod yn "anweddus" a bod y rhaglen wedi ei atal ar ôl tair pennod. Mae archif BBC Genome, sy'n tarddu o gofnodion y Radio Times yn dangos fod chwe pennod wedi ei amserlennu rhwng 16 Ionawr a 20 Chwefror 1969.

Rhyddhaodd Boote record EP Byw'n Rhydd ar label Recordiau'r Dryw.

Athro

Weithiau roedd Boote yn dysgu yn Ysgol Gyfun Llanhari, ac yn chwe troedfedd pedair modfedd (1.93m) o daldra roedd yn chwaraewr rygbi amatur brwd.

Marwolaeth

Bu farw Boote ym 1974 mewn ysbyty yng Nghas-gwent, yn dilyn damwain annisgwyl ac anffodus. Ym mis Hydref 1974, roedd yn ffilmio rhaglen i blant, Maldwyn Aldwyn yn stiwdio'r BBC yn Llandaf.. Yn ystod egwyl roedd yn ysmygu yn ei stafell newid pan aeth ei wisg ar dân ar ôl iddo ollwng lludw sigarét arni, a chafodd ei losgi’n ddifrifol. Bu farw rhai wythnosau yn ddiweddarach ym mis Tachwedd.

Disgograffi

  • Byw yn Rhydd, Recordiau'r Dryw, 1968. Cynnwys y caneuon, Byw'n Rhydd, Yr Hyn Ydwyf Fi, San Miguel, Rwyn Mynd Fy Merch, Dagrau, Titrwm Tatrwm. Mae'r clawr yn cynnwys logo adnabyddus Recordiau'r Dryw a Derek.

Dolenni

Cyferiadau

Tags:

Derek Boote GyrfaDerek Boote AthroDerek Boote MarwolaethDerek Boote DisgograffiDerek Boote DolenniDerek Boote CyferiadauDerek Boote13 Rhagfyr1942197429 Tachwedd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Dafydd IwanWiliam III & II, brenin Lloegr a'r AlbanThe Horse BoyMeddalweddThe Principles of LustAfon Tafwys2004Gwyddoniaeth naturiolKim Il-sungSodiwmY Wlad Lle Mae'r Ganges yn BywIstanbulUnicodeDisturbiaGoleuniLuciano PavarottiKal-onlineThe Mayor of CasterbridgeDillwyn, VirginiaShivaThe Wicked DarlingEast TuelmennaBeti GeorgeMacOSWcráinEvil LaughThe Big Bang TheoryHufen tolchJess Davies2020Ail Frwydr YpresEr cof am KellyJohn PrescottTrênAfon CleddauTongaSeiri RhyddionCerrynt trydanolY Blaswyr FinegrDinas y LlygodBreaking AwaySymbol69 (safle rhyw)Ffilm arswydCyfarwyddwr ffilmSF3A3SwolegPARK7CrefyddTaekwondoYr ArctigCymdeithas ryngwladolAlexis de TocquevilleKappa MikeyPedro I, ymerawdwr BrasilCymryIesuY DiliauClive JamesTwo For The MoneyGenreHarry SecombeGwilym BrewysKurralla RajyamYr IseldiroeddLladinJim MorrisonOdlPorth YchainShooterCymdeithas sifilCynnyrch mewnwladol crynswthCymraeg6 Ionawr🡆 More