Darn o dir a amgylchynnir gan ddŵr yw ynys (ac eithrio'r cyfandiroedd).
Gall fod yn y môr neu ar y tir. Ynys fwyaf y byd yw Yr Ynys Las (2.2 miliwn km² / 840,000 milltir sgwâr).
Mae ynysoedd cyfandirol, fel Prydain, yn gorwedd ar silffoedd cyfandirol gyda dim ond sianel o ddŵr rhyngddyn nhw â'r tir mawr, fel rheol.
Mae ynysoedd cefnforol orogenig yn tueddu i orwedd lle mae dau blât lithosfferig yn cwrdd. Mae ynysoedd Siapan yn odweddiadol o'r fath yma o ynys.
Yn rhannau dyfnaf y cefnforoedd ceir ynysoedd cefnforol fwlcanig, fel ynysoedd Hawaii. Mae'r rhain yn arbennig o gyffredin yn y Cefnfor Tawel. Mae gan nifer o ynysoedd coral seiliau fwlcanig hefyd.
Ynys | Môr | Arwynebedd (km²) | Gwlad/Gwledydd | |
---|---|---|---|---|
1. | Yr Ynys Las | Cefnfor yr Iwerydd/Cefnfor yr Arctig | 2,130,800 | Yr Ynys Las, Cenedl ymreolaethol oddi mewn Denmarc |
2. | Gini Newydd | Y Cefnfor Tawel | 785,753 | Indonesia/Papua Gini Newydd |
3. | Borneo | Y Cefnfor Tawel | 748,168 | Indonesia/Maleisia/Brwnei |
4. | Madagasgar | Cefnfor India | 587,042 | Madagasgar |
5. | Ynys Baffin | Cefnfor yr Iwerydd/Cefnfor yr Arctig | 507,451 | Canada |
6. | Sumatra | Cefnfor India | 443,066 | Indonesia |
7. | Honshū | Y Cefnfor Tawel | 230,316 | Japan |
8. | Prydain Fawr | Cefnfor yr Iwerydd | 219,331 | Cymru/Lloegr/Yr Alban |
9. | Ynys Victoria | Cefnfor yr Arctig | 217,291 | Canada |
10. | Ynys Ellesmere | Cefnfor yr Arctig | 196,236 | Canada |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ynys, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.