Gweriniaeth yng nghanolbarth Ewrop yw Gweriniaeth Slofacia (Slovenská republika, gwrando (help·info)) neu Slofacia (Slovensko), rhan ddwyreinol yr hen Tsiecoslofacia.
Y gwledydd gyfagos yw Gweriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl, Wcrain, Hwngari ac Awstria. Y brifddinas yw Bratislava sydd a thros 5.4 miliwn o boblogaeth, gyda'r rhan fwyaf Slofaciaid. Arwynebedd y wlad yw 49,000 square kilometre (19,000 mi sgw). Yr unig iaith swyddogol yw'r Slofaceg, er ceir lleiafrif Hwngareg eu hiaith ar hyd y ffin a Hwngari.
Slovenská republika | |
Arwyddair | Travel in Slovakia - Good idea |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwlad dirgaeedig, gwlad, gwlad OECD |
Prifddinas | Bratislava |
Poblogaeth | 5,449,270 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Nad Tatrou sa blýska |
Pennaeth llywodraeth | Robert Fico |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Slofaceg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Ewrop, Canolbarth Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd |
Arwynebedd | 49,035 km² |
Gerllaw | Morava, Afon Donaw, Ipoly, Tisza, Poprad, Dunajec, Orava, Białka, Váh |
Yn ffinio gyda | Gwlad Pwyl, Wcráin, Hwngari, Awstria, tsiecia |
Cyfesurynnau | 49°N 20°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Slofacia |
Corff deddfwriaethol | Y Cyngor Cenedlaethol |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Slofacia |
Pennaeth y wladwriaeth | Zuzana Čaputová |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Slofacia |
Pennaeth y Llywodraeth | Robert Fico |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $118,657 million, $115,469 million |
Arian | Ewro |
Cyfartaledd plant | 1.34 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.848 |
Cyrhaeddodd y Slafiaid y darn hwn o dir, a elwir yn Slofacia heddiw, yn y 5ed a'r 6g. Yn y 7g, chwaraeodd y Slafiaid ran allweddol yn y gwaith o greu Ymerodraeth y Samo, ac eilwaith yn 9g gan sefydlu a ffurfio Tywysogaeth Nitra. Concrwyd Nitra'n ddiweddarach gan Dywysogaeth Moravia a'i galw'n "Moreafia Fawr". Yn y 10g, pan ddaeth Morafia fawr i ben unwyd hi â Thywysogaeth Hwngari i ffurfio Brenhiniaeth Hwngari yn 1000.
Yn 1241-2, difethwyd llawer o'r trefi a'r pentrefi gan y Mongolwyr, wrth iddynt geisio goresgyn Canol a Dwyrain Ewrop. Adferwyd llawer o'r wlad gan Béla IV o Hwngari, a daeth llawer o bobl a siarai Almaeneg-Cipszer, gan sefydlogi ychydig ar y wlad, yn enwedig yng Nghanol a Dwyrain Slofacia.
Mae Slofacia'n gowedd rhwng lledred 47° a 50° Gogledd, a hydred 16° a 23° Dwyrain. Yn gyffredinol, gellwir dweud mai ardal fynyddig yw'r tirwedd, gyda Mynyddoedd y Carpatiau (2,655 m (8,711 tr)) yn ymestyn ar draws hanner gogleddol y wlad. Ymhlith y copaon uchaf mae Fatra-Tatra sy'n cynnwys Mynyddoedd y Tatra, y Veľká Fatra a'r Slovenské rudohorie. Yr iseldir mwyaf yw Iseldir y Danube yn y de-orllewin, gydag Iseldir Dwyrain Slofacia'n dynn wrth ei sodlau. Mae 41% o Slofacia'n goedwigoedd.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Slofacia yn gyfrifol am strwythur y gêm yn y weriniaeth gan gynnwys yr Uwch Gynghrair.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Slofacia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.