Astudiaeth wyddonol o'r bydysawd y tu allan i atmosffer y Ddaear yw seryddiaeth, gan gynnwys y sêr, cysawd yr Haul a'r planedau.
Mae'n cynnwys arsylwi ac egluro digwyddiadau tu hwnt i'r ddaear, ac astudio tarddiad a datblygiad gwrthrychau a welir yn yr awyr, ynghyd a'u priodoleddau ffisegol a chemegol.
Seryddiaeth | |
Lleuad Astroffiseg Nifwl |
I'r dyn cyntefig roedd y sêr yn rhyfeddod llwyr. Roedd yn addoli'r haul a'r lleuad gan edrych arnynt fel duwiau.
Am filoedd o flynyddoedd credid mai'r ddaear oedd canolbwynt y greadigaeth a bod y nen yn troi o amgylch y byd unwaith y dydd, ac fe grewyd calendrau gan y Swmeriaid, y Babiloniaid, yr Eifftiaid gynt a'r Groegiaid gynt yn ddibynnol ar y symudiadau yn y ffurfafen.
Aristotlys (384 C.C.C. - 322 C.C.C.) yw'r dyn cyntaf a brofodd nad oedd y byd yn wastad (er mae'n debyg bod pobl yn deall hyn ymhell cyn hynny), ac fe awgrymwyd bod y ddaear yn cylchdroi o gwmpas yr haul gan Aristarchus o Mosa, tua 280 C.C.C..
Hyd at yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd seryddwyr yn arsyllu â'r llygad noeth, ond gyda dyfodiad y telesgop derbyniwyd nad y ddaear oedd canolbwynt y bydysawd.
Planedau yng Nghysawd yr Haul |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Seryddiaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.